Cyn darllen yr erthygl hon, efallai y byddai'n ddefnyddiol cael gwell dealltwriaeth o beth yw geiriau cadarnhaol. Mae geiriau cadarnhaol yn ddatganiadau cadarnhaol y mae unigolion yn eu hailadrodd iddynt eu hunain i herio a goresgyn meddyliau negyddol a hunanamheuaeth. Yn y prosiect Student Space hwn, rydym yn aml wedi cyfeirio at syndrom y ffugiwr fel un o'r problemau y mae myfyrwyr Du mewn addysg uwch yn eu hwynebu, ymhlith eraill. Rydym yn canfod y gall geiriau cadarnhaol fod yn arbennig o rymusol, gan wasanaethu fel ffordd o frwydro yn erbyn y pethau sy’n gallu peri straen a’r heriau systemig sy’n unigryw i fyfyrwyr Du.Trwy gadarnhau eich gwerth, eich galluoedd a'ch potensial yn rheolaidd, gallwch feithrin ymdeimlad cryfach o hunanhyder a gwydnwch.
Er mwyn defnyddio geiriau cadarnhaol yn effeithiol, mae'n bwysig eich bod chi'n dewis neu'n creu datganiadau sy'n atseinio'n bersonol, fel “Rydw i’n wydn, yn alluog, ac yn haeddu llwyddiant yn fy nhaith academaidd.”Gallwch ailadrodd y geiriau cadarnhaol hyn yn ddyddiol, heb fod o reidrwydd yn sefyll yn union o flaen drych yn edrych ar eich adlewyrchiad rydych chi’n gallu dweud geiriau cadarnhaol wrthych chi’ch hun ar unrhyw adeg yn ystod eich diwrnod hyd yn oed yn ystod eiliadau o fyfyrio tawel, yr eiliadau dryslyd yn y gwely ar ôl deffro neu wrth gymudo i ddarlithoedd, gall dweud geiriau cadarnhaol wrthych chi’ch hun atgyfnerthu meddylfryd cadarnhaol. Po fwyaf aml y maen nhw’n cael eu hailadrodd trwy gydol y dydd, y mwyaf y maen nhw’n dod yn rhan o'r isymwybod. Rydych chi’n gallu creu eich geiriau cadarnhaol eich hun trwy nodi meysydd lle rydych chi'n ceisio twf neu angen anogaeth, gan sicrhau bod y datganiadau rydych chi'n eu defnyddio yn gadarnhaol, yn amser presennol y ferf, ac yn adlewyrchu eich gwir ddyheadau a'ch cryfderau. Nid ‘hudlath’ yw geiriau cadarnhaol a gall gymryd amser i sylwi ar newidiadau mewn credoau dwfn, ond nod yr arferiad hwn nid yn unig yw meithrin llesiant meddyliol ond hefyd adeiladu sylfaen ar gyfer hunanhyder a grymuso parhaus.