Leave this site now

Cynnal eich lles yn ystod yr etholiad

Gareth Hughes

Gareth Hughes yw Arweinydd Clinigol Student Space ac mae'n seicotherapydd, ymchwilydd ac awdur ar lesiant myfyrwyr, gan gynnwys y llyfr Be Well, Learn Well.

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, gall etholiad cyffredinol deimlo'n gyffrous, yn ddiflas neu'n straen. Gall meddwl yn ofalus am sut rydych chi'n ymgysylltu â'r etholiad a chymryd rhai camau syml, bwriadol, eich helpu i gynnal eich lles yn ystod yr ymgyrch.

Gall ymgyrchoedd etholiad cyffredinol effeithio'n wahanol iawn ar wahanol bobl, yn enwedig yn ystod cyfnodau o begynnu gwleidyddol. Gall etholiadau ddominyddu cyfryngau traddodiadol, cyfryngau cymdeithasol a sgyrsiau ymhlith teulu a ffrindiau. O ganlyniad, gallwn yn aml dueddu i ymgysylltu â throeon trwstan yr ymgyrch, heb reoli na bod yn ymwybodol o sut mae hyn yn effeithio ar ein lles.

Gall etholiadau fod yn gyfnodau cyffrous i rai pobl a gallant gael pleser a phwrpas o ddilyn y newyddion yn agos ac olrhain unrhyw newidiadau. Os ydych chi’n un o’r bobl hyn, yna efallai y bydd y profiad yn un cadarnhaol ar y cyfan – ond cofiwch gadw rhywfaint o gydbwysedd yn ystod yr ymgyrch. Mae cwsg, diet, ymarfer corff, astudio ac aros mewn cysylltiad â gweddill y byd yn dal yn bwysig.

Os ydych chi'n cael etholiadau'n anodd neu'n poeni'n arbennig am etholiad 2024, yna gall bod yn ymwybodol pam y gallai'r profiad gael effeithiau negyddol ar eich lles a chynllunio eich ymgysylltiad yn fwriadol eich gwir helpu i gynnal eich lles.

Arferion iach i helpu eich iechyd meddwl

Y ras geffylau

Mae llawer o adroddiadau ymgyrch etholiadol yn canolbwyntio ar olrhain newidiadau i’r gefnogaeth boblogaidd a cheisio rhagweld canlyniad yr etholiad. Mae yna gymhelliad cynhenid i'r gohebwyr ar yr ymgyrch i ddod o hyd i droeon trwstan i adrodd arnynt bob dydd. Mewn gwirionedd, mae'r cylch newyddion 24 awr yn golygu bod newyddiadurwyr yn chwilio am straeon newydd i adrodd arnynt fesul awr. Gall dilyn hyn yn agos arwain at neidio rhwng gobaith ac anobaith – pan fydd eich hwyliau'n mynd i'r uchelfannau a'r isel fannau yn gyson, mae'n cael effaith negyddol gronnus ar eich lles. O ganlyniad, gallwch deimlo'n flinedig, wedi'ch gorlethu ac yn bryderus.

Awgrym: Yn hytrach na dilyn y ras yn agos, gwahanwch eich ymgysylltiad, fel eich bod yn osgoi'r dringo a’r disgyn fesul awr. Nodwch rai ffynonellau dibynadwy o wybodaeth a dadansoddiad ac ymgysylltwch â nhw’n fwriadol – efallai y byddwch yn gweld ei bod yn helpu i wneud hyn dim mwy nag unwaith y dydd neu hyd yn oed sawl diwrnod ar wahân. Yn ddelfrydol, dylech ganolbwyntio ar ffynonellau sy'n cymryd amser i ddadansoddi datblygiadau'n ofalus, yn hytrach na'r rhai sy'n rhuthro i adrodd am y newyddion diweddaraf. Os byddai'n well gennych osgoi'r ymgyrch yn gyfan gwbl, mae hyn hefyd yn iawn – erbyn i'r ymgyrch ei hun ddechrau, bydd eisoes yn glir dros beth mae pob plaid yn sefyll a thros beth y byddwch yn pleidleisio.

Os ydych chi neu rywun sy'n bwysig i chi yn teimlo eich bod wedi'ch targedu gan yr ymgyrch

Mae rhai myfyrwyr wedi mynegi pryder am etholiad 2024 oherwydd eu bod yn ofni y gallent hwy neu’r rhai y maent yn poeni amdanynt gael eu targedu mewn ymgyrchoedd mewn ffyrdd sy’n elyniaethus iddynt a’u lles. Gall hyn, wrth gwrs, fod yn ofidus ac yn boenus.

Awgrym: Eto, gallai penderfynu faint i ymgysylltu â’r ymgyrch eich helpu i reoli’r effaith y mae hyn yn ei chael arnoch chi. Mae'n bwysig cofio hefyd bod popeth mewn ymgyrchoedd etholiadol yn cael ei ddwysáu ac yn aml nid yw safbwyntiau pleidiau neu wleidyddion yn cynrychioli barn pobl. Mae pleidiau gwleidyddol yn aml yn gorliwio eu safbwyntiau i apelio at rannau penodol o'r etholwyr sy'n hanfodol i'w llwyddiant. Mae ymchwil yn dangos dro ar ôl tro bod mwyafrif pobl y wlad hon yn oddefgar ac yn agored a dyma'r wlad a erys ar ôl yr etholiad. Gall fod o gymorth hefyd i gofio, unwaith y daw etholiadau i ben, y bydd materion ymgyrchu sy'n targedu pobl benodol yn aml yn diflannu wrth i'r byd symud ymlaen.

Cyfryngau cymdeithasol

Mae ymchwil wedi dangos y gall cyfryngau cymdeithasol gael effeithiau negyddol iawn ar adegau o densiwn gwleidyddol. Gall algorithmau ein gyrru tuag at newyddion a safbwyntiau sy’n debygol o’n gwneud yn ddig ac yn ofidus, gan fod hyn yn tueddu i’n cadw ni’n brysur am gyfnod hwy. Mae'r ymchwyddiadau hyn o emosiwn a rhwystredigaeth yn tueddu i beidio ag arwain at unrhyw beth defnyddiol ac yn ein gadael ni'n flinedig yn emosiynol ac ar bigau drain.

Awgrym: Defnyddiwch y cyfryngau cymdeithasol yn fwriadol iawn yn ystod yr etholiad. Gosodwch amseroedd am ba mor hir y byddwch yn ymgysylltu a dewiswch pwy y byddwch yn ei ddilyn ac yn ymgysylltu â nhw. Atgoffwch eich hun na fydd eich ffrydiau cyfryngau cymdeithasol yn debygol o gynrychioli'r byd go iawn ac efallai bod y cynnwys rydych chi'n ei weld wedi'i greu gan robotiaid, felly mae’n bwysig bod yn feirniadol o'r cyfryngau rydych chi'n eu defnyddio yn hytrach na chymryd popeth ar ei olwg.

Pum cam at arferion digidol iach

Awgrymiadau cyffredinol

  1. Arhoswch mewn cysylltiad â phobl yr ydych yn eu caru ac sy'n poeni amdanoch. Lle bynnag y bo modd, ceisiwch gwrdd wyneb yn wyneb a siarad am bethau heblaw'r etholiad.

  2. Canolbwyntiwch ar y rhannau o fywyd sydd heb eu heffeithio gan yr ymgyrch etholiadol ei hun – gwyliwch hen raglenni teledu a ffilmiau rydych chi’n eu hoffi, darllen llyfrau, gwrando ar gerddoriaeth ac ati.

  3. Cymerwch ran mewn ffyrdd sy’n gweithio i chi – os ydych yn bryderus iawn am ganlyniad yr etholiad yna gallai gwneud rhywbeth i gyfrannu eich helpu i deimlo bod gennych fwy o reolaeth a theimlo cysylltiad â phobl eraill sy’n rhannu eich barn. Mae pleidiau gwleidyddol bob amser yn awyddus i gael gwirfoddolwyr – yn enwedig adeg etholiad.

  4. Gofalwch am y pethau sylfaenol – gall gynnal arferion iach eich helpu i reoli unrhyw heriau a wynebwch yn ystod yr ymgyrch.

Adolygwyd ddiwethaf: Mai 2024