Cefnogaeth i fyfyrwyr gydag anawsterau bwyta
Grŵp cefnogi ar-lein ar gyfer myfyrwyr ag anawsterau ac anhwylderau bwyta.
Beth gallaf ei ddisgwyl gan y grŵp cefnogi?
Mae'r grŵp yn cyfarfod ddwywaith yr wythnos. Pan fyddwch chi'n cofrestru, byddwch yn gallu dewis slot amser, ac wedyn byddwch chi'n gallu ymuno â'r grŵp ar yr amser hwnnw bob wythnos.
Dyma amseroedd y grŵp:
- Nos Fawrth rhwng 6 a 7pm
Mae’r grŵp yn cael ei arwain gan hwylusydd profiadol o dîm First Steps ED. Bob wythnos, mae'r grŵp yn canolbwyntio ar thema a ddewisir, yn seiliedig ar awgrymiadau gan y grŵp yn aml.
Mae gan y grŵp gyfres o ganllawiau sydd wedi'u cynllunio i'w wneud mor ddiogel â phosibl, gan gynnwys cadw cyfrinachedd ac osgoi sbarduno manylion am bwysau, deiet ac ymarfer corff.
Sut i gofrestru
I gofrestru ar gyfer y gweithdy, bydd angen i chi lenwi ffurflen ar y we, gan ddewis y gweithdy Anhwylder Bwyta yn y Gwasanaethau Myfyrwyr a'r amser rydych chi eisiau mynychu.
Ar ôl i chi lenwi'r ffurflen, bydd First Steps ED yn anfon cyfarwyddiadau atoch chi i ymuno â'r grŵp gan ddefnyddio Microsoft Teams.
Cofrestru ar gyfer y grŵp cefnogi