Gareth Hughesyw Arweinydd Clinigol Student Space ac mae'n seicotherapydd, ymchwilydd ac awdur ar lesiant myfyrwyr, gan gynnwys y llyfr Be Well, Learn Well.
Mae llawer o fyfyrwyr yn edrych ar y tymhorau olaf ac yn teimlo'n anesmwyth, ond gyda rhywfaint o gynllunio a chefnogaeth, gallwch ei wneud yn brofiad mwy pleserus a boddhaus.
Gall y tymor olaf deimlo'n frawychus neu'n llethol i rai myfyrwyr. Gall tymor olaf y flwyddyn gynnwys cymysgedd o heriau a all gynnwys y canlynol:
Arholiadau neu ddarnau pwysig o waith academaidd
Cynlluniau ar gyfer symud a'r haf
Newidiadau yn eich grŵp cymdeithasol, wrth i bobl ganolbwyntio mwy ar eu hastudiaethau.
Efallai y byddwch hefyd yn rheoli hyn ochr yn ochr â gwaith cyflogedig neu gyfrifoldebau gofalu. Mae llawer o fyfyrwyr yn poeni na fydd modd iddyn nhw gyflawni popeth ar amser, i'r ansawdd y maen nhw ei eisiau neu na fyddan nhw'n llwyddo o gwbl. Er bod hyn yn ddealladwy, mae hefyd yn wir bod llawer o fyfyrwyr yn teimlo fel hyn bob blwyddyn ac eto'n dal i lwyddo, gyda phopeth wedi'i gwblhau i safon dda.
Gyda rhywfaint o gynllunio a meddwl, nid yn unig y gallwch chi wneud hyn hefyd, ond efallai y gallwch chi wneud y tymor olaf yn un rydych chi'n ei fwynhau ac yn cael llawer o fudd ohono.
Amser
Mae rheoli eich amser yn bwysig iawn yn y tymor olaf. Bydd cael cynllun nid yn unig yn ei gwneud hi'n fwy tebygol y byddwch chi'n cyflawni popeth, gall hefyd wneud i chi deimlo'n fwy hyderus a lleihau unrhyw bryder rydych chi'n ei brofi.
Mae aneglurder yn bwydo gorbryder. Mae'n llawer haws bod yn orbryderus am bethau pan nad yw'r manylion yn glir – dyma pam mae ffilmiau arswyd yn ceisio osgoi dangos yr anghenfil i chi. Gall gorbryder eich darbwyllo nad oes gennych yr amser sydd ei angen arnoch – ond yn aml, pan fyddwn yn gallu edrych ar realiti, gallwn weld bod gennym ddigon o amser.
Os ydych chi'n teimlo'n orbryderus am hyd yn oed feddwl am y tymor olaf, dechreuwch drwy wneud rhywbeth i'ch helpu i ymlacio (anadlu 7/11), neu recriwtio ffrind, aelod o'r teulu neu rywun yn eich prifysgol i'ch helpu. Yna lluniwch gynllun – ceisiwch gynnwys y canlynol:
Amser ar gyfer y gwaith academaidd mae angen i chi ei wneud. Efallai y bydd gorbryder yn ceisio eich darbwyllo bod angen mwy o amser arnoch nag sydd ei angen arnoch mewn gwirionedd – edrychwch ar faint o amser y mae gwaith tebyg wedi’i gymryd yn y gorffennol a byddwch yn realistig ynghylch yr hyn sydd ei angen arnoch mewn gwirionedd.
Amser ar gyfer eich cyfrifoldebau eraill. Bydd creu cynllun sy'n delio â realiti yn rhoi rhywbeth mwy cadarn a dibynadwy i chi. Meddyliwch am waith cyflogedig, cyfrifoldebau gofalu, gofalu am eich lle byw, unrhyw gynlluniau sydd gennych i symud.
Amser i ofalu amdanoch chi'ch hun. Bydd eich gwaith academaidd yn elwa ar gymryd amser i orffwys a gofalu amdanoch chi'ch hun arferion iach.
Amser i dreulio gydag eraill a chael ychydig o hwyl. Gall amser i ffwrdd eich helpu i ymlacio, rhoi seibiant i'ch ymennydd ac atgyfnerthu eich dysgu. Ar ôl peth amser i ffwrdd, efallai y byddwch chi'n gweld bod eich meddyliau'n gliriach pan fyddwch chi'n dychwelyd i'ch gwaith.
Nid yw'r ffaith bod gennych derfynau amser yn golygu na allwch chi gael bywyd! Yn ogystal â neilltuo amser i fynd allan i’r awyr agored, gwnewch yn siŵr bod gennych chi amser i gymdeithasu hefyd.
Os daw’n amlwg, oherwydd eich amgylchiadau presennol, nad oes gennych yr amser sydd ei angen arnoch, ewch at eich prifysgol am gymorth. Efallai y gallant ymestyn eich terfynau amser neu ddarparu cymorth ychwanegol. Bydd cwblhau'r cynllun yn darparu tystiolaeth dda o'r hyn sydd ei angen arnoch.
Yn gyffredinol, rydym yn mynd yn orbryderus am waith academaidd oherwydd ein bod yn ofni'r canlyniad. Gall bod yn bryderus am y radd eich gwneud yn bryderus am fethu, a all eich gwneud yn fwy gorbryderus ac felly'n ei gwneud yn anoddach i chi ganolbwyntio. Yn y modd hwn, gallwch chi fod mewn cylch o orbryder. Efallai y bydd o gymorth i chi os gallwch chi wneud y canlynol:
Ceisiwch osgoi canolbwyntio cymaint ar y radd – yn lle hynny, ceisiwch ganolbwyntio ar yr hyn yr ydych chi'n ei fwynhau am eich pwnc yn lle hynny. Os gallwch chi ganolbwyntio ar sut mae'r asesiad yn eich helpu i ddysgu, efallai y bydd y dasg yn fwy boddhaus a byddwch chi'n perfformio'n well.
Ceisiwch ddod o hyd i gysylltiad emosiynol cadarnhaol â'r gwaith – os gallwch chi ddod o hyd i syniadau neu bynciau sy’n eich cyffroi, yn gwneud i chi deimlo'n angerddol ac yn llawn diddordeb, byddwch yn ei chael yn haws ysgogi'ch hun i weithio a bydd y pleser a gewch yn lleihau unrhyw bryder yr ydych yn ei deimlo.
Defnyddiwch yr adnoddau o'ch cwmpas – bydd eich prifysgol yn darparu cymorth sydd wedi'i gynllunio'n benodol i'ch helpu. Os byddwch yn ei ddefnyddio, efallai y byddwch yn gweld ei fod yn cynyddu eich hyder, dysgu a pherfformiad.
Cydnabod pan fyddwch chi wedi gwneud digon – nid oes unrhyw ddarn o waith byth yn berffaith. Byddwch yn garedig â chi'ch hun a cheisiwch gydnabod pan fyddwch chi wedi gwneud cystal ag y gallwch chi, yn y funud hon ar hyn o bryd ac yna gadewch iddo fynd.
Pobl
Gall fod o gymorth os yw'r bobl o'ch cwmpas yn gwybod am ofynion y tymor olaf, fel bod disgwyliadau realistig ganddyn nhw o ran pryd y byddwch o gwmpas a'r hyn y gallwch ei wneud ac na allwch ei wneud. Gall hyn eich helpu i osgoi gwrthdaro yn hwyrach yn y tymor.
Cofiwch y bydd eu bywydau hefyd yn parhau ac na fydd pawb yn gallu gwneud lle neu helpu yn y ffordd yr hoffech chi’n ddelfrydol. Ond gall mynd i'r afael â'r materion hyn ymlaen llaw eich galluogi i ddod o hyd i gytundeb sy'n gweithio cystal â phosibl i bawb.