Beth bynnag sy'n eich poeni, rydym yma i wrando. P'un ai a ydych yn poeni am eich iechyd meddwl, eich astudiaethau, am arian neu berthnasoedd, gallwn eich cefnogi a'ch helpu i symud ymlaen.
Darperir y gwasanaeth hwn mewn partneriaeth â The Mix.
Gallwch gael cymorth cyfrinachol am ddim drwy e-bost gan wirfoddolwr hyfforddedig. Gallwch ysgrifennu atom unrhyw bryd.
Beth bynnag sy'n eich poeni, rydym yma i wrando. P'un ai a ydych yn poeni am eich iechyd meddwl, eich astudiaethau, am arian neu berthnasoedd, gallwn eich cefnogi a'ch helpu i symud ymlaen.
Darperir y gwasanaeth hwn mewn partneriaeth â The Mix.
E-bostiwch ni yn students@themix.org.uk
Gallwch e-bostio'r llinell gymorth ar unrhyw adeg, a byddwn yn anelu at ateb o fewn 24 awr. Ceisiwch gynnwys cymaint o fanylion ag y gallwch am beth bynnag sy'n eich poeni.
Bydd cefnogwr hyfforddedig yn ateb eich e-bost gan fyfyrio ar yr hyn rydych wedi'i ysgrifennu, gan ofyn rhai cwestiynau a gwneud rhai awgrymiadau.
Bydd eich sgwrs gyda'r cefnogwr fel arfer yn cynnwys ychydig o negeseuon e-bost yn ôl ac ymlaen.
Gallwch siarad â ni am unrhyw beth sy'n peri pryder neu ofid i chi. P'un ai a ydych yn chwilio am gymorth gyda’ch iechyd meddwl, eich astudiaethau, arian, tai neu berthnasoedd, rydym yma i wrando arnoch a’ch helpu i symud ymlaen. Ydy’r cymorth am ddim?
Credwn fod gennych yr hawl i ddefnyddio ein gwasanaethau'n gyfrinachol, sy'n golygu bod yr hyn a ddywedwch yn aros gyda ni. Fodd bynnag, weithiau gallwn gysylltu ag asiantaethau neu sefydliadau eraill i gael help i chi, neu rywun arall.
Os byddwn yn cysylltu ag asiantaeth neu sefydliad arall byddwn bob amser yn ceisio gwneud hyn drwy roi gwybod i chi a chael caniatâd gennych. Byddem yn gwneud hyn heb eich caniatâd os credwn fod perygl difrifol o niwed i chi neu rywun arall.
Gallwch hefyd ddarllen sut mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chasglu a'i defnyddio i wella ein gwasanaeth.
Gallwch anfon e-bost atom ar unrhyw adeg, a byddwn yn anelu at eich ateb o fewn 24 awr.
Mae ein holl staff a gwirfoddolwyr yn cael 30 awr o hyfforddiant arbenigol, gan gynnwys modiwlau arbenigol ar reoli cyflyrau iechyd meddwl fel hunanladdiad a syniadau am hunanladdiad, pryder, iselder a hunan-niwedio.
Yn anffodus, nid yw’r gwasanaeth hwn ar gael yn y Gymraeg ar hyn o bryd.