Beth i'w wneud os oes gennych chi broblemau ariannol

Mae Ruth Bushi

Mae Ruth Bushi yn ysgrifennu am arian myfyrwyr a bywyd yn y brifysgol. Mae hi'n awdur sawl rhifyn o The Student Money Manual.

Mae cael ambell 'blip' ariannol tra rydych chi yn y brifysgol yn arferol. Ond gyda newidiadau i gostau byw yn tarfu ar bawb, mae llawer o fyfyrwyr bellach yn wynebu mwy o heriau. Darganfyddwch pa gamau y gallwch chi eu cymryd i fynd i'r afael â'r problemau ariannol mwyaf y mae myfyrwyr yn eu hwynebu fel arfer.

Costau llety

Rhent yw'r gost fwyaf y mae'n rhaid i fyfyrwyr ymdopi â hi fel arfer. Gall hyn fod yn anodd ar y gorau, ond yn llethol fel y mae pethau ar hyn o bryd.

Os ydych chi'n wynebu trafferthion gyda chostau llety o ganlyniad i'r newidiadau i gostau byw neu galedi annisgwyl arall, gallech chi gael arian brys gan eich prifysgol. Gallai hwn gymryd y pwysau oddi ar eich ysgwyddau am ychydig.

Os na allwch chi gael digon o gymorth i dalu eich costau llety, siaradwch â’ch landlord i drafod eich opsiynau cyn gynted â phosibl. Byddai rhai (gan gynnwys prifysgolion a neuaddau preifat) yn agored i ystyried ad-daliadau, canslo cytundebau, neu ostwng y rhent.

Yn anffodus, nid yw pob landlord mor hyblyg â hyn. Ond peidiwch â rhoi’r gorau i dalu rhent (h.y. mynd ar streic rhent) heb gyngor priodol. Siaradwch â’ch undeb myfyrwyr am hyn yn gyntaf. Gall yr elusen tai Shelter eich helpu hefyd. Gallwch hefyd gysylltu â nhw os ydych chi’n cael trafferth talu, os ydych chi am wybod beth yw eich hawliau neu os ydych chi’n poeni am ddigartrefedd.

Trusted resource

Shelter

Mae Shelter yn cynnig cyngor cynhwysfawr, dibynadwy os ydych chi’n wynebu problemau gyda thai neu ddigartrefedd

Biliau

Os ydych chi ar ei hôl hi neu'n cael trafferth talu eich biliau, peidiwch â chael eich temtio i osgoi meddwl am y peth. Gall gweithredu’n gyflym gael effaith llawer mwy cadarnhaol a helpu i leihau eich pryderon. Mae beth i'w wneud yn dibynnu ar ba gam yr ydych chi.

Defnyddiwch eich cyllideb i nodi gwasanaethau nad oes eu hangen arnoch neu y gallwch chi eu rhewi. A chwiliwch am daliadau treigl rydych chi wedi anghofio amdanyn nhw, fel gwasanaethau ap neu ffrydio.

Chwiliwch am fargeinion gwell a newid. Hyd yn oed os ydych chi wedi ymrwymo i gontract, efallai y bydd rhai cyflenwyr yn ystyried eich symud i becyn rhatach er mwyn osgoi problemau.

Os oes angen cymorth arnoch, gofynnwch i'ch prifysgol neu chwiliwch am gyllid ychwanegol. Neu sgwrsiwch â Chyngor ar Bopeth am eich hawliau a’r camau nesaf.

Poeni am ddyledion

P'un a ydych chi wedi methu taliadau neu'n poeni am syrthio ar ei hôl hi, dyma'r amser i siarad am ddyled bob amser. Mae bod yn agored am bethau yn golygu bod llai o siawns y byddwch chi’n gorfod talu ffioedd hwyr nawr neu niweidio eich sgôr credyd yn ddiweddarach.

Ceisiwch osgoi benthyciadau newydd, a thorrwch yn ôl ar wariant nad yw’n hanfodol. Dywedwch wrth eich darparwyr biliau eich bod yn cael trafferth talu - efallai y gallant fod yn hyblyg neu eich cefnogi. Siaradwch â thîm arian myfyrwyr eich prifysgol hefyd. Efallai y gallant eich helpu i roi hwb i'ch cyllideb, i ofalu am eich llesiant, a chymryd camau ymarferol i ddelio â dyled.

Gallwch hefyd gysylltu â'r elusen dyledion StepChange am gyngor arbenigol yn rhad ac am ddim (Saesneg yn unig).

Trusted resource

Stepchange

Mae gan Stepchange dros 25 mlynedd o brofiad o ddarparu cyngor arbenigol, rhad ac am ddim ar ddyledion, ac maent yn cynnig yr ystod ehangaf o ddatrysiadau ymarferol i ddyled o blith holl ddarparwr y DU.

Llai o arian yn dod i mewn

Efallai eich bod wedi colli eich swydd yn gyfan gwbl, neu’n cael llai o gyflog. Ac os yw eich rhieni, partner neu aelodau eraill o'ch teulu yn derbyn llai o gyflog hefyd, gallai hynny effeithio ar ffynhonnell gymorth arall yr oeddech chi'n dibynnu arni.

Er nad oes yna ateb sydyn i newid mawr mewn cyflogaeth, mae yna gymorth ariannol i fyfyrwyr. Mae rhywfaint o'r cyllid hwn yn newydd neu'n llai hysbys. Efallai y bydd angen mwy o gymorth arnoch nawr hefyd os yw'ch amgylchiadau wedi newid - felly mae'n werth i chi edrych arno.

Ar yr un pryd, ceisiwch ddod o hyd i ffyrdd o wneud i'ch arian fynd ymhellach. Ewch i wahanol siopau, cymharwch brisiau a defnyddiwch eich gostyngiad myfyriwr i ddechrau.

Dyma gyfle da hefyd i feddwl am sgiliau neu hobïau y gallwch chi wneud arian ohonynt o bell. Er enghraifft, gwerthu pethau rydych chi wedi'u gwneud, neu gynnig gwersi fideo. Gall ennill rhywfaint o arian fel hyn deimlo fel cam ymlaen, a gall fod yn hwyl i roi cynnig arni.

Peidiwch â bod yn rhy fyrbwyll a chael gwared ar lyfrau neu offer prifysgol eraill, chwaith. Gall bywyd myfyriwr deimlo'n wahanol iawn ar hyn o bryd, ond peidiwch â rhuthro i wneud penderfyniadau am eich cwrs, eich prifysgol neu'ch dyfodol. Rhowch amser i chi'ch hun i addasu.

Fe wnes i elwa’n aruthrol ar gael bwrsariaeth myfyriwr, ac mae sawl math o gyllid y gallwch chi droi ato am help

Llesiant

Mae'n iawn teimlo o dan straen o ystyried popeth sy'n digwydd. Mae'r hyn sy'n digwydd yn gwbl newydd ac yn anodd i'r rhan fwyaf o bobl. Mae gorfod ymdopi â bywyd myfyriwr ac arian ar ben hynny yn beth mawr.

Mae'r awgrymiadau ar y dudalen hon yn cynnig ffyrdd ymarferol o gael cymorth neu i deimlo'n fwy gobeithiol. Rhowch gynnig arnyn nhw. Ond peidiwch â rhoi eich hun o dan ormod o bwysau. Os byddai siarad yn helpu, cysylltwch â gwasanaethau cymorth yn eich prifysgol neu drwy ein gwasanaethau.

Os ydych chi'n cael trafferth gyda'ch arian neu hyd yn oed yn ystyried rhoi'r gorau i'r brifysgol o'i herwydd, gallan nhw [eich prifysgol] gynnig help i chi a gallan nhw roi gwybod i chi sut y gallwch chi ddod o hyd i ffyrdd eraill o gyllido. Efallai eich bod yn gymwys i dderbyn mwy o arian nag yr oeddech chi wedi'i sylweddoli hyd yn oed.

Adolygwyd ddiwethaf: Tachwedd 2022