Cael trafferth dod o hyd i gymhelliant?

Mae Jo Baker

Mae Jo Baker yn seicotherapydd, goruchwyliwr clinigol ac addysgwr sy'n arbenigo mewn llesiant a dysgu myfyrwyr.

Gall fod yn anodd dod o hyd i'r cymhelliant i ddechrau neu gwblhau darn o waith.

Weithiau gall fod yn anodd dod o hyd i'r cymhelliant i ddechrau neu gwblhau darn o waith, hyd yn oed os ydych chi wir eisiau ei wneud neu gael gradd dda. Gall hyn fod yn rhwystredig iawn a theimlo'n straen sydd wedyn yn ei gwneud hi'n anoddach astudio. Mae'r cylch hwn yn eithaf cyffredin, ac mae'n bosibl torri'n rhydd ohono. Trwy fabwysiadu rhai o'r strategaethau canlynol, gallwch ddysgu adeiladu cymhelliant hirdymor a goresgyn blociau meddyliol tymor byr fel y gallwch wneud eich gwaith.

Beth yw cymhelliant ac o ble mae'n dod?

Cymhelliant yw'r grym ysgogol tu ôl i'n gweithredoedd. Mae'n cychwyn, yn arwain ac yn cynnal ymddygiadau sy'n anelu at nodau. Caiff ei ddylanwadu gan ddymuniadau personol, anghenion unigol, nodau, gwerthoedd, yr hyn sy’n ein cymell a gwobrau a normau diwylliannol a chymdeithasol.

Mae’n chwarae rôl hanfodol wrth bennu lefel yr ymdrech a’r dyfalbarhad a roddwn i gyflawni ein hamcanion, boed yn dasgau tymor byr neu’n ddyheadau hirdymor.

Gall cymhelliant ddeillio o wobrau mewnol fel:

  • Ystyried bod yr aseiniad yn ddiddorol

  • Mwynhau'r pwnc

  • Boddhad o ddatblygu syniadau a dealltwriaeth

Neu gall gael ei ysgogi gan wobrau allanol fel:

  • Cydnabod cyflawniad

  • Osgoi risg posibl o fethiant

  • Cael gradd dda

Mae gennym oll gydbwysedd o gymhelliant mewnol ac allanol, ond mae ymchwil yn dangos bod myfyrwyr sydd â mwy o gymhelliant cynhenid yn dysgu mwy, yn cymryd rhan mewn dysgu dyfnach o ansawdd gwell, maent yn fwy creadigol, yn meddu ar sgiliau datrys problemau gwell ac yn profi gwell iechyd meddwl a lles cyffredinol.

Rhwystrau i gymhelliant

  • Gohirio

  • Gor-baratoi

  • Diflastod

  • Methu ysgrifennu

  • Colli hyder

  • Perffeithiaeth

  • Blaenoriaethau sy'n cystadlu a phethau sy’n denu’ch sylw

  • Blinder

Strategaethau ar gyfer gwella cymhelliant

Mae gwella cymhelliant yn gofyn am ddull cyfannol. Gall helpu i integreiddio’r strategaethau canlynol yn eich bywyd bob dydd:

Gosodwch nodau clir, cyraeddadwy

Gosodwch nodau tymor byr a hirdymor, gan sicrhau eu bod yn benodol ac yn berthnasol. Mae cael amcanion clir yn rhoi cyfeiriad a phwrpas. Cysylltwch eich nodau â'ch gwerthoedd, eich angerdd a'ch dyheadau hirdymor. Gall deall pam eich bod am gyflawni rhywbeth gynyddu eich cymhelliant cynhenid.

Dylai eich nodau fod yn gyraeddadwy ac yn ystyried sut y gall gwahanol rannau o'ch bywyd gymryd amser yn rhydd o'ch gwaith. Trwy wneud hyn felly, gallwch gynllunio pryd a sut y byddwch yn [rheoli eich amser] i sicrhau y gallwch gyflawni eich nodau ochr yn ochr ag unrhyw flaenoriaethau sy'n cystadlu a allai ddod i'r amlwg.

Cynlluniwch broses ar gyfer cwblhau eich aseiniad

Nodwch ddyddiad pan fydd yn rhaid i chi symud ymlaen o ymchwil i gynhyrchu'r gwaith mewn gwirionedd. Gallwch ddechrau trwy ddarllen yn eang i gynhyrchu syniadau ac wrth i’r hyn y mae angen i chi ei wneud neu'r hyn yr hoffech ei ddweud dod yn glir gallwch dargedu eich ymchwil fwy. Peidiwch ag anghofio cadw nodiadau i helpu i adeiladu eich tystiolaeth.

Rhannwch dasgau yn gamau llai

Weithiau, mae cymhelliant yn dilyn gweithredu yn hytrach na chymhelliant yn achosi gweithredu. Rhannwch dasgau mawr yn ddarnau hawdd eu trin a rhannwch eich trefn waith yn ddarnau llai o amser. Er enghraifft, efallai y byddwch yn addo i chi'ch hun y byddwch yn gweithio am 15 munud yn unig. Os gwelwch fod eich gwaith yn llifo, daliwch ati ac os nad yw, yna rydych wedi gwneud 15 munud yn fwy nag y byddech wedi'i wneud oni bai. Wrth i hyn ddod yn haws, gallwch gynyddu'r amser targed yn raddol.

Dewch o hyd i gysylltiad emosiynol

Daw'r termau 'emosiwn' a 'chymhelliant' o'r un gwreiddyn Lladin 'movere' sy'n golygu symud neu ysgogi gweithredu. Ceisiwch sefydlu cysylltiad emosiynol â'r aseiniad, gan ei gysylltu â'ch gwerthoedd personol, eich angerdd, neu'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol. Efallai ei fod yn eich rhwystro neu efallai eich bod yn anghytuno ag ef. Ceisiwch ddod o hyd i rywfaint o ymchwil neu farn hyddysg sy'n cytuno â chi. Weithiau, os nad yw'r pwnc dan sylw yn eich denu, efallai y byddai'n well ei gysylltu â chynlluniau ar gyfer y dyfodol sy'n bwysig i chi. Er enghraifft, efallai y byddwch am ofyn y canlynol i chi'ch hun:

  • Sut bydd dysgu am hyn yn fy mharatoi ar gyfer yr yrfa rwyf ei heisiau?

  • A fydd yr wybodaeth neu'r sgiliau sydd eu hangen yn fy helpu i berfformio'n well yn fy rôl yn y dyfodol?

Gallai hyn eich helpu i greu’r cysylltiadau cadarnhaol hynny â’r pwnc a’i wneud yn haws gweithio arno.

Cadwch at drefn arferol a strwythur

Mae angen i ni fod yn ymwybodol o effaith ein harferion a'n gweithgareddau bob dydd. Mae bodau dynol yn greaduriaid sy'n gaeth i'w harferion, a gall rhai arferion fod yn fwy buddiol i ni nag eraill. Strwythurwch eich diwrnod i gadw cydbwysedd rhwng astudio, amser rhydd, a hunanofal er mwyn osgoi gorlethu.


Mae blinder a chymhelliant yn rhannu perthynas gymhleth, gan ei gwneud hi'n hanfodol mynd i'r afael ag achosion sylfaenol. Gall blaenoriaethu eich lles corfforol a meddyliol trwy fwyta deiet cytbwys, gwneud ymarfer corff rheolaidd, cael cwsg o ansawdd da a rheoli straen helpu i gynnal lefelau egni a chymhelliant.

Crëwch amgylchedd cadarnhaol i gefnogi'ch nodau a rhoi hwb i'ch cymhelliant

Gallai hyn gynnwys trefnu eich gweithle, cael gwared ar bethau sy’n tynnu sylw, neu amgylchynu'ch hun gyda dyfyniadau neu ddelweddau ysgogiadol.

Gwobrwywch eich hun am wneud cynnydd tuag at eich nodau

Gall hyn fod mor syml â rhoi seibiant i chi'ch hun, cymryd pleser yn gwneud eich hoff hobi neu’n gwneud rhywbeth rydych chi'n ei fwynhau. Gall gwobrau atgyfnerthu ymddygiadau cadarnhaol a'ch cadw'n llawn cymhelliant. Mae seibiau yn bwysig gan eu bod yn caniatáu ichi gamu yn ôl o'ch nodau, gan roi cyfle i chi ddychwelyd atynt gan deimlo'n ffres.

Gwnewch yn siŵr bod cefnogaeth o’ch amgylch ym mhob man

Gwnewch yn siŵr bod ffrindiau, teulu, neu staff y brifysgol o’ch amgylch sy'n eich cefnogi a’ch annog i gyrraedd eich nodau ac sy’n eich ysgogi. Gall rhannu eich nodau ag eraill eich helpu chi i fod yn gyfrifol amdanynt a’ch ysgogi.

Cofiwch fod gwella cymhelliant yn broses barhaus, gydol oes, ac mae'n arferol profi amrywiadau mewn cymhelliant dros amser. Byddwch yn amyneddgar ac yn garedig â chi'ch hun a daliwch ati i arbrofi gyda gwahanol strategaethau nes i chi ddod o hyd i'r hyn sy'n gweithio orau i chi.

Adolygwyd ddiwethaf: Ebrill 2024