Efallai eich bod yn pryderu na fydd eich gradd yn cyfrif gymaint am eich bod wedi dysgu ar-lein, wedi cael eich asesu’n wahanol neu golli rhai arholiadau – neu y bydd yn llai o werth. Efallai y byddwch yn dioddef o ‘syndrom ffugiwr’ i ryw raddau, nad ydych chi’n ddigon da neu heb gael cyfle i brofi eich hun.
Er bod hyn yn gwbl ddealladwy, mae sawl rheswm i chi roi’r gorau i bryderu. Mae astudio am radd ar hyn o bryd yn gofyn am hyblygrwydd, dyfeisgarwch, disgyblaeth a chryfder – nodweddion y mae cyflogwyr da’n chwilio amdanynt yn eu staff. Gall yr her o astudio yn ystod pandemig eich helpu chi mewn gwirionedd i ddatblygu sgiliau a chryfderau a fydd o fudd i chi yn y dyfodol. Os gallwch chi ddangos sut rydych chi wedi ymateb i’r heriau hyn, byddwch yn fwy atyniadol fel cyflogai.
Mae rhai camau y gallwch chi eu rhoi ar waith i helpu gyda’r broses hon. Yr hyn sy’n allweddol yw gwybod sut rydych yn ymwneud â’ch dysgu a’ch profiad ac yn meddwl amdanynt. Gall adlewyrchu ar eich profiadau, eich dysgu a’ch datblygiad helpu i wella eich perfformiad academaidd a hefyd rhoi hwb i’ch hunan-gred. Efallai na fydd hyn yn naturiol i chi i ddechrau; mae dysgu adlewyrchol yn sgil nad yw llawer o fyfyrwyr wedi cael cyfle i’w meithrin eto. Ond mae’n rhywbeth y gallwch ei ymarfer a dod yn dda am ei wneud.