Cefnogaeth i fyfyrwyr sy'n clywed lleisiau
Grŵp cefnogi cyfoedion ar-lein a fforwm i fyfyrwyr sy'n clywed lleisiau ac sy'n cael profiadau synhwyraidd eraill.
Grŵp cefnogi cyfoedion ar gyfer y rhai sy'n clywed lleisiau
Cyfle i gymryd rhan mewn galwad zoom reolaidd gyda myfyrwyr eraill sy'n clywed lleisiau a hwylusydd cymwys, i gefnogi eich gilydd ac i gael trafodaeth, a phrofi undod wrth wynebu’r heriau o fod yn fyfyriwr sy'n clywed lleisiau.
Mae’r grŵp hwn yn cael ei gyflwyno gan Voice Collective, elusen sy'n cefnogi pobl ifanc sy'n clywed lleisiau, yn gweld gweledigaethau, ac sydd â phrofiadau neu gredoau synhwyraidd eraill.
Beth sy'n digwydd yn y grŵp cefnogi?
Bydd fformat y grŵp, yn ogystal â hyd ac amledd y sesiynau, yn cael ei ddatblygu gan y cyfranogwyr. Ymunwch â'r sesiwn cyntaf i ddylanwadu ar gyfeiriad y grŵp!
Sut i gofrestru
E-bostiwch info@voicecollective.co.uk i fynegi eich diddordeb, ac wedyn byddwn yn anfon ffurflen atgyfeirio atoch chi i'w llenwi.
Gallwn hefyd drefnu i siarad â chi am y grŵp ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi.
Unwaith y byddwch yn gyfforddus bod y grŵp yn rhywbeth rydych eisiau bod yn rhan ohono, byddwn yn rhoi'r manylion zoom i chi, i gael mynediad i'r grŵp.
Fforwm ar-lein ar gyfer y rhai sy'n clywed lleisiau
Ymunwch â fforwm ar-lein Voice Collective a dod o hyd i ofod i gyfarfod a siarad â myfyrwyr eraill sy'n clywed lleisiau, yn ogystal â gofod ar gyfer cyflwyno gweithiau creadigol a chyfleoedd cymryd rhan.
Ymuno â'r fforwm