Mae llywio bywyd prifysgol fel myfyriwr Du LHDTC+ yn aml yn golygu cydbwyso rhwng gofodau LHDTC+ sy’n rhai gwyn yn bennaf a gofodau sy’n rhai Du cisryweddol-heterorywiol1 (cis-het) yn bennaf, ill dau yn cyflwyno heriau a chyfleoedd unigryw. Cawn ein gorfodi’n aml i wahanu ein hunaniaeth Ddu rhag ein hunaniaeth gwiar er mwyn profi a mwynhau gofodau Du a gofodau cwiar yn ddiogel. Gall hyn ein hachosi ni i arwain dau fywyd nad ydyn nhw’n cwrdd yn aml: un sy’n ymroddedig i’r profiad Du a’r llall i’r profiad cwiar. Yn ystod fy amser i yng Ngholeg y Brenin Llundain, ces brofiad uniongyrchol o’r anawsterau o ddod o hyd i ofod lle’r oedd pob agwedd ar fy hunaniaeth i yn cael ei chydnabod a’i pharchu. Roeddwn i’n aml yn cael trafferth gwerthfawrogi pa mor hyfryd ac unigryw oedd fy hunaniaethau croestoriadol, yn enwedig o fewn cyd-destun prifysgol lle nad yw croestoriadedd yn cael ei flaenoriaethu. O ganlyniad, rwy’ wedi datblygu ambell i air o gyngor gwerthfawr ar sut i lywio’r gofodau hyn mewn ffordd sy’n cynnal eich llesiant.
Cydbwyso hunaniaethau fel myfyriwr Du cwiar: Llywio gofodau gwyn LHDTC+ a gofodau Du cisryweddol-heterorywiol
Mae llywio bywyd prifysgol fel myfyriwr Du LHDTC+ yn aml yn golygu cydbwyso amser rhwng gofodau LHDTC+ sy’n rhai gwyn yn bennaf a gofodau cisryweddol-heterorywiol, sydd ill dau yn cyflwyno heriau unigryw. Dewch o hyd i gyngor ymarferol ar gyfer gofalu am eich llesiant, eirioli dros gynwysoldeb, a chreu gofodau penodol, neilltuedig sy’n cofleidio eich hunaniaeth groestoriadol.
Llywio gofodau LHDTC+ sy’n rhai gwyn yn bennaf
Mewn gofodau LHDTC+ sy’n rhai gwyn yn bennaf, mae myfyrwyr Du yn aml yn wynebu micro-ymosodedd, ffetiseiddio, a diffyg dealltwriaeth ddiwylliannol. Mae’r prif naratif yn tueddu i flaenoriaethu materion y mae unigolion gwyn LHDTC+ yn eu hwynebu, ac yn aml yn ymyleiddio profiadau aelodau sydd wedi hiliaethu. Gall hyn arwain at deimladau o unigedd a chario’r baich o orfod addysgu cyfoedion am brofiadau hiliol yn ogystal ag eirioli dros hawliau LHDTC+.Yn ystod fy amser i yn y brifysgol, profais i’r heriau hyn yn uniongyrchol.
Fy nghyngor i ar gyfer llywio gofodau LHDTC+ sy’n rhai gwyn yn bennaf:
Dewch o hyd i is-gymuned neu sefydlwch un eich hun: Dewch o hyd i ofodau, neu sefydlwch rhai eich hun, o fewn y grwpiau hyn sy’n mynd i’r afael yn benodol â’r croestoriad rhwng hil a hunaniaeth LHDTC+. Gallai hwn fod yn is-bwyllgor neu’n grŵp cymorth anffurfiol. Yng Ngholeg y Brenin Llundain, cyd-sefydlais y gymdeithas gydnabyddedig gyntaf ar gyfer myfyrwyr o liw cwiar, traws a rhyngryw, a ddechreuodd fel casgliad bach o ffrindiau a oedd yn rhannu eu straeon ac a dyfodd yn gymdeithas swyddogol, gydnabyddedig gyda chefnogaeth y brifysgol.
Hunanofal a gosod ffiniau: Blaenoriaethwch eich iechyd meddwl. Mae’n iawn camu’n ôl, yn enwedig os ydych chi’n teimlo’r baich o addysgu eraill. Neilltuwch amser ar gyfer gweithgareddau sy’n eich helpu i ymlacio a dadflino, boed yn treulio amser gyda ffrindiau, yn ymgymryd â hobïau, neu’n ymarfer meddwlgarwch. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall eich terfynau a gosodwch ffiniau i amddiffyn eich llesiant.
Addysg ac eiriolaeth: Os ydych chi’n teimlo’n ddiogel, yn gyfforddus ac wedi’ch ysgogi i wneud hynny, defnyddiwch eich llais i eirioli dros arferion a pholisïau mwy cynhwysol. Cydweithiwch â chynghreiriaid i ehangu eich ymdrechion. Cynhaliwch ddigwyddiadau sy’n amlygu materion croestoriadol, megis gweithdai, trafodaethau panel neu gyfarfodydd cymdeithasol sy’n canolbwyntio ar brofiadau myfyrwyr o liw cwiar, traws a rhyngryw, neu cymerwch ran yn y digwyddiadau hynny. Gall eiriolaeth helpu i esgor ar newidiadau sefydliadol a meithrin amgylchedd mwy cynhwysol.
Llywio gofodau Du sy’n rhai cisryweddol-heterorywiol yn bennaf
Ar y llaw arall, mae gofodau Du sy’n rhai cisryweddol-heterorywiol yn bennaf yn cyflwyno llu o heriau eu hunain. Er bod yr amgylcheddau hyn yn cynnig ymdeimlad cryf o berthyn diwylliannol, efallai y byddwch chi’n gweld bod goddefgarwch o ran hunaniaethau LHDTC+ yn gyfyngedig, a gall ein profiadau gael eu camddeall neu eu diystyru. Mae ‘cwiarffobia’2 yn gallu bod yn fwy amlwg yn y gofodau hyn, gan eu gwneud yn anniogel yn ysbrydol, yn emosiynol, ac weithiau’n gorfforol. Gall hyn arwain at deimladau o orfod cuddio rhannau o’ch hunaniaeth pan fyddwch chi yn y gofodau hyn. Fodd bynnag, mae’r gofodau hyn hefyd yn ysgogi ymdeimlad cryf o berthyn diwylliannol a chymuned, gan gynnig dealltwriaeth gyffredin o’r heriau a wynebir gan unigolion Du.
Fy nghyngor i ar gyfer llywio gofodau Du sy’n rhai cisryweddol-heterorywiol yn bennaf:
Adnabod cynghreiriaid: Chwiliwch am unigolion yn y gofodau hyn sy’n gefnogol ac sy’n deall profiadau LHDTC+.Gall adeiladu rhwydwaith o gynghreiriaid ddarparu cefnogaeth hanfodol a chreu amgylchedd mwy diogel ar gyfer mynegi eich hunaniaeth lawn.
Ymgysylltu diwylliannol: Cadwch gysylltiad â’ch gwreiddiau a’ch traddodiadau diwylliannol. Gall hyn greu ymdeimlad sylfaenol o hunaniaeth a pherthyn. Gall ymgysylltu â’ch diwylliant helpu i gynnal ymdeimlad o falchder a gwydnwch.
Addysg a deialog: Lle bo’n ddiogel ac yn bosibl, cymerwch ran mewn sgyrsiau i godi ymwybyddiaeth a meithrin derbyniad. Gall rhannu straeon personol amlygu elfen ddynol materion LHDTC+ a chreu empathi. Gall addysg fod yn arf pwerus ar gyfer chwalu rhagfarnau a meithrin dealltwriaeth. Mae Prosiect Trevor wedi creu canllaw ar gyfer pobl ifanc Ddu LHDTC+ yn benodol a allai eich cynorthwyo i lywio’r sgyrsiau hyn.
Darganfyddwch a sefydlwch ofodau cwiar Du penodol
Mae cydbwyso rhwng y ddau ofod hyn yn aml yn teimlo fel dewis amhosibl, gan fod y naill ofod a’r llall yn cynnig cymorth mewn gwahanol ffyrdd gan gyflwyno rhwystrau sylweddol hefyd. Mae diffyg gofodau penodol, neilltuedig ar gyfer myfyrwyr LHDTC+ Du yng nghymuned y brifysgol yn tynnu sylw at broblem sylweddol. Fodd bynnag, nid dewis yw’r unig opsiwn. Os oes gennych chi’r egni, yr amser a’r angerdd, gallwch helpu i drawsnewid y gofodau traddodiadol hyn yn ofodau mwy cynhwysol a llawn dealltwriaeth i fyfyrwyr cwiar Du drwy ddefnyddio’ch llais. Neu, gallwch sefydlu gofodau newydd neu ddod o hyd i ofodau y tu allan i’ch cymuned prifysgol.
Ffurfiwch glymbleidiau: Gweithiwch gyda chyfoedion o’r un anian i sefydlu gofodau neu grwpiau penodol, neilltuedig sy’n mynd i’r afael yn benodol â chroestoriad hil a hunaniaeth LHDTC+. Gall hyn fod o fewn sefydliadau presennol neu fel mentrau cwbl newydd.
Cefnogaeth sefydliadol: Anogwch eich prifysgol i gydnabod a chefnogi sefydlu’r gofodau hyn. Tynnwch sylw at bwysigrwydd rhwydweithiau cymorth croestoriadol ar gyfer llesiant myfyrwyr. Gall cefnogaeth sefydliadol ddarparu’r adnoddau a’r dilysrwydd y mae eu hangen er mwyn i’r gofodau hyn ffynnu.
Adeiladwch gymunedau: Defnyddiwch y cyfryngau cymdeithasol a phlatfformau eraill i gysylltu â myfyrwyr LHDTC+ Du mewn prifysgolion eraill. Gall adeiladu rhwydwaith ehangach ddarparu cymorth ac adnoddau ychwanegol. Ystyriwch gysylltu â chymunedau ehangach, megis y gymuned ddawns neuadd, sydd â hanes cyfoethog o gefnogi unigolion LHDTC+ Du.
Ymwadiad:
Mae’n bwysig cydnabod nad yw eiriolaeth at ddant pawb. Gall y pwysau emosiynol a’r risgiau posibl fod yn sylweddol. Os byddwch chi’n gweld nad yw eiriolaeth yn rhywbeth y gallwch chi gymryd rhan ynddo, neu eisiau cymryd rhan ynddo, mae hynny’n berffaith iawn. Canolbwyntiwch ar yr hyn y mae angen i chi ei wneud i ofalu amdanoch chi eich hun a dewch o hyd i gefnogaeth mewn ffyrdd sy’n gweithio orau i chi.