Mae’r gefnogaeth yma’n cael ei chyflwyno gan Recovery Connections, sefydliad sy'n arbenigo mewn adfer o ddefnydd o sylwedd dan arweiniad cyfoedion.
Rydym yn cynnig y gefnogaeth ganlynol i fyfyrwyr sy'n gwella o gaethiwed:
Cefnogaeth un i un a grŵp i fyfyrwyr sy'n adfer o gaethiwed.
Mae’r gefnogaeth yma’n cael ei chyflwyno gan Recovery Connections, sefydliad sy'n arbenigo mewn adfer o ddefnydd o sylwedd dan arweiniad cyfoedion.
Rydym yn cynnig y gefnogaeth ganlynol i fyfyrwyr sy'n gwella o gaethiwed:
Sesiynau cefnogi un i un i fyfyrwyr sy’n adfer o gaethiwed.
Sesiynau wythnosol a ddarperir gan arbenigwr cefnogi cyfoedion. Ar ôl asesiad, gallwch fynychu 6 sesiwn un i un gydag arbenigwr cefnogi cyfoedion i helpu gyda'ch siwrnai adfer.
Bydd eich sesiynau'n cael eu cynllunio ar sail yr hyn sydd arnoch ei angen. Yn ystod eich asesiad cychwynnol, bydd yr arbenigwr cefnogi cyfoedion yn edrych ar y problemau posibl a’r meysydd i’w trafod ar gyfer eich sesiynau. Bydd yr arbenigwr hefyd yn gallu darparu gwybodaeth a chyngor perthnasol yn ystod y sesiynau.
Bydd y sesiynau'n cael eu cynnal yn ddiogel, ar-lein ac yn gyfrinachol
Mae'r cyfarfod newydd sbon hwn ar gyfer myfyrwyr sy'n gwella o unrhyw ddibyniaeth, yn fyw, bob dydd Mercher am 6pm. Wedi'i gynnal gan staff Recovery Connections, mae croeso i unrhyw fyfyriwr fynychu i gael cymorth.
Nid oes rhaid i chi ddefnyddio'ch enw iawn, na throi eich camera ymlaen, os nad ydych yn teimlo y gallwch. Yn syml, ymunwch, gwrandewch, rhannwch beth bynnag sydd angen i chi ei rannu, a dewch yn rhan o gymuned ar-lein a fydd yn tyfu dros y misoedd nesaf.
Manylion Cyfarfod
Bydd ID a Chod Mynediad y Cyfarfod Zoom yn aros yr un peth ar gyfer pob cyfarfod:
ID y cyfarfod: 827 8342 4406
Cod mynediad: 123456