Cefnogaeth i fyfyrwyr Mwslimaidd

Gwasanaeth llinell gymorth i Fwslimiaid ifanc, sy'n cynnig cefnogaeth a chyfeirio saith diwrnod yr wythnos dros y ffôn, ar Whatsapp, gwe-sgwrs ac e-bost.

Mae'r gwasanaeth yma ar agor saith diwrnod yr wythnos, 4 pm i 10 pm. Mae am ddim ac yn gyfrinachol.

Mae'r llinell gymorth yn ofod i ddod o hyd i gefnogaeth a chyfeirio sy'n sensitif i ffydd ar gyfer pa bynnag heriau rydych chi'n eu hwynebu. Bydd y tîm gwirfoddol yn eich cefnogi gydag empathi, grymuso a gwrando astud.

Mae'r gwasanaeth hwn yn cael ei ddarparu gan y Llinell Gymorth Ieuenctid Mwslimaidd, gwasanaeth arobryn a sefydlwyd yn 2001.

Pa gefnogaeth sydd ar gael.

1. Cefnogaeth dros y ffôn i fyfyrwyr Mwslimaidd

Llinell ffôn gyfrinachol am ddim i Fwslimiaid ifanc. Mae ar agor rhwng 4 pm a 10 pm unrhyw ddiwrnod o'r wythnos.

ffoniwch am ddim

2. Cefnogaeth gwe-sgwrs i fyfyrwyr Mwslimaidd

Cewch ddechrau sgwrs gyfrinachol ar-lein gydag un o Swyddogion ein Llinell Gymorth. Mae ar agor rhwng 4 pm a 10 pm unrhyw ddiwrnod o'r wythnos.

cysylltu â’r wefan

3. Cefnogaeth WhatsApp i fyfyrwyr Mwslimaidd

Os yw’n well gennych chi decstio, gallwch ddechrau sgwrs gyfrinachol gyda staff ein llinell gymorth.

Mae ar agor rhwng 4 pm a 10 pm unrhyw ddiwrnod o'r wythnos.

mynediad i'r wefan

4. Cefnogaeth e-bost i fyfyrwyr Mwslimaidd

Angen cefnogaeth ond ddim eisiau ffonio na sgwrsio? Gallwch gyrraedd MYH ar e-bost a byddant yn cysylltu'n ôl yn fuan.

mynediad i'r wefan