Pan fydd pobl yn cael anawsterau yn eu bywyd neu gyda'u hiechyd meddwl, gall cefnogaeth gan y rhai o'u cwmpas chwarae rhan arwyddocaol wrth eu helpu nhw i wella. Fodd bynnag, mae eich lles chi hefyd yn bwysig ac mae'n bwysig eich bod chi'n cofio mai'ch rôl chi yw bod yn ffrind, nid yn arbenigwr iechyd meddwl, yn gynghorydd neu'n ofalwr. Gall yr awgrymiadau canlynol eich helpu chi a'ch ffrind.
Cefnogi ffrind
Gall cefnogi ffrind sy'n cael anawsterau yn ei fywyd neu gyda'i iechyd meddwl deimlo'n hynod anodd ac nid yw darparu'r gefnogaeth hon bob amser yn hawdd. Gall fod yn anodd gwybod beth i'w ddweud a phryd i'w ddweud ond gall cadw ychydig o egwyddorion allweddol mewn cof eich helpu chi a'ch ffrind.
Nid oes rhaid ichi ddarparu atebion
Mae'n naturiol bod eisiau helpu'ch ffrind i ddatrys ei broblemau, fel y gall deimlo'n well a mwynhau bywyd yn fwy. Mae datrys problemau yn rhywbeth y mae ein hymennydd ni'n naturiol eisiau ei wneud. Ond nid eich cyfrifoldeb chi yw dod o hyd i atebion, ac efallai nad dyna mae eich ffrind ei angen gennych chi mewn gwirionedd. Yn aml iawn, yr hyn sydd ei angen arnom pan fyddwn ni'n teimlo'n ofidus yw rhywun a fydd yn gwrando arnom ni, yn derbyn ein stori, ac yn dangos i ni ei fod yn poeni. Gall hyn ar ei ben ei hun fod yn fath bwerus o gefnogaeth.
Gofynnwch i'ch ffrind beth allwch chi ei wneud i helpu – does dim rhaid i chi ddyfalu
Gall teimlo y dylech chi wybod beth i'w wneud ar gyfer eich ffrind fod yn straen, ond nid oes unrhyw un ymateb byth yn iawn i bawb. Gall gofyn i'ch ffrind beth allwch chi ei wneud i’w helpu fod yn ddefnyddiol mewn nifer o ffyrdd;
Os gall ddweud wrthych chi, a gallwch chi wneud fel y mae’n ei ofyn, yna bydd eich ffrind yn cael yr hyn sydd ei angen arno a byddwch chi'n gwybod eich bod chi'n helpu
Trwy ofyn i'ch ffrind, rydych chi'n dangos eich bod chi'n poeni amdano ac nad ydyw ar ei ben ei hunan
Trwy ganiatáu iddo nodi beth sydd ei angen arno, rydych chi'n ei helpu i deimlo bod ganddo fwy o reolaeth dros ei sefyllfa
Gall byw gydag afiechyd meddwl fod yn anodd. Weithiau gall yr heriau llethol o fyw gyda'r math hwn o anhawster wneud cadw i fyny â chyflymder prysur bywyd bob dydd bron yn amhosibl. Os oes gennych chi ychydig o oriau'n rhydd, gofynnwch iddyn nhw a allwch chi fod o gymorth ymarferol. A oes angen lifft arnyn nhw i therapi? A oes angen unrhyw help arnyn nhw i drefnu gwaith papur? Golchi llestri? Paratoi swper? Mae hi bob amser yn well gofyn a fyddai rhywun yn gwerthfawrogi'r math hwn o gymorth, yn hytrach na rhuthro mewn, gan eu gadael nhw i deimlo'n ddiwerth.
Mae'n iawn gofyn am gyngor gan eraill
Yn ddealladwy, efallai y byddwch chi am siarad â phobl eraill a chael rhywfaint o gefnogaeth i chi'ch hun. Gofynnwch i’ch ffrind os yw'n meindio eich bod chi'n siarad â rhywun arall i chi gael cefnogaeth i chi’ch hun, os yw eich ffrind yn meindio, ystyriwch gael cefnogaeth a siarad am eich ffrind mewn ffordd nad yw'n datgelu pwy ydyw. Gallech chi gael y cyngor hwn gan wasanaethau cymorth eich prifysgol, gan staff eraill y brifysgol, gan rywun nad yw'n ymwneud â'r sefyllfa neu gan elusen, megis Y Samariaid. Os ydych chi'n pryderu am ddiogelwch eich ffrind, dylech chi ofyn am gyngor gan weithwyr proffesiynol y gellir ymddiried ynddyn nhw, ac os ydyn nhw'n cynghori hynny, efallai y bydd angen i chi rannu manylion eich ffrind i helpu i'w gadw'n ddiogel.
Mae'n iawn i chi osod eich ffiniau eich hun
Pan fydd pobl mewn poen a gofid, weithiau gallan nhw geisio mwy o gefnogaeth nag y gallwch chi ei rhoi. Mae'n iawn cydnabod hyn a'i gyfleu i'ch ffrind. Mae eich lles chi'n bwysig ac ni fyddwch chi'n gallu helpu os byddwch chi'n cael eich llethu. Mae dal angen i chi gysgu, astudio, gweithio a chael amser i orffwys ac ymlacio. Siaradwch â’ch ffrind am sut y gallwch chi helpu a phryd mae angen amser arnoch chi'ch hun.
Os bydd rhywbeth yn codi nad ydych chi'n gyfforddus yn siarad amdano, efallai y byddwch chi'n awgrymu ei fod yn siarad am y mater penodol hwn gyda rhywun arall, fel cwnselydd. Os ydych chi'n gofyn rhywbeth nad yw eich ffrind yn gyfforddus yn ei ateb, ceisiwch beidio â rhoi pwysau arno i siarad amdano. Trwy osod y terfynau hyn gyda'ch ffrindiau, gallwch chi ei helpu i osod terfynau iddo ef ei hunan hefyd.
Weithiau gall siarad am bethau eraill helpu
Weithiau gall tynnu sylw oddi wrth ein problemau ein helpu ni i reoli ein hemosiynau a theimlo’n well am yr hyn sy’n ein hwynebu. Os yw'n teimlo'n briodol, efallai y gallwch chi helpu'ch ffrind trwy ei helpu i dreulio peth amser yn canolbwyntio ar bethau eraill, fel ffilm, gêm, trafod diddordebau neu ddod o hyd i bethau i beri chwerthin.
Defnyddiwch gefnogaeth os oes ei angen arnoch chi
Gall cefnogi eraill fod yn feichus, a gallech chi (a'ch ffrind) elwa os byddwch yn cael cymorth i helpu i ymdopi â hyn. Gallech chi roi cynnig ar <wasanaethau cymorth eich prifysgol,> neu ddefnyddio'r adnoddau ar Student Space. Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen mwy am y pwnc hwn ar Dod o hyd i gymorth yn eich prifysgol.
Gofalwch amdanoch chi'ch hun
Bydd gofalu am eich lles eich hun a neilltuo amser ar gyfer eich perthnasoedd, diddordebau a hobïau eraill yn eich helpu chi i gynnal eich lles eich hun wrth gefnogi eich ffrind. Drwy orffwys, cael hwyl, a chanolbwyntio ar bethau eraill byddwch chi'n gallu cefnogi eich ffrind yn well ac efallai y bydd hefyd yn dawelach ei feddwl nad yw ei gefnogi yn cael effaith negyddol arnoch chi.