Leave this site now

Astudio’n llwyddiannus gyda diagnosis iechyd meddwl

Mae Alice Wilson

Mae Alice Wilson yn Therapydd CBT ac yn Bennaeth Iechyd Meddwl a Lles ym Mhrifysgol Dinas Birmingham. Mae ganddi gefndir yn gweithio yn y GIG ac mewn Addysg Uwch.

Os yw anawsterau iechyd meddwl yn effeithio ar eich gallu i astudio, gall yr awgrymiadau hyn helpu i'ch rhoi mewn gwell sefyllfa i lwyddo a rheoli eich llesiant.

Gall anawsterau iechyd meddwl weithiau gael effaith fawr ar ganolbwyntio, cymhelliant a'n gallu i ganolbwyntio ar y tasgau y mae angen i ni eu cwblhau. Gall effaith meddyginiaeth hefyd effeithio ar eich gallu i ganolbwyntio yn ystod y dydd.

Ond gyda’r cymorth a’r help cywir, mae pob rheswm i gredu yn eich gallu i fod yn llwyddiannus fel myfyriwr.

Isod mae nifer o awgrymiadau da y gallech roi cynnig arnynt. Peidiwch â phoeni os ydych wedi bod yn y brifysgol ers tro a heb wneud y trefniadau hyn eto. Fel arfer gallwch eu rhoi ar waith ar unrhyw adeg yn ystod eich cwrs.

1. Ystyried gwneud cais am Lwfans i Fyfyrwyr Anabl

Mae’r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl ar gael ar gyfer talu am gostau cymorth ychwanegol y gallai fod ei angen arnoch, oherwydd eich anhawster iechyd meddwl, yn ystod eich cyfnod yn y brifysgol. Gallai hyn gynnwys y canlynol:

  • offer arbenigol
  • cynorthwywyr anfeddygol
  • unrhyw gostau teithio ychwanegol neu gostau eraill yn ymwneud ag anabledd sy'n gysylltiedig â'ch astudiaethau.

Darperir hwn ar ben unrhyw gyllid myfyrwyr rydych chi eisoes yn ei gael, ac nid oes angen i chi ei dalu'n ôl. Darllenwch ganllawiau Llywodraeth y DU i gael mwy o wybodaeth am sut mae Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA) yn gweithio, neu os ydych chi’n fyfyriwr israddedig llawn amser o Gymru, darllenwch fwy o wybodaeth gan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Eich dewis chi fydd gwneud cais am y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl ai peidio. Os oes angen cymorth arnoch i wneud cais, mae tîm iechyd meddwl neu dîm anabledd eich prifysgol; fel arfer yn ffynhonnell dda o gymorth. Byddant yn helpu i egluro'r broses ac yn gallu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Cysylltwch â gwasanaeth iechyd meddwl neu wasanaeth anabledd eich prifysgol i drefnu apwyntiad.

2. Siarad â'ch prifysgol ynglŷn ag addasiadau rhesymol

Os ydych chi wedi cael diagnosis o anhawster iechyd meddwl byddwch yn gymwys i gael addasiadau rhesymol i'ch cwrs. Mae hyn yn wir p'un a ydych yn gwneud cais am y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl ai peidio.

Bydd addasiadau rhesymol yn amrywio ond gallant gynnwys y canlynol:

  • cael amser ychwanegol i gwblhau asesiadau
  • amser ychwanegol mewn arholiadau sydd wedi'u hamseru
  • asesiadau amgen.

Diben addasiadau rhesymol yw eich cefnogi i gyflawni eich potensial a lleihau effaith eich anhawster iechyd meddwl.

Yn y rhan fwyaf o brifysgolion, er mwyn derbyn addasiadau rhesymol, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth feddygol ddiweddar o'ch diagnosis, fel llythyr meddyg teulu neu lythyr gan eich tîm gofal. Yn y rhan fwyaf o achosion bydd angen i chi gyflwyno copi o'r dystiolaeth hon i dîm iechyd meddwl neu dîm anabledd eich prifysgol. Yna byddant yn cysylltu â chi i ystyried pa addasiadau y gallai fod eu hangen arnoch.

Gwnewch apwyntiad â gwasanaeth iechyd meddwl neu wasanaeth anabledd eich prifysgol cyn gynted â phosibl. Nid oes rhaid i chi aros nes bod y tymor yn dechrau.

3. Meddwl am yr hyn sydd wedi gweithio gydag astudio o'r blaen a'r hyn nad yw wedi bod yn ddefnyddiol

Os ydych yn mynychu prifysgol byddwch wedi gwneud rhyw fath o astudio o'r blaen. Mae hyn yn wybodaeth bwysig iawn y gallwch ei defnyddio.

Meddyliwch am yr hyn a weithiodd o'r blaen a'r hyn na weithiodd. A oedd adegau pan oedd eich anhawster iechyd meddwl yn ei gwneud hi’n anodd astudio a gweithio’n effeithiol, a sut wnaethoch chi ymdopi â hyn? Meddyliwch am yr hyn sydd ei angen arnoch o'ch cwmpas i weithio i orau eich gallu a rhowch y pethau hyn ar waith.

Os ydych chi'n teimlo'n bryderus ynglŷn â hyn, ystyriwch siarad â'ch tiwtor personol, cynghorydd iechyd meddwl neu gynghorydd anabledd yn y brifysgol. Efallai y byddant yn gallu cynnig awgrymiadau defnyddiol.

4. Siarad â'ch tiwtor personol

Er na fydd eich tiwtor personol fel arfer yn weithiwr iechyd meddwl proffesiynol, gall fod yn ffynhonnell wych o gefnogaeth yn ystod eich astudiaethau.

Os ydych chi'n teimlo'n gyfforddus yn gwneud hynny, gall fod yn ddefnyddiol rhoi gwybod iddo fod gennych anhawster iechyd meddwl. Nid oes rhaid i chi rannu manylion, ond bydd rhoi gwybod iddo yn ei helpu i ddeall eich profiad.

Efallai y byddwch am drafod unrhyw bryderon penodol sydd gennych ynglŷn â'ch astudiaethau gydag ef. Gallai hyn gynnwys meddwl am sut rydych chi'n cael cymorth os ydych chi'n cael trafferth gyda'ch gwaith.

5. Trefnu taith o amgylch y llyfrgell

Er bod llawer o adnoddau ar-lein erbyn hyn, mae'n debygol y bydd angen i chi ddefnyddio llyfrgell eich prifysgol rywbryd. Efallai yr hoffech chi ddefnyddio’r llyfrgell fel lle i astudio hefyd (gall hyn fod yn ddefnyddiol er mwyn gwneud eich ystafell wely yn lle i ymlacio a chysgu).

Siaradwch â staff y llyfrgell am drefnu taith o amgylch y llyfrgell. Fel arall, efallai y bydd opsiwn ar-lein ar fewnrwyd eich prifysgol. Yn aml, mewn llyfrgelloedd gellir dod o hyd i gymorth academaidd ychwanegol i'ch cefnogi ar eich cwrs.

6. Dod o hyd i'ch canolfan cymorth academaidd

Darganfyddwch ble mae eich canolfan cymorth academaidd neu ganolfan sgiliau astudio a sut i gael mynediad ato. Fel y soniwyd uchod, yn aml gellir dod o hyd i hwn yn y llyfrgell.

Gall fod yn ddefnyddiol iawn os ydych chi'n cael trafferth gydag elfen benodol o'ch gwaith academaidd. Efallai y bydd ganddynt wybodaeth am sut i wella’ch cymhelliant a’ch helpu i ganolbwyntio wrth ichi astudio. Mae'r rhain yn aml yn feysydd y gall anawsterau iechyd meddwl effeithio arnynt.

7. Chwilio am gymdeithas sy'n benodol i'ch cwrs

Efallai y bydd gan eich undeb myfyrwyr gymdeithas benodol ar gyfer myfyrwyr ar eich cwrs. Gall ymuno â chymdeithas o’r fath eich helpu i ddod i adnabod pobl eraill ar eich cwrs, a rhoi cyfle ichi fynychu digwyddiadau cymdeithasol gyda phobl â diddordebau tebyg.

I ddarganfod a oes gan eich cwrs gymdeithas, ewch i wefan eich undeb myfyrwyr neu cysylltwch â nhw i ofyn iddynt.

8. Peidio â bod ofn gofyn cwestiynau a cheisio cymorth

Os ydych chi'n cael trafferth gyda'ch iechyd meddwl neu'ch astudiaethau, ceisiwch gymorth cyn gynted â phosibl. Gallai hyn olygu gofyn i’ch tiwtor personol eich helpu i ddeall y pwnc dan sylw mewn aseiniad neu geisio cymorth gan y gwasanaeth iechyd meddwl.

Y naill ffordd neu'r llall, gorau po gyntaf y byddwch yn ceisio cymorth. Bydd eich prifysgol eisiau eich cefnogi i lwyddo ac i oresgyn unrhyw heriau i'ch dysgu.

Adolygwyd ddiwethaf: Hydref 2022