Beth i'w ddisgwyl gan staff y brifysgol

Gareth Hughes

Gareth Hughes yw Arweinydd Clinigol Student Space ac mae'n seicotherapydd, ymchwilydd ac awdur ar lesiant myfyrwyr, gan gynnwys y llyfr Be Well, Learn Well.

Byddwch yn dod ar draws llawer o wahanol fathau o staff yn y brifysgol. Darganfyddwch beth allwch chi ei ddisgwyl ganddyn nhw.

Mae llawer o wahanol fathau o staff o fewn prifysgol, ac mae'r rhan fwyaf ohonynt yno i'ch cefnogi chi a'ch cyfoedion mewn rhyw ffordd. Gall deall y rolau hyn a'ch cydberthnasau â nhw eich helpu i lyfnhau'ch taith drwy'r brifysgol.

Mae eich cydberthynas â staff y brifysgol yn debygol o fod yn wahanol i unrhyw gydberthynas flaenorol yr ydych wedi'i chael – er enghraifft, gyda'ch athrawon ysgol neu gyflogwyr. Efallai y bydd disgwyl i chi fod yn fwy rhagweithiol yn eich rôl. Mewn rhai ffyrdd, gall y cydberthnasau deimlo'n llai ffurfiol, ac yn fwy ffurfiol mewn rhai ffyrdd. Gall hyn gymryd peth amser i ddod i arfer ag ef, yn enwedig gan ei bod yn bosibl nad yw'r gwahaniaethau hyn yn gyson o unigolyn i unigolyn. Gall bod yn barod ar gyfer hyn eich helpu i addasu a manteisio i'r eithaf ar y cydberthnasau hyn.

Tiwtoriaid a darlithwyr

Efallai y byddwch yn gweld gwahaniaethau sylweddol yn y ffordd y mae staff academaidd yn ymddwyn tuag atoch chi a’ch cyfoedion, hyd yn oed yn yr un rôl.

Mae rhai o’r ffactorau a allai ddylanwadu ar hyn yn cynnwys:

  • Y math o brifysgol neu ddisgyblaeth academaidd yr ydych ynddi: mae rhai disgyblaethau yn fwy ffurfiol nag eraill. Yn ogystal â hyn, mae rhai academyddion yn canolbwyntio mwy ar ymchwil, ac felly mae'n bosib na fyddant ar gael bob amser.

  • Maint eich dosbarth: os yw eich darlithydd yn addysgu 200 o fyfyrwyr, bydd yn anoddach cael cydberthynas unigol â phob un ohonoch.

  • Trefniadau ymarferol: mae rhai pynciau yn gofyn i fyfyrwyr a thiwtoriaid fod mewn labordy, gweithdy neu stiwdio gyda'i gilydd am oriau lawer bob dydd. Gallai hyn greu cydberthynas agosach.

  • Sut mae eich darlithwyr yn cael eu cyflogi: bydd rhai darlithwyr ond yn cael eu cyflogi am yr oriau y maent yn addysgu un modiwl, sy'n golygu na fyddant o gwmpas ar adegau eraill.

Darganfod beth yw eich cydberthynas gyda staff academaidd

Mae hyn yn golygu efallai y bydd rhaid i chi dreulio amser yn darganfod beth yw eich cydberthynas gyda phob darlithydd. Mae'n iawn gofyn cwestiynau penodol i sicrhau'r eglurder hwn. Efallai yr hoffech wybod:

  • Pryd a sut gallaf gysylltu â chi?

  • Am beth y gallaf ofyn ichi?

  • Pa mor fuan ddylwn i ddisgwyl ymateb i ymholiad? (Byddwch yn ymwybodol o'r ffaith y bydd darlithwyr yn gorfod ymateb i lawer o fyfyrwyr, ac mae'n annhebygol y byddant yn ymateb i e-bost yn syth)

  • Sut ddylwn i eich cyfarch chi?

Cofiwch fod y rhan fwyaf o ddarlithwyr yn ymboeni am eu myfyrwyr ac eisiau i chi lwyddo. Ceisiwch beidio â digalonni os ydyn yn teimlo'n wahanol i eraill rydych chi wedi'u hadnabod neu os ydynt yn wahanol i'w gilydd.

Staff proffesiynol

Mae ystod o staff proffesiynol yn gweithio mewn prifysgolion hefyd a byddant yn gallu eich cefnogi gydag agweddau penodol o'ch profiad yn y brifysgol.

Bydd y rhain yn amrywio yn dibynnu ar eich prifysgol, ond gallant gynnwys:

  • llyfrgellwyr

  • staff llety

  • cynghorwyr gyrfaoedd

  • timau llesiant

  • cwnselwyr a gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol

  • timau anabledd

  • cynghorwyr sgiliau astudio

Mae'n werth cofio y gall staff yn y rolau hyn gynnig gwahanol fathau o gymorth i'r rhai mewn rolau tebyg yr ydych wedi dod ar eu traws o'r blaen. Er enghraifft, yn aml gall llyfrgellwyr pwnc eich helpu gyda chwiliadau ymchwil a chyfeiriad.

Yn y brifysgol, ychydig iawn o oriau cyswllt fydd gennych gyda staff ac felly, yn anffodus, mae'n llawer llai tebygol y byddant yn sylwi ar symptomau llesiant meddyliol gwael, oni bai eich bod yn dod â nhw i'w sylw. Mae’n bwysig iawn eich bod yn siarad â’ch tiwtoriaid a'r ganolfan lesiant pan fydd arnoch angen y cymorth ychwanegol hwnnw.

Fel arfer, bydd gan bob gwasanaeth ei adran ei hun ar fewnrwyd y brifysgol, sy'n esbonio'r hyn y gallant ei gynnig a sut y gallwch weithio gyda nhw. Gallwch hefyd ddefnyddio ein cyfeiriadur i ddod o hyd i wybodaeth am ba gymorth sydd ar gael yn eich prifysgol.

University support icon

Dod o hyd i wasanaethau cymorth sy'n cael eu darparu gan eich sefydliad addysg

Adolygwyd ddiwethaf: Hydref 2023