Disgwyliadau teuluol, rolau’r fenyw a gwrywdod

Mae All Things Mental Health

Mae All Things Mental Health Podlediad meddyliau ifanc yw All Things Mental Health. Maent yn pontio’r bwlch rhwng ymchwil a phrofiad bywyd pobl ifanc o lywio’u hiechyd meddwl, gan greu lle i ddeialog newydd ddod i’r amlwg drwy ganoli llais meddyliau ifanc. Mae All Things Mental Health yn y 15% uchaf o bodlediadau a rennir yn fyd-eang.

Mae Eunice a Dazo yn archwilio teulu a'r hyn y mae eu teuluoedd nhw'n ei olygu iddyn nhw mewn perthynas â'u profiadau bywyd eu hunain fel myfyrwyr Du.

Mae Eunice a Dazo yn archwilio disgwyliadau’r teulu, rolau’r fenyw a gwrywdod, a sut mae teulu wedi rhyngweithio â’u profiadau fel myfyrwyr. Gwrandewch i glywed mwy am stigma iechyd meddwl yn y cartref, trawma cenedliadol a disgwyliadau traddodiadol o ran rhywedd, ynghyd â'r rôl ganolog y gall teulu ei chwarae wrth helpu myfyrwyr i ddiffinio pwysigrwydd cymuned, a dysgu hanfod cyfrifoldeb, cadernid a chryfder.

Safbwyntiau’r unigolion eu hunain a fynegir, nad ydynt o reidrwydd yn cynrychioli safbwyntiau Student Minds, All Things Mental Health a Colourful Minds.