Hygyrchedd

Mae gwefan Student Space wedi cael ei chynllunio a’i datblygu er mwyn bod yn hygyrch i’r gynulleidfa ehangaf bosib.

Rydyn ni wedi ymrwymo i gynllunio, profi a chyflwyno’r holl gynnwys ar y wefan yn unol â chydymffurfiaeth WCAG 2.0 AA os yw hynny’n bosib. Mae’r safonau rydyn ni’n profi yn eu herbyn yn dod o safon dechnegol Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau 2.0 (WCAG), a gyhoeddwyd gan Gonsortiwm y We Fyd-Eang (W3C).

Dyma rai o’r camau gweithredu penodol rydyn ni’n eu rhoi ar waith:

  • Rydyn ni’n ceisio ysgrifennu ein holl gynnwys mewn Cymraeg syml, er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn ddefnyddiol i gymaint o bobl â phosib.
  • Mae’r cynnwys yn cael ei wahanu gan benawdau priodol ar gyfer darllen hwylus gan bobl a meddalwedd darllen sgrin.
  • Mae’r uwchddolenni mor ddisgrifiadol â phosib, gan ddisgrifio eu pwrpas a’u lleoliad yn ôl yr angen.
  • Rydyn ni’n osgoi defnyddio testun mewn lluniau os yw hynny’n bosib, a bob amser yn ceisio nodi testun i ddisgrifio cynnwys lluniau.

Rydyn ni’n defnyddio cyfarwyddyd o’r prosiect Canllawiau Darllenadwyedd ar iaith, uwchddolenni a phenawdau.

Cydymffurfiaeth dechnegol

Rydyn ni’n gwneud ein gorau i sicrhau bod ein safle’n gweithio gydag amrywiaeth o dechnolegau, ond ni allwn ymrwymo i brofi pob porwr, fersiwn o system weithredu neu fath o set llaw symudol.

Rydyn ni’n canolbwyntio ar brofi gyda phorwyr modern a thechnoleg fwy diweddar, gan mai dyma’r rhai a ddefnyddir fwyaf cyffredin a dyma sy’n daparu’r gefnogaeth hygyrchedd orau i’n defnyddwyr ni. Rydyn ni’n profi ein gwefan gyda Chrome, Firefox, Internet Explorer a Safari, ar ddyfeisiau symudol a phen desg.

Eich adborth

Os cewch chi unrhyw broblemau gyda hygyrchedd wrth ddefnyddio ein gwefan ni neu os oes arnoch chi angen y cynnwys mewn fformatau eraill, cofiwch roi gwybod i ni drwy anfon e-bost i studentspace@studentminds.org.uk.