Gareth Hughesyw Arweinydd Clinigol Student Space ac mae'n seicotherapydd, ymchwilydd ac awdur ar lesiant myfyrwyr, gan gynnwys y llyfr Be Well, Learn Well.
Gall astudio yn y brifysgol fod yn wahanol iawn i unrhyw brofiadau blaenorol o addysg. Gall hyn ei gwneud yn fwy heriol i ddechrau ond yn fwy gwerthfawr yn y pen draw. Gall sut rydych chi'n mynd ati i ddysgu gael effaith fawr ar ba mor dda rydych chi'n dysgu ac ar eich llesiant yn gyffredinol.
Gall astudio yn y brifysgol fod yn wahanol iawn i unrhyw brofiadau blaenorol o addysg. Gall hyn ei gwneud yn fwy heriol i ddechrau ond yn fwy gwerthfawr yn y pen draw. Gall sut rydych chi'n mynd ati i ddysgu gael effaith fawr ar ba mor dda rydych chi'n dysgu ac ar eich llesiant yn gyffredinol.
Mae addysg prifysgol wedi'i chynllunio i'ch helpu i ddod yn ddysgwr annibynnol. Erbyn y byddwch wedi cyrraedd eich blwyddyn olaf, byddwch yn gallu dylunio eich prosiect dysgu eich hun a chynhyrchu gwaith academaidd, annibynnol. Ond mae hyn yn golygu y gall addysgu a'r broses asesu fod yn wahanol iawn i'ch profiadau blaenorol, a allai fod wedi canolbwyntio ar eich paratoi ar gyfer arholiadau.
Er mwyn cwblhau eich asesiadau yn y brifysgol yn llwyddiannus, bydd angen i chi ychwanegu at yr wybodaeth y mae eich darlithydd yn ei darparu yn yr ystafell ddosbarth trwy wneud eich gwaith darllen ac ymchwil eich hun. Mae hyn yn rhan bwysig o ‘ddysgu gweithredol’. Gall y math hwn o ddysgu fod yn frawychus i ddechrau, ond gall hefyd ddod yn gyffrous, yn foddhaus ac yn arwyddocaol, a all yn ei dro fod yn dda i'ch llesiant.
Mae yna nifer o gamau y gallwch eu cymryd i'ch helpu i adeiladu eich ymdeimlad o hyder a chymhwysedd a fydd yn eich helpu i gynnal llesiant da.
Astudio'n rheolaidd
Bydd neilltuo amser i astudio’n rheolaidd ac yn aml yn eich helpu i feithrin eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i chi gwblhau eich asesiadau pan fydd y galw amdanynt. Cofiwch, mae dysgu'n datblygu mewn haenau – mae dysgu newydd yn cysylltu wrth hen ddysgu. Mae astudio am gyfnodau byr yn iawn – mae’n fwy effeithiol yn aml os ydych yn astudio am dair sesiwn hanner awr nag un sesiwn ddwy awr.
Ar y llaw arall, mae aros tan y funud olaf ac yna ceisio astudio pob dim mewn cyfnod byr yn debygol o fod yn llethol ac yn creu'r posibilrwydd y bydd bylchau yn eich gwybodaeth.
Cynlluniwch eich wythnos ymlaen llaw: darganfyddwch faint o oriau y dylech fod yn eu neilltuo ar gyfer pob dosbarth a rhowch hyn yn eich cynllun. Sicrhewch eich bod yn rhoi amser ar gyfer gweithgareddau hunanofal hefyd.
Bydd rhai o'r syniadau, y cysyniadau a'r ffeithiau y byddwch yn dod ar eu traws yn y brifysgol yn gymhleth ac yn anghyfarwydd. Efallai na fydd rhai yn ymddangos i wneud unrhyw synnwyr o gwbl i ddechrau. Mae hyn yn gwbl normal. Os ydych yn derbyn bod peidio â gwybod a pheidio â deall rhywbeth yn rhan arferol o ddysgu, byddwch yn amsugno'r wybodaeth dros amser ac, yn raddol, byddwch yn deall yr hyn a addysgwyd i chi. Peidiwch â gadael i feddyliau pryderus eich perswadio bod eich diffyg dealltwriaeth yn golygu nad ydych chi'n ddigon deallus – nid yw hyn yn wir. Mae dysgu pethau cymhleth yn cymryd amser, ymdrech ac amlygiadau niferus i'r syniad newydd.
Gofynnwch gwestiynau a chymerwch ran yn y dosbarth
Gall deimlo'n frawychus, ond mae myfyrwyr sy'n gofyn cwestiynau ac yn cymryd rhan mewn trafodaethau dosbarth yn tueddu i ddysgu mwy. Byddwch yn ddewr a chofiwch, os nad ydych wedi deall rhywbeth, mae'n debyg nad chi yw'r unig un yn yr ystafell sy'n teimlo felly.
Canolbwyntiwch ar ddysgu
Gall fod yn anodd canolbwyntio ar ddysgu yn unig gan fod ein diwylliant yn canolbwyntio cymaint ar raddau a chanlyniadau academaidd. Ond gwyddom fod myfyrwyr sy'n canolbwyntio ar feistroli eu pwnc (yn hytrach nag ar yr hyn y mae angen iddynt ei wneud i basio eu hasesiadau) yn dysgu mwy ac yn perfformio'n well. Ceisiwch roi'r gorau i feddwl am raddau (o leiaf ychydig) ac, yn hytrach, canolbwyntiwch ar ddysgu a deall eich pwnc.
Cymysgwch eich pynciau
Mae ymchwil yn dangos bod symud yn ôl ac ymlaen rhwng pynciau wrth astudio yn gwella eich dysgu mewn gwirionedd. Gallwch wneud hyn drwy rannu eich cyfnodau astudio a defnyddio pob cyfnod i ganolbwyntio ar fodiwlau neu bynciau astudio gwahanol. Gall hyn hefyd eich helpu i wneud cysylltiadau rhwng pynciau a, thrwy hynny, ddyfnhau eich dealltwriaeth.
Siaradwch â'ch cyfoedion
Gall trafod yr hyn yr ydych chi'n ei ddysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth helpu i ddyfnhau eich dysgu.
Defnyddiwch gymorth
Yn dibynnu ar eich prifysgol, bydd ystod o gymorth ar gael i chi i'ch helpu i wella'ch dysgu a'ch dealltwriaeth. Gall hyn gynnwys darlithwyr, tiwtor personol, gweithwyr proffesiynol sgiliau astudio, llyfrgellydd pwnc neu offer dysgu ar-lein.