Dysgwch am gamau y gallwch eu cymryd i adeiladu rhwydwaith cymdeithasol yn y brifysgol.
Gall meddu ar rwydwaith cymdeithasol eang eich helpu chi i ffynnu yn y brifysgol. Dydy hyn ddim yn golygu bod yn rhaid i chi ddod o hyd i ddwsinau o ffrindiau agos, ond gallai fod o gymorth cael ystod o bobl i gysylltu â nhw mewn gwahanol ffyrdd.
Bydd trefniadau cymdeithasol gwahanol yn gweithio ar gyfer myfyrwyr gwahanol. Dyma rai camau y gallwch chi eu cymryd i ddechrau adeiladu eich rhwydwaith.
Saith cam i adeiladu eich rhwydwaith
1. Nodwch fannau lle y gallwch chi gwrdd â phobl
Nodwch yr holl fannau (ar-lein ac wyneb yn wyneb) lle y gallwch chi gwrdd â phobl: mewn dosbarthiadau, clybiau a chymdeithasau a fforymau ar-lein. Bydd yr opsiynau cymdeithasol sydd ar gael i chi yn dibynnu ar eich prifysgol a'ch amgylchiadau personol. Defnyddiwch wefan eich prifysgol i ddod o hyd i'r opsiynau ar-lein ac wyneb yn wyneb sydd ar gael i chi.
2. Meddyliwch am strategaethau er mwyn bwrw ati
Meddyliwch sut y gallwch chi ddefnyddio'r mannau ar-lein a lleoedd wyneb yn wyneb hyn i gwrdd â phobl eraill. Os ydych chi'n hyderus yn gymdeithasol, efallai y byddwch chi'n hapus i fynd i'r amgylcheddau hyn, gan wybod y byddwch chi'n gallu cychwyn sgwrs. Os nad yw'r hyder hwn gennych chi, cynlluniwch ambell i strategaeth sy'n briodol i bob amgylchedd i'ch rhoi ar ben ffordd.
3. Ystyriwch sut i barhau sgyrsiau
Meddyliwch am sut y gallwch chi barhau sgyrsiau, y tu hwnt i'r lleoedd hyn. Allech chi nodi un neu ddau o bobl yn y dosbarth a gofyn iddyn nhw gwrdd am goffi neu fynd am dro? Neu wneud cais ar fforwm i drefnu cwrdd? Neu awgrymu bod grŵp o bobl o'r un anian yn ymgymryd â hobi gyda'i gilydd?
4. Cynlluniwch ar sail eich diddordebau
Fel arall, efallai y byddwch am ddechrau drwy nodi'r mathau o bethau sy'n ennyn eich diddordeb, neu'r mathau o bobl yr hoffech gwrdd â nhw. Yna gallwch chi nodi ble yn y brifysgol y gallech chi gwrdd â nhw. Oes clwb, cymdeithas neu fforwm ar-lein lle y gallech chi gwrdd â phobl o'r un anian â chi?
5. Ystyriwch wahanol agweddau ar eich bywyd
Neu efallai yr hoffech chi feddwl am eich bywyd fel myfyriwr mewn segmentau a chwilio am bobl ar gyfer pob segment. Er enghraifft:
Pobl y gallwch chi astudio gyda nhw
Pobl y gallwch chi wneud chwaraeon gyda nhw
Pobl y gallwch chi gael hwyl gyda nhw
Pobl a allai helpu eich gyrfa
6. Ysgrifennwch eich cynllun neu tynnwch lun ohono
Rydych chi'n fwy tebygol o roi cynllun ar waith os ydych chi wedi ei roi ar bapur. Unwaith y byddwch chi'n ei weld yn ysgrifenedig, byddwch chi hefyd yn gallu gweld a oes bylchau yr hoffech chi fynd i'r afael â nhw.
7. Rhowch eich cynllun ar waith yn gyflym
Cyn gynted ag y bydd eich cynllun wedi'i gwblhau, cymerwch un neu ddau o syniadau a gweithredwch arnyn nhw cyn gynted â phosibl. Bydd hyn yn helpu i feithrin eich hyder ac i ddechrau sefydlu eich rhwydwaith yn gyflym.
Pethau eraill i'w hystyried
Nid oes rhaid i'ch rhwydwaith gynnwys myfyrwyr yn unig. Byddwch yn fodlon ystyried cynnwys staff y brifysgol (megis eich tiwtor) neu gydweithwyr yn rhan o'ch rhwydwaith.
Peidiwch â chwilio am yr unigolyn perffaith neu'r grŵp perffaith o bobl. Cofiwch, rydych chi'n adeiladu rhwydwaith, ddim yn chwilio am yr un unigolyn sy’n berffaith i chi. Mae pobl sy'n hwyl i fod o'u cwmpas yn rhan ddefnyddiol o'ch rhwydwaith, hyd yn oed os nad ydych chi eisiau eu gweld nhw bob dydd.