Adeiladu eich cynllun gweithred

Gareth Hughes

Gareth Hughes yw Arweinydd Clinigol Student Space ac mae'n seicotherapydd, ymchwilydd ac awdur ar lesiant myfyrwyr, gan gynnwys y llyfr Be Well, Learn Well.

Gall llenwi cynllun gweithredu eich helpu i reoli'r heriau sy'n dod gydag ansicrwydd.

Camau cynllun gweithredu

Dilynwch y camau isod i wneud eich cynllun gweithredu eich hun. Naill ai lawrlwythwch dempled isod, neu ysgrifennwch un eich hun ar bapur.

1. Dewiswch eich maes ffocws

Meddyliwch am yr agweddau o'r flwyddyn academaidd nesaf rydych chi'n poeni fwyaf amdanynt neu rydych chi’n meddwl sydd bwysicaf. Ceisiwch feddwl yn gyfannol am eich profiad myfyriwr cyfan; er enghraifft, efallai y byddwch am feddwl am agweddau cymdeithasol, gwaith academaidd, cyllidebu, cydbwyso ymrwymiadau teuluol ag astudio, a pha gymorth y gallai fod ei angen arnoch.

2. Faint o reolaeth sydd gennych chi?

Ar gyfer pob maes ffocws, meddyliwch am faint o reolaeth neu ddylanwad y gallwch chi ei roi ar bob un. Anaml y byddwn ni'n teimlo bod gennym reolaeth lwyr dros sawl agwedd ar ein bywydau, ond yn aml mae gennym fwy o reolaeth neu ddylanwad nag y gallem ei gredu i ddechrau.

Byddwch yn ymwybodol y gall gorbryder neu hwyliau isel wneud inni gamfarnu ein hamgylchiadau a’n darbwyllo nad oes dim yn ein rheolaeth. Wrth feddwl am hyn, cymerwch eiliad i gydnabod eich emosiynau, yna symudwch heibio'r hyn y maen nhw'n ei ddweud wrthych ac edrychwch ar y dystiolaeth wirioneddol.

Ar gyfer pob un o’r meysydd ffocws, graddiwch faint o reolaeth neu ddylanwad sydd gennych, yn eich barn chi, gan ddefnyddio’r raddfa ganlynol:

  • 5. Rheolaeth lwyr

  • 4. Llawer o reolaeth

  • 3. Peth rheolaeth

  • 2. Ychydig o reolaeth

  • 1. Dim rheolaeth o gwbl

3. Penderfynwch ar eich gweithredoedd

Wrth i chi feddwl am faint o reolaeth sydd gennych, efallai y byddwch yn dechrau gweld y meysydd lle mae gennych reolaeth neu gyfleoedd i ddylanwadu ar eich sefyllfa. Defnyddiwch y syniadau hyn i'ch helpu i nodi'r camau y gallwch chi eu cymryd. Cofiwch nad ydych chi'n ceisio gwneud y sefyllfa'n berffaith – rydych chi'n chwilio am gamau bach y gallwch chi eu cymryd i wneud pethau ychydig yn well.

Dewiswch un neu ddau gam bach i'w cymryd yn gyntaf, a gweithredwch arnynt yn gyflym. Bydd hyn yn helpu yn y tymor byr ac yn dangos i chi eich bod yn gallu rheoli ansicrwydd. Canolbwyntiwch ar ychydig o welliannau bach ac wedyn symudwch i gamau mwy anodd.

Mae hefyd yn bwysig cofio nad oes rhaid i chi fynd i'r afael â hyn ar eich pen eich hun. Mae cymorth ar gael yn eich prifysgol. Hefyd, gall fod o gymorth i dynnu ar gefnogaeth gan eich ffrindiau a'ch teulu.

Bydd eich cynllun gweithredu yn edrych rhywbeth fel hyn:

Mater: A fydda i'n gwneud ffrindiau?

Faint o reolaeth sydd gennyf dros y mater hwn? 3, Peth rheolaeth.

Camau gweithredu:

  • Ymuno â fforwm ar-lein (e.e. Student Room) a cheisio cwrdd â phobl sy'n mynd i fy mhrifysgol

  • Ymuno ag unrhyw ofodau cymdeithasol ar-lein a ddarperir gan fy mhrifysgol a cheisio cwrdd â phobl ar fy nghwrs / yn fy llety

  • Adolygu gwefan fy Undeb Myfyrwyr a gwneud cynllun ar gyfer pa glybiau a chymdeithasau y bydda i'n ymuno â nhw a sut (ar-lein / wyneb yn wyneb)

Fy ngham cyntaf fydd:

  • Gwneud chwiliad Google am fforymau ar-lein

Adolygwyd ddiwethaf: Hydref 2022