Leave this site now

Croestoriadedd: LHDTC+ a chrefydd

Mae All Things Mental Health

Mae All Things Mental Health Podlediad meddyliau ifanc yw All Things Mental Health. Maent yn pontio’r bwlch rhwng ymchwil a phrofiad bywyd pobl ifanc o lywio’u hiechyd meddwl, gan greu lle i ddeialog newydd ddod i’r amlwg drwy ganoli llais meddyliau ifanc. Mae All Things Mental Health yn y 15% uchaf o bodlediadau a rennir yn fyd-eang.

Yn y bennod hon, mae Taj a Shannel yn archwilio beth mae croestoriadedd yn ei olygu iddyn nhw mewn perthynas â'u profiad bywyd eu hunain.

Lawrlwythwch y PDF cyfeirio LGBTQ+ Du


Taj, fel myfyriwr Du sy'n rhan o'r gymuned LHDTC+, a Shannel fel myfyriwr sy'n rhan o gymuned ffydd. Gwrandewch i'w clywed yn trafod sut maen nhw'n llywio croestoriadedd a phwysigrwydd dod o hyd i gymuned. Maent yn rhannu sut maent yn teimlo bod pobl yn eu gweld a’u clywed yn y brifysgol a lle gallai hyn fod yn well, gan archwilio sut y gall prifysgolion fod yn lleoedd mwy cynhwysol ar gyfer hunaniaethau croestoriadol.

Mae croestoriadedd yn cyfeirio at y cysyniad bod hunaniaethau cymdeithasol unigolyn, megis hil, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, oedran, anabledd, a dosbarth, yn cydgysylltiedig a bod y croestoriadau hyn yn gallu creu profiadau o wahaniaethu sydd yn unigryw ac yn aml yn waeth. Bathwyd y term gan Kimberlé Crenshaw, ysgolhaig cyfreithiol ac eiriolwr hawliau sifil, ar ddiwedd y 1980au.

Safbwyntiau’r unigolion eu hunain a fynegir, nad ydynt o reidrwydd yn cynrychioli safbwyntiau Student Minds, All Things Mental Health a Colourful Minds.

Adolygwyd ddiwethaf: Gorffennaf 2024