Digwyddiadau yn eich prifysgol neu ddinas

Mae Andy Owusu

Mae Andy Owusu yw’r arweinydd cynnwys ar gyfer pecyn Student Space ar gyfer myfyrwyr Du ac mae’n ysgolhaig Doethuriaeth ym Mhrifysgol South Bank Llundain, yn ymgynghorydd ar iechyd meddwl myfyrwyr mewn addysg uwch, yn ymchwilydd ac yn awdur.

Mae darnau amrywiol yn y pecyn cynnwys hwn wedi cyfeirio at yr effaith gadarnhaol y gall adeiladu cymuned ei chael ar fyfyrwyr Du. Gall cyfarfod â myfyrwyr Du eraill, a chymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol a diwylliannol, eich helpu i gael ymdeimlad o berthyn a chyfeillgarwch ac, yn y pen draw, gall wella eich llesiant meddyliol.

Gall y syniad o ymuno â chymdeithas, neu fynd i ddigwyddiad, ysgogi teimladau o gyffro, nerfusrwydd neu ansicrwydd. Ond gallai’r ffaith eich bod yn ddigon dewr i roi cynnig ar rywbeth fod yn gam cyntaf tuag at wella eich profiad o’r brifysgol. Os ydych chi’n poeni am fynd i gymdeithas neu ddigwyddiad am y tro cyntaf, dyma nifer o awgrymiadau:

Ewch gyda ffrind dibynadwy

Does dim byd o'i le ar fynd i gymdeithas ar eich pen eich hun – a dweud y gwir mae'n gyffredin yn y brifysgol, lle mae’n ddigon posibl bod myfyrwyr yn newydd yno ac felly heb ffurfio’u cylch ffrindiau eto. Fodd bynnag, os yw’r syniad o gyrraedd y digwyddiad ar eich pen eich hun yn peri i chi beidio â mynd i ddigwyddiadau, ystyriwch ofyn i ffrind dibynadwy ddod gyda chi.

Cysylltwch â'r trefnydd ymlaen llaw

Mae pwyllgorau cymdeithasau yn awyddus i aelodau newydd ymuno â nhw a helpu i ehangu eu grŵp. Felly, mae'n debygol y byddan nhw’n falch o glywed bod gennych chi ddiddordeb mewn ymuno. Os ydych chi’n teimlo’n ansicr, dewch o hyd i gyfeiriad e-bost, neu gyfrif cyfryngau cymdeithasol y gymdeithas, ac anfonwch neges atyn nhw. Gallech chi ofyn am ragor o fanylion am y digwyddiadau sydd i ddod, neu eglurwch eich bod chi’n teimlo ychydig yn nerfus am fynychu am y tro cyntaf, os ydych chi’n teimlo’n ddigon cyfforddus i wneud hynny. Gallwch chi bob amser ofyn i aelod o'r pwyllgor gwrdd â chi pan fyddwch chi’n cyrraedd a helpu i'ch cyflwyno chi i’r aelodau.

Peidiwch â rhoi'r gorau iddi

Mae’n brofiad cyffredin i fyfyrwyr roi cynnig ar nifer o wahanol gymdeithasau a digwyddiadau a chanfod nad ydynt at eu dant nhw. Peidiwch â digalonni os nad yw'r digwyddiad cyntaf yr ydych chi’n mynd iddo neu'r gymdeithas gyntaf yr ydych chi’n mynd iddi yn addas ar eich cyfer. Bydd digon o opsiynau eraill i chi roi cynnig arnyn nhw, a chofiwch fod pob ymgais aflwyddiannus yn golygu y byddwch chi’n gam yn nes at ddod o hyd i’r gymdeithas sydd at eich dant chi.

Sut i ddod o hyd i ddigwyddiadau sy’n lleol i'ch prifysgol

Defnyddiwch eich undeb neu urdd fyfyrwyr i ddod o hyd i ddigwyddiadau perthnasol. Fel arfer, bydd eu gwefan yn rhestru'r holl glybiau a chymdeithasau sydd ar gael i chi ymuno â nhw. Mae gan y mwyafrif o sefydliadau Gymdeithas Affricanaidd-Caribïaidd neu rwydwaith ar gyfer myfyrwyr Du sydd, ym marn llawer o fyfyrwyr Du, yn lle gwych i feithrin cyfeillgarwch, cymuned ac ymdeimlad o berthyn; ac nid yw’n ofynnol ganddynt eich bod yn fyfyriwr rhyngwladol o wlad Affricanaidd neu Garibïaidd. Yn aml, bydd yna gymdeithasau eraill a allai fod o ddiddordeb i chi, megis cymdeithasau ar gyfer gwledydd Affricanaidd a Charibïaidd penodol, a chymdeithas ar gyfer myfyrwyr cwiar, traws a rhyngryw o liw.

Os ydych chi'n byw mewn tref neu ddinas lle mae nifer o brifysgolion, efallai y byddwch chi'n gallu cael mynediad at ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal mewn prifysgolion ar wahân i’ch prifysgol chi. Cysylltwch â'r trefnwyr yn uniongyrchol i wirio a yw hyn yn wir.

Digwyddiadau sydd ar y gweill

Ydych chi'n cynnal digwyddiad ar gyfer myfyrwyr Du yn eich sefydliad chi? Cwblhewch y ffurflen hon i gael eich cynnwys ar y dudalen we hon a helpu mwy o fyfyrwyr i ddod o hyd i'ch digwyddiadau chi. Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi a yw'r digwyddiad ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cofrestru yn eich prifysgol chi yn unig, neu a oes croeso i fyfyrwyr o brifysgolion lleol eraill.

Dim digwyddiadau i ddod

Sylwch fod yr holl ddigwyddiadau isod yn cael eu cynnal yn annibynnol a dydyn nhw ddim yn gysylltiedig â Student Minds na Chornel Myfyrwyr. Cysylltwch â'r trefnwyr yn uniongyrchol i gael rhagor o wybodaeth.

Adolygwyd ddiwethaf: Awst 2024