Arferion iach i helpu eich iechyd meddwl
Pan fo llawer o ansicrwydd yn ein bywydau ac yn y byd o’n cwmpas, gallwn lithro i ymddygiadau cysurus sy’n cael effaith negyddol ar ein llesiant. Os yw eich deiet, trefn ddyddiol neu ymarfer corff wedi colli strwythur, efallai y byddwch am ystyried gwneud nifer o newidiadau adeiladol.
Y cysylltiad rhwng iechyd corfforol ac iechyd meddwl
Mae ein hiechyd corfforol yn cael effaith uniongyrchol ar ein llesiant emosiynol. Ni fydd gwella iechyd corfforol o reidrwydd yn atal nac yn gwella pob problem iechyd meddwl, ond gall roi mwy o egni a ffocws i ni wynebu heriau a datrys problemau.
Dyma rai elfennau o lesiant corfforol a all helpu i wella eich hwyliau:
- Cwsg da
- Deiet iach
- Ymarfer corff yn rheolaidd a chael golau’r haul
- Trefn ddyddiol gytbwys.
Gall fod yn anodd gwneud newidiadau i'ch trefn ddyddiol os ydych chi'n teimlo'n isel neu'n orbryderus. O dan yr amgylchiadau hyn, peidiwch â theimlo'r angen i newid popeth ar unwaith: dewiswch un neu ddau o newidiadau bach i'w gwneud. Unwaith y bydd y rheini wedi ymwreiddio, efallai y bydd yn haws i chi wneud y newid nesaf. Gall fod o gymorth cael ffrind neu aelod o’r teulu i’ch helpu: gall ymrwymo i newid gyda'n gilydd ei gwneud yn haws i lwyddo.
Canolbwyntiwch ar wella eich sefyllfa bresennol yn hytrach na cheisio perffeithrwydd. Bydd beth bynnag a wnewch i wella eich llesiant corfforol yn eich helpu i gynnal neu wella eich iechyd meddwl. Bydd yn rhoi mwy o egni i chi fynd i'r afael â'r heriau rydych chi'n eu hwynebu ac yn ei gwneud hi'n fwy tebygol y byddwch chi'n mwynhau gweithgareddau hwyliog.
Newidiadau i'w hystyried
Cwsg
- Dylech osgoi caffein ar ôl amser cinio
- Gosodwch amseroedd rheolaidd i fynd i'r gwely ac i godi, bob dydd
- Ceisiwch fynd allan i olau'r haul yn y bore
- Ceisiwch gadw i ffwrdd o sgriniau a dyfeisiau yn ystod yr awr olaf cyn amser gwely.
Mwy o syniadau ar gyfer gwella eich patrwm cysgu
Deiet
- Cadwch ffrwythau gartref a gyda chi, pan fyddwch chi'n mynd allan. Bwytewch ffrwythau pan ydych yn cael eich temtio i estyn am fyrbryd llawn braster neu siwgr
- Ceisiwch fwyta brecwast iach bob dydd.
Mwy o awgrymiadau ynglŷn â bwyd a'ch llesiant
Natur a golau'r haul
Ewch am dro bach bob dydd a threuliwch 5–10 munud yn canolbwyntio ar ryw agwedd ar natur. Gallech roi sylw manwl i’r ffordd mae coeden yn siglo, aderyn, neu olau'r haul ar gae neu barc.
Rôl golau'r haul yn eich llesiant
Ymarfer corff
- Ceisiwch wneud enillion bach o ran faint rydych chi'n ymarfer corff – hyd yn oed drwy godi a cherdded o gwmpas y tu mewn i’r adeilad.
- Cymdeithaswch gyda ffrindiau neu deulu drwy fynd ar deithiau cerdded, rhedeg neu feicio wrth gadw pellter cymdeithasol, fel eich bod yn canolbwyntio ar sgyrsiau a phleser eu cwmni