Mae Life as a Black Student yn archwilio profiadau bywyd wyth myfyriwr Du sy'n astudio ac yn byw yn y Deyrnas Unedig. Ein nod yw symud i ffwrdd o'r ddealltwriaeth ystrydebol o brofiad 'unffurf’, ac yn lle hynny rydym yn cael ein harwain gan brofiad byw myfyrwyr mewn ffordd fwy ystyrlon a go iawn. Mae’r podlediad hwn yn archwilio profiad myfyrwyr Du o iechyd meddwl mewn addysg uwch drwy bedwar maes ffocws: croestoriadedd, disgwyliadau teuluol, arweinyddiaeth i syndrom y ffugiwr, a'r profiad rhyngwladol. Gobeithio y byddwch yn mwynhau gwrando!
Crëwyd y podlediad hwn gan All Things Mental Health mewn cydweithrediad â Student Minds a Colorful Minds. Mae'r podlediad yn cefnogi ac yn ymddangos ym mhecyn Student Space, Life as a Black Student, a grëwyd gan Student Minds.
Safbwyntiau’r unigolion eu hunain a fynegir, nad ydynt o reidrwydd yn cynrychioli safbwyntiau Student Minds, All Things Mental Health a Colourful Minds.