Mae llawer o fyfyrwyr yn poeni am eu profiadau pan fyddant yn galaru, oherwydd gall galar fod mor anrhagweladwy a gall ein teimladau fod mor bwerus.
Os ydych chi'n galaru, nid yw'n anarferol profi emosiynau cryf fel tristwch, dicter, diffyg teimlad, sioc, diymadferthedd a blinder. Efallai y byddwch hefyd yn gweld bod galar yn effeithio ar eich iechyd corfforol, gan amharu ar eich cwsg, awydd bwyd, lefelau egni a'ch gallu i feddwl yn glir.
Fodd bynnag, er gwaethaf yr effaith eithafol hyn, mae galar yn broses gwbl normal. Gall galar fod yn boenus ond, gydag amser, hunanofal a chymorth pobl eraill, bydd yn lleihau yn naturiol.
Mae’n bwysig cofio hefyd ein bod yn galaru am lawer o bethau yn ein bywydau – nid dim ond colli anwyliaid. Gall colli cyfeillgarwch, diwedd perthynas, marwolaeth anifail anwes neu golli swydd i gyd achosi i ni brofi galar.
Mae galar yn ymateb dynol arferol i golled. Nid yw'n arwydd o wendid, ac nid yw'n amhriodol i alaru am rywbeth neu rywun. Nid yw ychwaith yn rhywbeth y gallwn ei reoli na’i atal. Os ydych chi'n galaru, mae hynny oherwydd bod angen i chi wneud hynny ac mae hynny'n iawn.
Yn olaf, cofiwch nad oes ‘ffordd gywir’ o alaru. Rydyn ni i gyd yn profi galar yn wahanol a bydd ein profiadau yn amrywio ar wahanol adegau o'n bywydau ac ar gyfer colledion gwahanol.
Mae’r ffordd rydych chi'n profi galar yn adlewyrchu’r ffordd y mae angen i chi ei brofi ar hyn o bryd – nid yw eich teimladau a'ch ymatebion yn anghywir. Peidiwch â phoeni nad ydych chi'n ‘galaru'n gywir’. Mae rhai pobl yn teimlo tristwch aruthrol ar ôl colled ac yn crio llawer, ac mae rhai pobl yn mynd yn ddideimlad a ddim yn crio o gwbl. Nid yw'r naill ymateb na'r llall yn anghywir.