English | Cymraeg
Mae'r polisi hwn yn nodi ar ba sail y bydd unrhyw wybodaeth bersonol y byddwn yn ei chasglu gennych chi, neu y byddwch chi'n ei darparu i ni, drwy'r wefan hon neu fel arall yng nghyswllt y wefan hon, yn cael ei phrosesu gennym. Darllenwch y polisi'n ofalus i ddeall ein harferion o ran eich gwybodaeth bersonol a sut y byddwn yn ei thrin. Drwy ymweld a pharhau i ddefnyddio'r wefan hon rydych yn cydsynio i'r arferion a ddisgrifir yn y polisi hwn.
At ddibenion cyfraith diogelu data, y rheolydd data o ran yr wybodaeth bersonol a gaiff ei chasglu drwy'r wefan hon, neu y byddwn yn ei chasglu fel arall yng nghyswllt ein prosiectau, yw Student Minds (rhif cofrestru’r elusen 1142783 a rhif cofrestru’r cwmni 07493445). Efallai y byddwn yn rhannu'r wybodaeth â phobl eraill fel y disgrifir isod.
Polisi Preifatrwydd
Mae Student Minds wedi ymrwymo i warchod eich preifatrwydd a'ch diogelwch. Mae'r polisi hwn yn esbonio'r mathau o wybodaeth bersonol rydym yn ei chasglu gennych, sut a pham rydym yn defnyddio eich data personol ac i bwy y gallwn ei ddatgelu, er mwyn sicrhau eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf ac mai chi sy'n ei rheoli.
Efallai y byddwn yn newid y polisi hwn o dro i dro felly edrychwch ar y dudalen hon o bryd i'w gilydd i sicrhau eich bod yn hapus gydag unrhyw newidiadau. Drwy ddefnyddio ein gwefan, rydych chi'n cytuno i ymrwymo i’r polisi preifatrwydd hwn.
Gallwch benderfynu peidio â chael gohebiaeth neu newid sut rydym yn cysylltu â chi ar unrhyw adeg. Os hoffech wneud hynny, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i dataprotection@studentminds.org.uk, ysgrifennu i Student Minds, 17 Springfield Mount, Leeds, LS2 9NG neu ffonio 0113 343 8440 (mae’r llinellau ar agor rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener).
Ni wnawn byth werthu eich data personol, a dim ond gyda sefydliadau yr ydym yn gweithio gyda nhw lle y bo angen ac os yw’r rheini'n gwarantu ei breifatrwydd a'i ddiogelwch y byddwn yn ei rannu.
Pa wybodaeth rydym yn ei chasglu
Data personol y byddwch yn ei roi
Rydym yn casglu data y byddwch yn ei roi i ni. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth a roddwch wrth anfon adborth atom ar ein gwefan. Er enghraifft:
- manylion personol (enw, dyddiad geni, e-bost, cyfeiriad ac ati) wrth gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr cysylltu â ni.
Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth
Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth
Dim ond gyda'ch caniatâd chi y byddwn yn defnyddio eich data personol, neu lle bo angen er mwyn:
- ymrwymo i gontract gyda chi, neu ei gyflawni;
- cydymffurfio â dyletswydd gyfreithiol;
- diogelu eich buddiannau hanfodol;
- er mwyn ein buddiannau cyfreithlon ein hunain (neu drydydd parti), ar yr amod nad yw eich hawliau yn drech na'r rhain.
Dim ond at y diben neu'r dibenion y cafodd eich gwybodaeth ei chasglu y byddwn yn ei defnyddio (neu at ddibenion sy'n perthyn yn agos):
Marchnata
Rydym yn defnyddio data personol i gyfathrebu â phobl, er mwyn hyrwyddo Student Space. Mae hyn yn cynnwys rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein newyddion a diweddariadau.
Pan fyddwch yn cael gohebiaeth, efallai y byddwn yn casglu gwybodaeth amdanoch i ymateb i'r ohebiaeth honno neu i ryngweithio â hi, a gall hyn effeithio ar sut rydym yn cyfathrebu â chi yn y dyfodol.
Rydym yn defnyddio darparwr trydydd parti, MailChimp i ddanfon ein cylchlythyrau. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch hysbysiad preifatrwydd Mailchimp. Ni fyddwn byth yn prosesu'r data hwn mewn ffordd lle bydd modd eich adnabod chi’n bersonol.
Sut rydym yn diogelu data
Sut rydym yn diogelu data
Rydym yn defnyddio amrywiaeth o fesurau ffisegol a thechnegol i gadw eich data yn ddiogel ac i atal mynediad heb awdurdod ato, neu i ddefnyddio neu ddatgelu eich gwybodaeth bersonol.
Mae data electronig a chronfeydd data yn cael eu storio ar systemau cyfrifiadur diogel ac rydym yn rheoli pwy sydd â mynediad at yr wybodaeth (gan ddefnyddio dulliau ffisegol ac electronig). Mae ein staff hefyd yn cael hyfforddiant diogelu data.
Storio
Mae gweithgareddau Student Minds wedi'u lleoli yn y DU ac rydym yn storio ein data yn yr Undeb Ewropeaidd. Gall rhai sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau i ni (yn enwedig darparwyr TG) drosglwyddo data personol y tu allan i'r AEE, ond dim ond os caiff eich data ei ddiogelu'n ddigonol y byddwn yn caniatáu iddynt wneud hynny.
Gyda phwy y gallem rannu eich data personol?
Lle bo angen, gellir rhannu eich gwybodaeth bersonol â sefydliadau eraill er mwyn cyflwyno, cefnogi neu werthuso ein holl brosiectau neu ran ohonynt. Gallai hyn gynnwys ein prifysgolion partner neu undebau myfyrwyr (fel arfer fel rhan o gytundeb sy'n cynnwys cytundeb rhannu data), a darparwyr TG.
Fodd bynnag, dim ond yr wybodaeth bersonol sydd ei hangen i'w galluogi i gyflawni eu rôl ariannu, rheoli, cyflawni neu gefnogi y byddwn yn ei datgelu ac ni fyddwn yn caniatáu iddynt anfon e-bost atoch gydag unrhyw farchnata heb gysylltiad.
Gallwch ddarllen mwy am sut mae ein prif ddarparwyr gwasanaeth yn cydymffurfio â GDPR drwy'r dolenni canlynol: Mailchimp, Google.
Os oes gennych gwestiynau am ein sefydliadau partner, cysylltwch â ni ar dataprotection@studentminds.org.uk
Am ba hyd yr ydym yn storio gwybodaeth
Byddwn ond yn defnyddio ac yn storio gwybodaeth cyhyd ag y bo'n ofynnol at y dibenion y cafodd ei chasglu ar eu cyfer. Bydd am ba hyd y caiff gwybodaeth ei storio yn dibynnu ar yr wybodaeth dan sylw a'r hyn y mae'n cael ei ddefnyddio ar ei gyfer. Er enghraifft, os ydych chi'n gofyn i ni beidio ag anfon negeseuon e-bost marchnata atoch, byddwn yn rhoi'r gorau i storio eich negeseuon e-bost at ddibenion marchnata (er y byddwn yn cadw cofnod o'ch dewis i beidio â chael e-bost).
Gallwch gysylltu â ni ar unrhyw adeg i ofyn i ni ddileu neu newid eich gwybodaeth bersonol.
Rydym yn adolygu'n barhaus pa wybodaeth rydym yn ei chadw ac yn dileu'r hyn nad oes ei angen mwyach.
Chi sy'n rheoli
Rydym eisiau sicrhau mai chi sy'n rheoli eich data personol. Rhan o hyn yw sicrhau eich bod yn deall eich hawliau cyfreithiol, sydd fel a ganlyn:
- yr hawl i gadarnhad a yw eich data personol gennym ai peidio ac, os ydyw, yr hawl i gael copi o'r wybodaeth bersonol sydd gennym (gelwir hyn yn gais am fynediad at ddata gan y testun);
- yr hawl i gael eich data wedi'i ddileu (er na fydd hyn yn berthnasol lle mae'n angenrheidiol i ni barhau i ddefnyddio'r data am reswm cyfreithlon);
- yr hawl i gywiro data anghywir;
- yr hawl i wrthwynebu i'ch data gael ei ddefnyddio at ddibenion marchnata neu broffilio;
- lle y bo'n dechnegol ymarferol, mae gennych yr hawl i ddata personol yr ydych wedi'i ddarparu i ni, yr ydym yn ei brosesu'n awtomatig ar sail eich cydsyniad neu berfformiad contract.
- yr hawl i drosglwyddo’r wybodaeth bersonol a ddarperir i ni i gorff arall
Cofiwch fod eithriadau i'r hawliau uchod ac, er y byddwn bob amser yn ceisio ymateb yn foddhaol, efallai y bydd sefyllfaoedd lle na allwn wneud hynny.
Os ydych am arfer unrhyw rai o'r hawliau hyn, e-bostiwch dataprotection@studentminds.org.uk
Defnyddio ‘cwcis’
Fel llawer o wefannau eraill, rydym yn defnyddio “cwcis”. Mae "cwcis" yn ddarnau bach o wybodaeth sy'n cael eu hanfon a'u storio ar eich cyfrifiadur, ffôn neu dabled i ganiatáu i'r wefan eich adnabod pan fyddwch yn ymweld â hi. Maen nhw'n casglu data ystadegol am eich gweithredoedd a phatrymau pori i wella'r wefan, ond nid ydynt yn eich adnabod chi fel unigolyn. Mae'n bosibl diffodd cwcis drwy bennu dewisiadau yn eich porwr. Gall diffodd cwcis arwain at golli rhai swyddogaethau ar y wefan hon.
Newidiadau i'r datganiad preifatrwydd hwn
Rydym yn cadw'r hawl i newid ein polisi preifatrwydd heb rybudd. Fodd bynnag, byddwn yn ymdrechu i ddiweddaru'r dudalen hon mor rheolaidd ag sy'n ymarferol bosibl. Rydym felly yn eich annog i adolygu'r datganiad hwn o bryd i'w gilydd er mwyn sicrhau eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am sut rydym yn defnyddio ac yn diogelu eich gwybodaeth.
Sut i gysylltu â ni
Os oes gennych chi ymholiad neu bryder ynghylch y polisi preifatrwydd hwn neu ein defnydd o wybodaeth bersonol neu os ydych am arfer unrhyw un o'r hawliau uchod o ran eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â dataprotection@studentminds.org.uk
Gallwch gwyno wrth Student Minds yn uniongyrchol drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt a nodir uchod. Os ydych yn dymuno gwneud cwyn nad yw'n ymwneud yn uniongyrchol â'ch hawliau diogelu data a phreifatrwydd, gallwch wneud hynny yn unol â pholisi cwynion ein helusen.
Os nad ydych yn hapus â'n hymateb, neu os ydych yn credu bod eich hawliau o ran diogelu data neu breifatrwydd wedi'u torri, gallwch gwyno wrth Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth y DU sy'n gyfrifol am reoleiddio a gorfodi cyfraith diogelu data yn y DU. Mae manylion sut i wneud hyn i'w gweld yn www.ico.org.uk
Diweddarwyd ddiwethaf: 24/07/19