Cymraeg

Mae Student Space yn ei gwneud yn haws i chi ddod o hyd i’r gefnogaeth y mae arnoch chi ei hangen yn ystod y coronafeirws.

Dyma restr o beth sydd ar gael ar hyn o bryd yn y Gymraeg fel rhan o Student Space.

Gwasanaethau Cefnogi:

Gwybodaeth am eich llesiant

Y Brifysgol a’ch llesiant yn ystod y coronafeirws

Mae’r coronafeirws wedi creu llawer o ansicrwydd am fywyd fel myfyriwr. Mae’r wybodaeth a’r adnoddau yn yr adran hon yn eich helpu chi i ystyried sut i reoli’r ansicrwydd hwnnw, ymateb i newid a gwella eich profiad fel myfyriwr.

Perthnasoedd a bywyd cymdeithasol

Gall y coronafeirws a chadw pellter cymdeithasol gael effaith ar eich bywyd cymdeithasol yn y brifysgol. Bydd yr wybodaeth yn yr adran hon yn eich helpu chi i ystyried sut i wneud ffrindiau, cynnal perthnasoedd a chreu rhwydwaith cymdeithasol o dan yr amgylchiadau newydd hyn.

Galar a cholled

Yn anffodus, mae’r coronafeirws yn golygu bod llawer mwy ohonom ni’n profi colled, mewn sawl ffordd. Gall rheoli colled tra rydych chi’n fyfyriwr greu ei heriau ei hun. Yn yr adran hon, byddwn yn edrych ar y gwahanol fathau o golledion, sut mae’r broses o golled yn gweithio, a sut gallwch chi gefnogi eich hun.