Astudio gyda nam ar y clyw
I'r rhai ohonom sydd â nam ar y clyw, gall y ffyrdd y gall astudio ar-lein greu nifer o heriau ychwanegol. Fodd bynnag, mae rhai camau ymarferol y gallwch eu cymryd i wella eich profiad fel myfyriwr.
Mynd i'r afael â heriau cyffredin
Dolenni T
Mae swyddogaeth T eich cymhorthion clyw yn ffordd wirioneddol bwerus o glywed y sain bwysicaf yn yr ystafell. Gall ystafelloedd sydd â dolen T ('telecoil') ddarlledu sain yn uniongyrchol o feic y ddarllenfa i'ch cymhorthion clyw. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw troi eich cymhorthion ymlaen i’r gosodiad 'T'. Mae gan y rhan fwyaf o gymhorthion y swyddogaeth hon felly gwnewch yn siŵr eich bod yn deall yn iawn sut i ddefnyddio'ch cymhorthion i gael y defnydd gorau ohonynt. Mae'n bosibl y bydd eich prifysgol yn gallu amserlennu ystafelloedd gyda dolenni T ar gyfer addysgu wyneb yn wyneb.
Cymryd nodiadau byw
Wrth gwrs, nid yw pawb sydd â nam ar eu clyw yn defnyddio cymhorthion clyw ac nid yw dolenni T bob amser yn ddefnyddiol iawn ar gyfer trafodaethau grŵp – gall dilyn seminarau fod yn anodd iawn.
Gofynnwch i’ch gwasanaeth anabledd a allant drefnu bod rhywun ar gael i gymryd nodiadau digidol ar gyfer trafodaethau wyneb yn wyneb. Gallant deipio pwyntiau allweddol i mewn i blatfform yn y cwmwl, fel Google Docs, y gallwch ei gyrchu ar yr un pryd tra'n dal i fod ar bellter diogel!”
Darlithoedd ar-lein
Gellir defnyddio nodiadau digidol hefyd ar gyfer darlithoedd ar-lein, ac mae rhai platfformau’n darparu'r swyddogaeth ar gyfer rhoi penawdau â llaw yn y cynnwys ar y sgrin fel nad oes angen ichi edrych ar ddwy sgrin ar unwaith.
Mae gan ddarlithoedd ar-lein fanteision eraill. Mae’r rhan fwyaf o blatfformau yn gadael i chi ddewis rhwng cynnwys y ddarlith a chamera’r darlithydd – gan ei gwneud yn hawdd darllen gwefusau. Gall defnyddio sgrin hollt, neu'n well byth dwy sgrin, fod yn help mawr. Os nad oes gennych sgrin sbâr ar gyfer eich prif beiriant, gallech chi geisio mewngofnodi gyda'ch ffôn clyfar neu lechen ar yr un pryd – ond efallai y bydd angen i chi ddiffodd y sain er mwyn osgoi gwrthdaro.
Yn hytrach na dibynnu ar seinydd eich gliniadur, gall pâr da o glustffonau dros y glust wella ansawdd eich sain yn aruthrol. Gall rhai systemau, fel y rhai a gynigir gan Phonak, hyd yn oed drosglwyddo sain o'ch cyfrifiadur yn uniongyrchol i'ch cymhorthion clyw.
Y gobaith yw y bydd eich prifysgol wedi cynnig arweiniad i staff (ac efallai myfyrwyr) ar oleuadau ac offer meicroffon addas, ond peidiwch â bod ofn siarad â'ch tiwtoriaid os yw eu delwedd neu sain yn aneglur. Bydd eich adborth yn gwella pethau i bob myfyriwr.
Y pwynt allweddol yw siarad â gwasanaeth cymorth anabledd eich prifysgol a all archwilio'r ffordd orau o gefnogi eich anghenion.
Gofalu am eich llesiant
Mae'n ddealladwy teimlo'n unig ac ansefydlog wrth addasu i ffyrdd newydd o ddysgu. Gall hyn gael sgil-effaith ar eich llesiant ac mae'n bwysig gofalu am eich iechyd meddwl. Mae gan Student Space nifer o erthyglau defnyddiol iawn ar ofalu amdanoch chi'ch hun, a gwnewch yn siŵr eich bod yn cysylltu â gwasanaethau lles eich prifysgol.