Leave this site now

Delio â galar yn ystod y gwyliau

Mae Anna May

Mae Anna May Anna May yw sylfaenydd y Rhwydwaith Galar Myfyrwyr, rhwydwaith sy'n ymroddedig i feddalu effaith profedigaeth mewn prifysgolion.

Gall delio â galar yn ystod y gwyliau arwain at gymysgedd o deimladau. Gall fod yn gyfnod o gofio, gorffwys a chysylltiad, ond gall hefyd fod yn amser pan fydd absenoldeb rhywun yn cael ei deimlo yn fwy nag erioed. Gall fod yn unig ac yn llethol, yn enwedig pan fyddwch chi’n teimlo bod pawb arall yn mwynhau eu hunain. Yma rydym yn rhannu rhai myfyrdodau ar sut y gall deimlo, yn ogystal â rhai syniadau ar gyfer ymdopi â’r adegau anodd hynny.

Pam allwn ni deimlo mwy o alar yn ystod y gwyliau?

Newidiadau i’r drefn arferol

Efallai mai gwyliau o’r brifysgol yw’r tro cyntaf i ni stopio ac arafu ers i’r tymor ddechrau. Mewn rhai ffyrdd efallai byddwn yn croesawu hyn, ond efallai mewn ffyrdd eraill byddwn hefyd yn colli canolbwyntio ar ein cwrs academaidd a threfn arferol y brifysgol. Mae haenau newydd o alar yn aml yn dod i'r amlwg pan fyddwn yn colli ein strwythur arferol ac yn cael amser i aros a meddwl.

Newidiadau i’r llety

Os ydym wedi colli rhywun o gartref, fel aelod o’r teulu neu ffrind y cawsom ein magu ag ef, yna gall dychwelyd yn ystod y gwyliau ein hatgoffa o’i absenoldeb. Efallai nad gartref yw’r amgylchedd cartrefol neu gefnogol yr ydym yn gobeithio amdano, ac yn hytrach bydd yn llawn atgofion (hapus a thrist), sbardunau, sgyrsiau anodd, a distawrwydd. I lawer o bobl, mae profedigaeth yn tarfu ar ddeinameg grŵp y teulu neu ffrindiau, a gall achosi tensiwn neu bellter yn ein perthnasoedd.

Efallai na fydd gan rai ohonom hyd yn oed gartref i fynd yn ôl iddo a bydd rhaid syrffio o soffa i soffa neu aros yn ein llety prifysgol, lle sy'n mynd yn dawel iawn yn ystod y gwyliau.

Traddodiadau gwyliau

Gall rhai traddodiadau yr adeg hon o'r flwyddyn yn sydyn deimlo'n ddiystyr neu'n wag heb yr unigolyn sydd wedi mynd. Gallwn greu traddodiadau newydd a ffyrdd ystyrlon o gofio’r rhai sydd wedi mawr, a mwynhau ein hunain, ond nid yw hyn bob amser yn teimlo’n bosibl ar y dechrau.

Gall gwyliau diwylliannol hefyd greu gwrthgyferbyniad llwyr i sut rydyn ni'n teimlo y tu mewn. Gall yr addurniadau a'r gerddoriaeth ddathlu fod yn anghydnaws pan fyddwn ni'n galaru. Mae'r pwysau i deimlo'n llawen yn afrealistig i lawer ohonom. Gall deimlo'n rhwystredig, yn unig ac yn flinedig. Ar y llaw arall, gall y tymor gwyliau gynnig ysbeidiau bach o lawenydd o fewn ein galar, a does dim angen i ni deimlo’n euog am hynny.

Syniadau ar gyfer gofalu amdanoch chi eich hun yn ystod y gwyliau

Mae’n bwysig inni ddod o hyd i’n ffordd ni ein hunain drwy alar. Mae'r broses yn bersonol iawn, a bydd pethau gwahanol yn gweithio i wahanol bobl. Nid oes unrhyw ffordd ‘gywir’ nac ‘anghywir’ i alaru. Gall sut rydyn ni'n teimlo a'r hyn rydyn ni'n ei gael yn ddefnyddiol hyd yn oed newid o ddydd i ddydd. Dyma ychydig o syniadau ac awgrymiadau, ond cymerwch yr hyn sydd ei angen arnoch a gadewch y gweddill. Byddwch chi’n gallu ymdopi.

Mynegwch eich meddyliau a'ch teimladau.

Mae’n gyffredin teimlo weithiau yn ddideimlad, neu bod angen pethau i dynnu ein sylw, ond mae rhoi caniatâd i ni’n hunain i alaru (a phrofi’r holl deimladau a meddyliau blêr sy’n dod gyda hyn) yn broses bwysig i’w dilyn. Os na wnawn ni, efallai y byddwn ni’n teimlo’n drwm, yn sownd, neu’n profi problemau yn nes ymlaen. Gallai mynegi gynnwys siarad â ffrind, ceisio cymorth proffesiynol, neu ymuno â grŵp cymorth. Os yw'n well gennych chi beidio â rhannu ag eraill, gallech geisio ysgrifennu amdano neu ddod o hyd i allfa greadigol.

Cofiwch yr unigolyn sydd wedi marw.

Gallech edrych ar luniau, ysgrifennu llythyr ato, neu ymweld â bedd neu le arbennig. Gallwch anrhydeddu hen draddodiadau, neu wneud rhai newydd sy'n cynnwys cofio. Gall deimlo’n boenus ar y dechrau (yn enwedig os oedd gennych berthynas gymhleth â’r unigolyn) ond gall dod o hyd i ffyrdd newydd i gysylltu â’r rhai sydd wedi marw roi eglurder a chysur, a’n helpu ni i brosesu ein galar.

Gorffwys.

Gall galar fod yn flinedig. Peidiwch â theimlo dan bwysau i gadw i fyny â'ch trefn arferol neu â'r hyn y mae pawb arall yn ei wneud. Mae arafu yn rhoi lle i'n cyrff a'n meddyliau brosesu emosiynau.

Ewch allan a symud.

Gallai hyn fod yn ymarfer corff dwys neu'n daith gerdded hamddenol araf. Gofynnwch i chi'ch hun, beth fyddai'n teimlo'n dda ar hyn o bryd? Efallai na fydd yn ‘trwsio’ pethau, ond gall cael ychydig o awyr iach a symud ein cyrff helpu i ddileu rhywfaint o drymder galar.

Cysylltwch â'r pethau rydych chi'n eu mwynhau.

Er ei bod yn bwysig peidio ag anwybyddu eich galar, mae angen adegau o ryddhad ysgafn ar bob un ohonom. Efallai bod eich diddordebau wedi newid ers profi colled, ond ceisiwch dreulio peth amser yn gwneud rhywbeth sy'n dod â rhywfaint o lawenydd i chi. Nid oes angen i chi deimlo’n euog am hyn, nid yw’n golygu eich bod yn anghofio’r unigolyn sydd wedi marw.

Cymorth pellach i fyfyrwyr mewn profedigaeth

Adolygwyd ddiwethaf: Rhagfyr 2024