Aros yn y brifysgol dros wyliau'r gaeaf

Gareth Hughes

Gareth Hughes yw Arweinydd Clinigol Student Space ac mae'n seicotherapydd, ymchwilydd ac awdur ar lesiant myfyrwyr, gan gynnwys y llyfr Be Well, Learn Well.

Os ydych yn aros yn y brifysgol dros y gwyliau diwedd tymor, bydd cynllunio ychydig ymlaen llaw yn helpu i sicrhau eich bod yn cael profiad cystal â phosibl.

Mae eich prifysgol yn siŵr o fod yn dawelach dros y gwyliau. Bydd o leiaf rhai adeiladau prifysgol ar gau am gyfnod a bydd y rhan fwyaf o staff yn cymryd seibiant haeddiannol o'r gwaith. Mae'n debyg y bydd llai o fyfyrwyr o gwmpas hefyd a llai o bethau i chi ei wneud â'ch amser.

Yn ogystal â hyn, os ydych yn dathlu'r Nadolig neu Hanukkah fel arfer, efallai y byddwch yn bryderus neu'n ofidus am y posibilrwydd o dreulio'r cyfnod ar eich pen eich hun neu heb eich teulu.

Er bod y pryderon hyn yn gwbl naturiol, mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i fwynhau eich gwyliau yn well. Gall rheoli eich amser yn rhagweithiol eich helpu i wneud y gorau o'r egwyl ac i deimlo'n fwy cadarnhaol.

Cadwch yn brysur

Bydd cadw strwythur dyddiol a chadw'n heini yn helpu i gynnal eich hwyliau a'ch lefelau egni. Gall diffyg strwythur a bod yn ddiog fod yn iawn am ddiwrnod neu ddau, ond dros amser byddwch yn mynd i deimlo'n swrth ac yn isel.

Gall cynllunio pob diwrnod eich helpu i gadw'n brysur. Efallai yr hoffech ystyried cymdeithasu â ffrindiau sydd dal o gwmpas; glanhau eich ystafell, gwneud ymarfer corff rheolaidd neu astudio ar gyfer y tymor nesaf. Bydd hyn yn eich helpu i deimlo eich bod yn cyflawni rhywbeth bob dydd.

Gwirfoddolwch

Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o gadw'n brysur a gwneud rhywbeth cadarnhaol, ac mae angen cymorth ychwanegol ar elusennau dros y Nadolig. Mae gwirfoddoli i helpu eraill yn gwneud lles i ni hefyd a gall helpu i ychwanegu at eich CV.

Efallai y bydd gan eich prifysgol, Undeb neu Urdd y Myfyrwyr rai cyfleoedd gwirfoddoli, neu gallwch archwilio pa gyfleoedd sydd gan elusennau lleol a chenedlaethol fel CharityJob i'w cynnig.

Bydd gwirfoddoli hefyd yn eich helpu trwy eich rhoi mewn cysylltiad â phobl eraill a rhoi ymdeimlad o bwrpas i chi.

Cymdeithasu

Ceisiwch gadw cysylltiad cymdeithasol â chymaint o bobl â phosibl. Ni fydd pob myfyriwr yn treulio'r gwyliau i gyd gartref. Holwch pryd fydd eich ffrindiau o gwmpas a threfnwch i'w cyfarfod. Os bydd cyfnodau pan nad yw eich ffrindiau o gwmpas, ceisiwch drefnu galwadau rheolaidd a galwadau fideo gyda ffrindiau a theulu.

Gallech ddefnyddio fforymau Undeb y Myfyrwyr hefyd i gadw mewn cysylltiad â myfyrwyr eraill sydd yn aros dros y gwyliau. Gallai hwn fod yn gyfle i wneud ffrindiau newydd.

Ymarfer corff

Gall aros tu mewn ble mae'n gynnes fod yn demtasiwn ym mis Rhagfyr, ond dylech sicrhau eich bod yn mynd allan a gwneud ymarfer corff bob dydd. Mae golau'r haul ac ymarfer corff yn gwella hwyliau a bydd yn eich helpu i deimlo'n well yn gorfforol hefyd.

Ceisiwch ganolbwyntio ar yr hyn sy'n gadarnhaol

I lawer o bobl, efallai y byddai’n well ganddynt dreulio amser ar eu pen eu hunain. Os ydych yn mynd i fod ar eich pen eich hun, bydd gennych reolaeth lwyr dros eich amser, gallwch wneud yr hyn yr ydych chi eisiau ei wneud pan fyddwch chi'n dymuno, heb bwysau i blesio unrhyw un arall.

Gwobrwywch eich hun

Rhowch wobrau i chi'ch hun dros wyliau'r gaeaf. Nid oes rhaid iddynt gostio llawer, ond os gallwch chi, gwobrwywch eich hun â rhywbeth arbennig. Er enghraifft, gallech goginio pryd o fwyd blasus i chi'ch hun neu neilltuo amser i wylio ffilm neu ddarllen llyfr.

Gall y Nadolig fod yn gyfnod anodd iawn i lawer o fyfyrwyr am ystod eang o resymau ac mae hynny’n iawn; Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n rhoi amser i chi'ch hun, gall fod yn fwy defnyddiol i chi yn y tymor hir.

Ceisiwch gefnogaeth

Os ydych chi'n poeni am sut y byddwch chi'n teimlo dros y gwyliau, fe allai fod o gymorth i chi siarad â rhywun ymlaen llaw.

Adolygwyd ddiwethaf: Tachwedd 2022