Un o'r prif bethau mae pobl yn edrych ymlaen ato am y brifysgol ydi'r hwyl fyddant yn ei gael. Efallai eich bod yn edrych ymlaen at ymuno â chymdeithasau, timau chwaraeon, cael hobïau newydd, neu fynd ar nosweithiau allan. Efallai eich bod yn gyffrous am y rhyddid i fyw gyda myfyrwyr eraill a chael mwy o annibyniaeth.
Mae'r ansicrwydd sy’n cael ei greu gan y pandemig yn golygu nad yw'n bosibl rhagweld sut brofiad fydd eich bywyd cymdeithasol eto. Bydd yn dibynnu ar ddull eich prifysgol o weithredu, cyfyngiadau'r llywodraeth a'ch amgylchiadau eich hun.
Ydi hyn yn golygu na allwch chi gael hwyl? Nac ydi, yn sicr! Dyma ein cyngor doeth ni:
1. Bod yn hyblyg
Mae bod yn hyblyg yn eich disgwyliadau yn bwysig iawn. Os ewch chi i'r brifysgol gan ddisgwyl i bethau fod yn union fel roeddech yn dychmygu, byddwch yn teimlo'n siomedig os na fydd y disgwyliadau hynny’n cael eu bodloni.
Bydd eich prifysgol yn gweithio'n galed i wneud eich profiad cystal â phosibl a bydd yn ceisio cynnig y gweithgareddau arferol i chi mewn ffordd ddiogel. Ceisiwch baratoi drwy dderbyn bod pethau'n anodd eu rhagweld ond byddwch yn barod i fanteisio ar beth bynnag sydd ar gael.
2. Gweld beth sy’n bwysig i chi
Gall fod yn ddefnyddiol treulio ychydig o amser yn meddwl am yr hyn roeddech yn edrych ymlaen ato fwyaf am y brifysgol.
- Ai cwrdd â phobl debyg i chi oedd hynny?
- Ai cael hwyl ac archwilio tref neu ddinas newydd?
- Ai cyfle i gael profiadau newydd?
Beth bynnag oeddech chi’n ei feddwl fyddai’n llawer o hwyl i chi am ddechrau neu fynd yn ôl i'r brifysgol, edrychwch am y cyfleoedd i wneud y pethau hyn gymaint â phosibl. Byddant yno o hyd – ond efallai y byddant yn edrych ychydig yn wahanol.
3. Edrych ar beth allwch chi ei wneud
Efallai eich bod yn teimlo ychydig yn isel am nad yw eich profiad prifysgol yn mynd i fod fel yr oeddech wedi gobeithio na sut yr oedd cyn y pandemig. Mae hyn yn wirioneddol ddealladwy. Gall fod yn anodd peidio â gwybod beth i'w ddisgwyl.
Er hynny, ar ôl i chi benderfynu beth sy'n bwysig i chi, ceisiwch feddwl am yr hyn y gallwch chi ei wneud o hyd. Er enghraifft, os nad yw clybiau nos yn gallu agor eto, efallai y byddwch chi'n mwynhau noson i mewn yn y fflat gyda ffrindiau neu drip i dafarn? Allwch chi fwynhau bod yn rhan o glwb chwaraeon o hyd?
4. Gweithio gyda’r realiti
Y gwir amdani ydi bod yr hyn y gallwn ac na allwn ni ei wneud yn debygol o newid drwy gydol eich amser yn y brifysgol. Er mor anodd ydi pethau i bob un ohonom ni, gall helpu i fod yn barod i fod yn hyblyg a disgwyl newidiadau. Er nad yw hyn yn ein rhwystro ni rhag teimlo'n siomedig neu'n drist pan fydd pethau'n newid, gall ein helpu i ddod o hyd i ffordd ymlaen yn gyflymach.