Leave this site now

Anawsterau lleferydd a dysgu ar-lein

Mae Gemma Cormican

Mae Gemma Cormican yn Gynghorydd Iechyd Meddwl a Seicotherapydd Ymddygiadol Gwybyddol ym Mhrifysgol Caerefrog

Gall dysgu ar-lein deimlo’n wahanol iawn i ddysgu yn yr ystafell ddosbarth ac, os oes gennych anawsterau lleferydd, efallai y byddwch yn ei chael hi’n anodd ymgysylltu ag ef ar y dechrau. Fodd bynnag, er y gallech deimlo fel hyn, nid yw'n golygu na allwch fod yn llwyddiannus.

Efallai bod gennych anhawster lleferydd amlwg, neu efallai eich bod yn ei guddio fel nad oes neb yn sylwi. Y naill ffordd neu'r llall, mae'n bosibl y byddwch chi'n gweld bod eich anhawster lleferydd wedi'i gwneud hi'n anoddach i chi gymryd rhan mewn dysgu ar-lein. Gall fod yn anodd rhannu eich meddyliau, eich syniadau, eich barn a'ch teimladau pan fydd rhwystr yn y ffordd.

Gall rhai sgyrsiau ar-lein fod yn anoddach nag eraill, gan ddibynnu ar bwy sydd yno a pha mor dda rydych chi'n eu hadnabod. Ni fyddwch yn cael yr adborth calonogol, fel cyswllt llygad, a gewch wrth siarad ag eraill wyneb yn wyneb. Oherwydd hyn efallai y bydd rhai myfyrwyr yn teimlo'n bryderus ac yn osgoi'r sefyllfaoedd hyn.

Cofiwch, mae gennych yr hawl i fynegi eich barn, lawn cymaint â phawb arall. Dyma rai pethau y gallwch chi eu gwneud i wneud cyfathrebu ar-lein yn haws.

Camau i wneud i ddysgu ar-lein weithio i chi

Cyn y seminar, gweithdy neu diwtorial

  1. Gosodwch nodau: gofynnwch i chi'ch hun beth hoffech chi ei gael allan o fod yno, a gosodwch rai nodau i chi'ch hun i'w hadolygu wedyn.
  2. Byddwch yn barod: gallai fod yn ddefnyddiol darllen ymlaen llaw ac ysgrifennu cwpl o syniadau yr hoffech chi eu rhannu.
  3. Rhowch wybod i’ch tiwtor: Gall hefyd fod yn ddefnyddiol iawn siarad â'r tiwtor ymlaen llaw ynghylch sut y gallai eich helpu. Er enghraifft, gallai gytuno i ofyn i bobl godi eu dwylo (mae’n bosibl gwneud hyn gydag eiconau) pan fydd ganddyn nhw rywbeth i'w ddweud, neu ofyn i bobl ddefnyddio'r sylwadau teipiedig ar gyfer cwestiynau.

Yn ystod y seminar, gweithdy neu ddarlith

  • Bydd pobl yn dilyn eich arweiniad – os nad ydych am siarad am y peth, mae'n debyg na fyddant yn gofyn, ond gall fod yn ddefnyddiol iawn sôn am eich anawsterau lleferydd ar y dechrau. Mae siarad am eich anawsterau yn rhoi cyfle gwirioneddol ichi ofyn am yr hyn sydd ei angen arnoch. Er enghraifft, gallwch ofyn i bobl i fod yn amyneddgar, a rhoi’r amser sydd ei angen arnoch i orffen yr hyn rydych chi’n ei ddweud.
  • Defnyddiwch y gosodiad ‘golwg siaradwr’ yn lle ‘golwg grid’ – fel hyn dim ond y person sy'n siarad y byddwch chi'n ei weld ac nid yr holl bobl sy'n bresennol.
  • Gall deimlo'n anoddach siarad pan ydym yn gweld ein hunain ar y sgrin. Efallai yr hoffech chi ystyried cuddio'ch fideo neu roi nodyn gludiog dros eich delwedd eich hun.
  • Os yw'n anodd cael eich tro, gallech chi ddefnyddio ystum i nodi yr hoffech chi siarad, neu ddweud ‘esgusodwch fi’.
  • Os bydd rhywun yn tarfu arnoch chi pan ydych chi'n cael trafferth bod yn rhugl, gofynnwch am fwy o amser.
  • Mae'n iawn dweud llai. Ansawdd eich cyfraniad sy'n cyfrif, nid faint rydych chi’n ei ddweud.
  • Rydym yn sylwi bod nifer o fyfyrwyr yn sicrhau bod eu camerâu wedi'u diffodd ac yn defnyddio'r swyddogaeth sgwrsio i gyfathrebu yn hytrach na siarad, felly mae'r rhain hefyd yn opsiynau y gallech fod eisiau eu hystyried.

Ar ôl y ddarlith

  • Dilyniant: Os oedd pwynt pwysig na lwyddoch chi i'w wneud, anfonwch e-bost at eich tiwtor gyda'r wybodaeth. Mae'n bwysig cael llais a chael eich clywed ym mha bynnag fformat sy'n bosibl i chi ar y pryd.
  • Myfyriwch ar yr hyn aeth yn dda: Yn olaf, ceisiwch eich gorau i beidio â chanolbwyntio ar bopeth nad aeth yn ôl y disgwyl. Drwy ganolbwyntio ar y pethau a aeth yn dda a'u dathlu, gallwch ddechrau magu eich hyder ar gyfer y tro nesaf.

Os yw eich anawsterau lleferydd yn amharu ar eich astudiaethau, neu eich mwynhad o fod yn fyfyriwr, efallai eich bod yn gymwys ar gyfer ‘addasiadau rhesymol.’ Mae'n bwysig defnyddio'r cymorth sydd ar gael yn eich prifysgol neu sefydliad i gael mynediad at y cymorth sydd ar gael.

Adolygwyd ddiwethaf: Hydref 2022