Aros yn y brifysgol dros wyliau’r haf

Gareth Hughes

Gareth Hughes yw Arweinydd Clinigol Student Space ac mae'n seicotherapydd, ymchwilydd ac awdur ar lesiant myfyrwyr, gan gynnwys y llyfr Be Well, Learn Well.

Os ydych yn aros yn y brifysgol dros wyliau’r haf yn gyfan neu’n rhannol, bydd cynllunio ychydig ymlaen llaw yn helpu i sicrhau eich bod yn cael profiad cystal â phosibl.

Mae eich prifysgol yn debygol o fod yn dawelach dros y gwyliau. Mae’n bosibl y bydd rhai adeiladau prifysgol ar gau am ran o’r amser. Gall fod gan wasanaethau a ddarperir gan eich prifysgol ac Undeb y Myfyrwyr neu Urdd y Myfyrwyr oriau agor gwahanol. Gall staff fod o gwmpas yn llai aml. Mae hefyd yn debygol y bydd llai o fyfyrwyr o gwmpas. Gall hyn newid amgylchedd y brifysgol a’r ardaloedd lleol – gall siopau, tafarndai, bariau ac ati fod yn llawer tawelach. Gall bod o gwmpas eich prifysgol yn ystod yr haf fod yn brofiad gwahanol iawn.

Gall wybod hyn eich helpu i feddwl ymlaen llaw a chael y gorau o’ch amser. Gall rheoli eich amser yn rhagweithiol eich helpu i wneud y gorau o’r egwyl ac i deimlo’n fwy cadarnhaol.

Cadwch yn brysur

Bydd cadw strwythur dyddiol a chadw’n heini yn helpu i gynnal eich hwyliau a’ch lefelau egni. Gall diffyg strwythur a bod yn ddiog fod yn iawn am ddiwrnod neu ddau, ond dros amser byddwch yn mynd i deimlo’n swrth ac yn isel.

Gall cynllunio pob diwrnod eich helpu i gadw’n brysur. Efallai yr hoffech ystyried cymdeithasu â ffrindiau sydd dal o gwmpas; glanhau eich ystafell, gwneud ymarfer corff rheolaidd neu astudio ar gyfer y tymor nesaf. Bydd hyn yn eich helpu i deimlo eich bod yn cyflawni rhywbeth bob dydd. Gall gwaith cyflogedig hefyd helpu i ddarparu rhywfaint o strwythur, yn ogystal ag incwm, rhyngweithio cymdeithasol a ffocws ar gyfer pob wythnos.

Y prif beth rydw i’n credu sy’n helpu gyda’ch iechyd meddwl yw cadw’n brysur… rydw i hefyd yn defnyddio’r amser i ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar a myfyrdod, gan ddefnyddio’r amser sydd gen i gyda fy hun fel ffordd i feithrin perthynas gryfach â gwell sylfaen oddi mewn.

Cymdeithasu

Ceisiwch barhau i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol hyd yn oed os oes llai o bobl o gwmpas. Ni fydd pob myfyriwr yn treulio’r gwyliau i gyd gartref. Holwch pryd fydd eich ffrindiau o gwmpas a threfnwch i’w cyfarfod. Os bydd cyfnodau pan nad yw eich ffrindiau o gwmpas, ceisiwch drefnu galwadau rheolaidd a galwadau fideo gyda ffrindiau a theulu. Gallwch hefyd ddefnyddio’r amser hwn fel cyfle i gwrdd â ffrindiau newydd. Gallai fforymau Undeb y Myfyrwyr eich helpu i gysylltu ag eraill sy’n aros dros yr haf. Neu efallai y byddwch chi’n dod o hyd i bobl newydd mewn gweithle neu yn y gymuned leol.

Gwirfoddolwch

Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o gadw’n brysur a gwneud rhywbeth cadarnhaol. Mae gwirfoddoli i helpu eraill yn gwneud lles i ni hefyd a gall helpu i ychwanegu at eich CV.

Efallai y bydd gan eich prifysgol, Undeb Myfyrwyr, Urdd Myfyrwyr neu dîm gyrfaoedd rai cyfleoedd gwirfoddoli, neu gallwch archwilio pa gyfleoedd sydd gan elusennau lleol a chenedlaethol fel Time Bank i’w cynnig.

Bydd gwirfoddoli hefyd yn eich helpu trwy eich rhoi mewn cysylltiad â phobl eraill a rhoi ymdeimlad o bwrpas i chi.

Ymarfer corff

Mae golau’r haul ac ymarfer corff yn gwella hwyliau a bydd yn eich helpu i deimlo’n well yn gorfforol hefyd. Nid oes rhaid i hyn olygu ymarfer corff egnïol bob dydd neu ymuno â champfa. Gall teithiau cerdded rheolaidd yng ngolau dydd wella ein hiechyd a’n hwyliau.

Defnyddiwch yr hyn sy’n gadarnhaol

Gall diwedd y tymor ddod â gostyngiad mewn ffocws a dwyster – gallai hyn roi cyfle i chi adolygu sut aeth eich blwyddyn a dechrau cynllunio i ddysgu o hyn a gwneud y gorau o’r flwyddyn nesaf. Efallai y gallwch chi gymryd mwy o reolaeth dros eich amser a chanolbwyntio ar wneud rhai pethau sy’n dda i chi ar hyn o bryd, i orffwys, gwella a bod yn barod ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Ymbleseru

Rhowch wobrau i chi’ch hun dros wyliau’r haf. Nid oes rhaid iddynt gostio llawer, ond os gallwch chi, gwobrwywch eich hun â rhywbeth arbennig. Er enghraifft, gallech goginio pryd o fwyd blasus i chi’ch hun neu neilltuo amser i wylio ffilm neu ddarllen llyfr.

Ceisiwch gefnogaeth

Os ydych chi’n poeni am sut y byddwch chi’n teimlo dros y gwyliau, fe allai fod o gymorth i chi siarad â rhywun ymlaen llaw.

University support icon

Dod o hyd i gymorth yn eich prifysgol

Adolygwyd ddiwethaf: Awst 2023