Mae’r gwasanaeth yma’n cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â Shout a Crisis Text Line.
Cefnogaeth drwy neges destun
Cefnogaeth 24/7 ar gael gan wirfoddolwr cymwys. Mae am ddim, yn gyfrinachol ac yn ddienw. Os ydych chi’n meddwl am hunanladdiad, yn profi iselder, gorbryder, unigrwydd neu broblemau gyda pherthynas, rydyn ni yma i wrando a helpu.
Tecstiwch ‘SHOUT’ i 85258
Beth allwch chi ei ddisgwyl gan y gwasanaeth yma?
Pan rydych chi’n tecstio ‘SHOUT’ i 85258’, fe gewch chi ateb prydlon yn gofyn i chi esbonio beth sy’n eich poeni.
Byddwch yn cael eich rhoi mewn cysylltiad â gwirfoddolwr argyfwng cymwys, a fydd yn cyfathrebu gyda chi ar neges destun.
Bydd y gwirfoddolwr argyfwng yn gwrando ac yn adlewyrchu ar eich profiad, ac yn nodi adnoddau a strategaethau i’ch helpu chi drwy eich argyfwng.
Tua diwedd y sgwrs, bydd y gwirfoddolwr argyfwng yn gallu eich cyfeirio chi at wasanaethau sy’n darparu rhagor o help a chefnogaeth.
Mae’r gefnogaeth ar neges destun yn ddienw. Does dim angen unrhyw ap na data, dim proses gofrestru, ac mae am ddim i’w ddefnyddio. Gallwch stopio’r sgwrs ar unrhyw adeg drwy anfon y gair ‘STOP’.
Mwy am y gwasanaeth yma
- Ydi’r gwasanaeth yn gyfrinachol?
Fel rheol bydd eich negeseuon yn cael eu gweld gan y gwirfoddolwyr a’u goruchwylwyr yn unig. Byddwn yn rhannu eich negeseuon gyda’r gwasanaethau brys os oes risg fawr y byddwch yn anafu eich hun neu rywun arall.
Mae SHOUT, ein partner darparu, yn defnyddio data a gwybodaeth ddienw i wella’r gwasanaeth ac i wella iechyd meddwl yn y DU yn fwy cyffredinol. Mae'r holl ddata personol a chyd-destunol yn cael eu tynnu o'r deunyddiau sy'n cael eu rhannu gyda phartneriaid. Am fwy o wybodaeth, edrychwch ar bolisi preifatrwydd SHOUT.
Os ydych chi wedi defnyddio'r gwasanaeth, gallwch anfon neges destun gyda'r gair LOOFAH i 85258 i gael dileu eich data a'ch gwybodaeth.
- Ydi’r gwasanaeth am ddim?
Ydi, mae’r gwasanaeth am ddim. Does dim angen unrhyw ap na data ac nid yw’n ymddangos ar eich bil ffôn.
- Am beth allaf i siarad gyda chi?
Rydyn ni’n cael negeseuon testun gan bobl sydd eisiau siarad am broblemau amrywiol. Nid yw hon yn rhestr hollgynhwysfawr, ond efallai y byddwch eisiau siarad gyda ni am y canlynol:
- Meddwl am hunanladdiad neu fwriad i ladd eich hun
- Gorbryder
- Diffyg hwyliau
- Unigrwydd a pherthnasoedd
- Pryderon am y dyfodol
- Pa fath o hyfforddiant a chefnogaeth mae’r gwirfoddolwyr yn eu cael?
mae gwirfoddolwyr yn derbyn 25 awr o hyfforddiant. Maen nhw’n dysgu sut i weithio’n gydymdeimladol gyda’r rhai sy’n eu tecstio, ac yn datblygu cynlluniau gyda hwy i gefnogi eu diogelwch. Maen nhw’n cael eu goruchwylio gan oruchwylwyr clinigol arbenigol sydd ag addysg a phrofiad perthnasol.- Ydi’r gwasanaeth ar gael yn y Gymraeg?
Yn anffodus, nid yw’r gwasanaeth hwn ar gael yn y Gymraeg ar hyn o bryd.