Leave this site now

Fframweithiau ar gyfer herio sgyrsiau o fewn y gymuned Ddu

Mae Andy Owusu

Mae Andy Owusu yw’r arweinydd cynnwys ar gyfer pecyn Student Space ar gyfer myfyrwyr Du ac mae’n ysgolhaig Doethuriaeth ym Mhrifysgol South Bank Llundain, yn ymgynghorydd ar iechyd meddwl myfyrwyr mewn addysg uwch, yn ymchwilydd ac yn awdur.

Diben y fframwaith hwn yw darparu strwythurau sylfaenol i fyfyrwyr prifysgol Du i’w galluogi i gael sgyrsiau am iechyd meddwl gyda grwpiau amrywiol o bobl ac mewn lleoliadau gwahanol y gallant ddod ar eu traws.

Canllaw ar gyfer defnyddio'r fframwaith

Mae'r fframwaith hwn yn darparu strwythur sylfaenol ar gyfer cael sgyrsiau am iechyd meddwl o fewn y gymuned Ddu, yn enwedig gyda myfyrwyr prifysgol Du mewn lleoliadau amrywiol. Mae'r canlynol yn ganllaw byr ar sut i ddefnyddio'r fframwaith.

Cam 1:

Cydnabyddwch y gall trafod iechyd meddwl fod yn anghyfforddus ac mae'n iawn peidio â bod yn arbenigwr. Dechreuwch y sgwrs gyda chwestiynau penagored neu gynnig arsylwad / profiad gyda chynnig i'w archwilio.

Cam 2:

Hunanaddysgwch a disgwyliwch wahanol ymatebion: mae ymateb cadarnhaol bob amser yn ddelfrydol, ond weithiau efallai y cewch chi ymateb niwtral neu negyddol. Cofiwch y bydd gan bobl amrywiol agweddau ac ymddygiadau mewn perthynas ag iechyd meddwl. Byddwch yn garedig i'r sawl sy’n archwilio’r pynciau hyn am y tro cyntaf ac mae’n bosibl bydd y sgwrs yn heriol iddynt hefyd. Cofiwch hefyd fod hi’n ddigon posibl fod eu hanghysur yn deillio o’u profiadau blaenorol eu hunain ac nid oherwydd nad ydynt yn ystyried bod yr hyn sydd gennych i’w ddweud yn bwysig neu’n ddilys.

Cam 3:

Ymatebwch yn briodol i ganlyniadau cadarnhaol a negyddol. Efallai na fydd y sgyrsiau yn llwyddiannus iawn weithiau ac, os felly, bydd angen i chi wybod beth i’w wneud os bydd sgyrsiau yn mynd ar drywydd gwahanol’. Mewn rhai sefyllfaoedd, gallwch gael sgwrs lwyddiannus ac ystyrlon am iechyd meddwl ac, os felly, bydd angen i chi wybod sut olwg sydd ar dderbyn’?

Dyma rai awgrymiadau i'w cadw mewn cof a allai eich helpu i greu brawddegau cychwyn sgwrs eich hun ac i barhau â’r ddeialog o fewn y gymuned Ddu:

Yn gyntaf, dechreuwch trwy gydnabod a derbyn y gall mynd i'r afael â'r pwnc hwn deimlo'n anghyfforddus, ac mae'n iawn peidio â bod yn arbenigwr arno. Pe bai’n sgwrs syml, mae’n siŵr na fyddech chi’n darllen yr adnodd Cornel Myfyrwyr hwn ar hyn o bryd. Cofiwch mai’r allwedd i newid y naratif o ran iechyd meddwl yn y gymuned Ddu yw drwy wneud y ddeialog hon yn haws i’n cymuned i gymryd rhan ynddi.

Yn ail, rydych ar y trywydd iawn: parhewch i addysgu eich hun am ddefnyddio iaith garedig, barchus ac ystyriol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae hyn yn golygu blaenoriaethu’r unigolyn dros ei anawsterau iechyd meddwl wrth drafod y pwnc. Er enghraifft, yn hytrach na dweud "salwch meddwl", efallai y byddai'n well ei aralleirio fel "pobl sy'n byw gydag anhawster iechyd meddwl".

Yn olaf, gallwch fod yn gyfrifol am y naratif a'r stigma tuag at iechyd meddwl trwy ofyn i eraill ag anhawster iechyd meddwl sut y gallwch eu cefnogi a gwrando'n astud ar eu hymatebion. Pan fydd rhywun sy'n bwysig i chi yn cael problemau o ran ei iechyd meddwl, gall fod yn deimlad ynysig, ac efallai y byddwch yn teimlo nad oes modd i chi helpu. Cofiwch, efallai y bydd y sawl sy'n cael trafferth yn aml yn ceisio empathi ac ystyriaeth yn fwy na datrysiadau neu gyfleoedd i fynegi eu teimladau. Er y gall fod yn anodd iawn deall eu profiad yn llawn, mae gwneud ymdrech wirioneddol i ddeall eu persbectif a dilysu eu teimladau yn gallu bod yn fuddiol iawn iddynt.

Rhwng unigolion

Brawddegau cychwyn sgwrs:

  • “Helô, rwy’ wedi sylwi dy fod ti wedi bod yn dawelach nag arfer. Sut wyt ti'n teimlo?"

  • “Rwy yma i ti. Oes unrhyw beth sydd ar dy feddwl rwyt ti am siarad amdano?"

  • “Rwy’ wedi sylwi ar newidiadau yn dy ymddygiad. Wyt ti'n iawn? Rwy'n poeni amdanat ti."

Gall ymatebion disgwyliedig gynnwys sylwadau sy’n debyg i’r canlynol:

  • Ymateb cadarnhaol: “Diolch am ofyn. Rwy’ wedi bod yn mynd trwy gyfnod anodd, ac mae'n golygu llawer dy fod ti wedi sylwi ar hynny."

  • Ymateb niwtral: “Rwy’n gwerthfawrogi dy bryder. Mae pethau wedi bod ychydig yn heriol yn ddiweddar."

  • Ymateb negyddol: “Dw i ddim yn barod i siarad am y peth eto, ond rwy'n gwerthfawrogi dy fod ti’n gofyn sut ydw.”

Brawddegau cychwyn sgwrs:

  • “Clywais i’r hyn wnest ti ei ddweud, ac roedd hi’n swnio fel ystrydeb. Ydyn ni’n gallu siarad am pam allai hynny fod yn niweidiol?"

  • “Dw i ddim yn meddwl bod y jôc honno’n briodol. Gadewch i ni fod yn ymwybodol o'r iaith rydyn ni'n ei defnyddio wrth siarad am iechyd meddwl."

  • “Rwy’ wedi profi rhywbeth tebyg, ac nid yw’n rhywbeth i’w fychanu. Gadewch i ni fod yn fwy ystyriol."

Ymatebion disgwyliedig:

  • Ymateb cadarnhaol: “Wnes i ddim sylweddoli. Diolch am roi gwybod i mi, a bydda’ i’n fwy ystyriol yn y dyfodol."

  • Ymateb niwtral: "Do’n i ddim yn ei olygu fel hynny, ond bydda’ i’n ofalus gyda fy ngeiriau o hyn ymlaen."

  • Ymateb negyddol: “Dim ond jôc oedd hi. Paid â bod mor ddifrifol.” (Efallai y bydd angen trafodaeth bellach am effaith sylwadau o’r fath.)

Brawddegau cychwyn sgwrs:

  • “Rwy’ wedi bod yn teimlo’n bryderus yn ddiweddar, ac ro’n i eisiau siarad â chi amdano. Ydyn ni’n gallu cael sgwrs agored?"

  • “Rwy’ wedi bod yn dysgu am iechyd meddwl, ac rwy’n meddwl ei fod yn bwysig i ni ei drafod fel teulu. Beth yw eich meddyliau?"

  • “Rwy’ wedi bod yn teimlo’n drist iawn yn ddiweddar ac rwy’ wedi sylwi ar rai newidiadau negyddol o ran sut rwy’n teimlo, ac rwy’n credu byddai’n ddefnyddiol i ni ddeall iechyd meddwl yn well gyda’n gilydd.”

Ymatebion disgwyliedig:

  • Ymateb cadarnhaol: “Rwy’n falch dy fod ti’n gyfforddus yn siarad â ni. Gadewch i ni ddysgu gyda'n gilydd a chefnogi ein gilydd."

  • Ymateb niwtral: "Mae hyn yn newydd i mi, ond rwy'n fodlon gwrando a deall."

  • Ymateb negyddol: “Dy’n ni ddim yn siarad am y pethau hynny. Canolbwyntia ar dy astudiaethau." (Efallai y bydd yn rhaid ichi ddyfalbarhau wrth fynegi pwysigrwydd eich iechyd meddwl. Neu efallai y byddwch chi’n dod o hyd i fforymau eraill i gael y sgwrs hon. Does dim modd newid y bobl sy’n agos atom ni bob amser.)

Brawddegau cychwyn sgwrs:

  • “Rwy’n mynd trwy gyfnod heriol, ac mae’n effeithio ar fy ngwaith academaidd. Ydyn ni’n gallu trafod sut y galla’ i reoli fy llwyth gwaith i?"

  • “Rwy’ wedi bod yn cael trafferth gyda fy iechyd meddwl, ac ro’n i eisiau rhoi gwybod i chi rhag ofn y bydd e’n effeithio ar fy mherfformiad i. Oes cymorth ar gael?"

  • “Rwy’n delio â gorbryder, ac rwy’n meddwl tybed a allen ni siarad am unrhyw addasiadau allai fy helpu i yn y cwrs.”

Ymatebion disgwyliedig:

  • Ymateb cadarnhaol: “Diolch am estyn allan. Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i ddod o hyd i ddatrysiadau a gwasanaethau cymorth."

  • Ymateb niwtral: “Rwy’n gwerthfawrogi eich gonestrwydd. Gadewch i ni archwilio'r adnoddau sydd ar gael i'ch cynorthwyo chi."

  • Ymateb negyddol: “Ry’n ni i gyd yn mynd trwy gyfnodau anodd. Ceisiwch reoli eich straen." (Efallai y bydd hyn yn galw am drafodaeth bellach am yr angen am gymorth. Neu efallai yr hoffech gael mynediad at gymorth arall yn eich prifysgol.)

Brawddegau cychwyn sgwrs:

  • “Rwy’ eisiau i ti wybod fy mod i yma i ti ac rwyt ti’n gallu siarad â fi am unrhyw beth. Sut wyt ti'n teimlo?”

  • “Rwy’n gwerthfawrogi ein cyfeillgarwch, ac rwy’ eisiau gwneud yn siŵr dy fod ti’n teimlo dy fod ti’n cael cefnogaeth. Oes unrhyw beth penodol hoffet ti ei rannu neu ei drafod ynglŷn â dy brofiadau?"

  • “Rwy’ wedi bod yn dysgu mwy am faterion LHDTC+, ac rwy’ eisiau bod yn gynghreiriad i ti. Beth yw'r ffordd orau i fi dy gefnogi di?"

Ymatebion disgwyliedig:

  • Ymateb ffafriol: “Rwy’n gwerthfawrogi dy fod ti’n agored. Mae'n golygu llawer i fi, ac rwy'n teimlo'n gyfforddus yn rhannu."

  • Ymateb niwtral: “Diolch am ofyn sut ydw i. Dw i ddim wedi siarad llawer am hyn mewn gwirionedd, ond rwy'n gwerthfawrogi dy gefnogaeth."

  • Ymateb llai ffafriol: “Dw i ddim yn barod i’w drafod eto, ond rwy’n gwerthfawrogi dy gynnig. Bydda’ i’n rhoi gwybod iti pan fydda’ i’n gyfforddus."

Cychwyn y sgwrs: cydnabod pwysigrwydd iechyd meddwl mewn crefydd

Brawddegau cychwyn sgwrs:

  • “Rwy’n gwerthfawrogi ein cysylltiad, ac ro’n i eisiau trafod rhywbeth personol. Mae iechyd meddwl wedi bod ar fy meddwl i, a hoffwn i archwilio sut mae’n ffydd ni yn gallu croestorri â llesiant meddwl."

  • “Rwy’ wedi bod yn myfyrio ar rôl iechyd meddwl yn ein taith ysbrydol. Ydyn ni’n gallu cael sgwrs am sut mae’n cymuned ffydd ni’n gallu cefnogi unigolion sy'n wynebu heriau iechyd meddwl?"

  • “Rwy’n credu bod iechyd meddwl yn rhan annatod o’n llesiant cyffredinol. Byddwn i wrth fy modd yn trafod sut mae’n cymuned ffydd ni’n gallu mynd i’r afael ag iechyd meddwl yn agored ac yn dosturiol.”

Ymatebion disgwyliedig:

  • Ymateb cadarnhaol: “Rwy’n gwerthfawrogi dy fod ti’n agored. Gadewch i ni archwilio hyn gyda'n gilydd a gweld sut ydyn ni’n gallu cynnwys trafodaethau ar iechyd meddwl yn ein cymuned ffydd."

  • Ymateb niwtral: “Mae hwn yn bwnc pwysig. Gadewch i ni ei drafod bellach ac archwilio sut ydyn ni’n gallu delio ag iechyd meddwl o fewn cyd-destun ein ffydd."

  • Ymateb negyddol: “Dy’n ni ddim wir yn siarad am iechyd meddwl yma. Nid yw’n rhywbeth sy’n peri pryder i’n cymuned.” (Efallai y bydd hyn yn gofyn am ddyfalbarhad ysgafn a rhannu pwysigrwydd mynd i’r afael ag anawsterau iechyd meddwl.)

Brawddegau cychwyn sgwrs:

  • “Rwy’ wedi bod yn profi heriau gyda fy iechyd meddwl i, ac rwy’n meddwl ei bod hi’n hen bryd i fi geisio cymorth proffesiynol. Ydych chi’n gallu rhoi cyfarwyddyd i fi ar sut i ddechrau'r broses yma?"

  • “Rwy’ wedi sylwi ar newidiadau yn fy hwyliau ac ymddygiad i, ac rwy’n credu bydd siarad â gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol yn gallu fod yn fuddiol. Beth yw'r camau cynta’ dylwn i eu cymryd?"

  • “Rwy’ wedi bod yn teimlo fel fy mod i wedi fy llethu yn ddiweddar, ac rwy’n ystyried therapi. Sut ydyn ni’n gallu archwilio'r opsiwn hwn gyda'n gilydd?"

Ymatebion disgwyliedig:

  • Ymateb cadarnhaol: “Rwy’n gwerthfawrogi eich agwedd ragweithiol at eich iechyd meddwl. Gadewch i ni drafod eich pryderon chi, a galla’ i eich helpu chi i ddod o hyd i'r adnoddau cywir."

  • Ymateb niwtral: “Rwy’n falch eich bod chi’n ystyried ceisio cefnogaeth. Gadewch i ni archwilio eich teimladau chi a phenderfynu ar y ffordd orau o weithredu."

Lleoliadau grŵp

Brawddegau cychwyn sgwrs:

  • “Hoffwn i ni siarad yn agored am iechyd meddwl yn ein grŵp. Sut ydyn ni’n gallu creu gofod diogel a chefnogol i bawb?"

  • “Rwy’ wedi sylwi bod iechyd meddwl yn broblem sylweddol ymhlith myfyrwyr. Ydyn ni’n gallu trafod ffyrdd o gefnogi ein gilydd o fewn ein grŵp?"

  • “Rwy’n credu bod trafod iechyd meddwl yn hollbwysig. Sut ydyn ni’n gallu sicrhau bod pawb yn teimlo'n gyfforddus wrth rannu eu profiadau ac wrth geisio cymorth?"

Ymatebion disgwyliedig:

  • Ymateb cadarnhaol: “Rwy’n falch dy fod ti wedi sôn am hyn. Gadewch i ni sefydlu rhai rheolau sylfaenol ac adnoddau ar gyfer cael cymorth."

  • Ymateb niwtral: "Wnes i erioed feddwl am y peth mewn gwirionedd, ond rwy’n agored i greu amgylchedd mwy cefnogol."

  • Ymateb negyddol: “Pam ry’n ni'n siarad am hyn? Nid yw’n bwysig.” (Efallai y bydd angen tynnu sylw at bwysigrwydd iechyd meddwl a’i effaith ar lwyddiant academaidd.)

Brawddegau cychwyn sgwrs:

  • “Rwy’ wedi bod yn meddwl am ddysgeidiaethau ein ffydd a sut maen nhw’n gallu helpu i ddeall llesiant meddwl yn well. Ydyn ni’n gallu archwilio ysgrythurau neu ddysgeidiaethau sy'n ymwneud ag iechyd meddwl?"

  • “Rwy’n credu bod cysylltiad cryf rhwng ein harferion ysbrydol a gwydnwch meddwl. Sut ydyn ni’n gallu cynnwys ymwybyddiaeth iechyd meddwl yn ein dysgeidiaethau ffydd?"

  • “Mae ein ffydd yn pwysleisio tosturi a chefnogaeth. Sut ydyn ni’n gallu creu amgylchedd lle mae unigolion yn teimlo'n gyfforddus wrth drafod heriau iechyd meddwl heb gael eu barnu?"

Ymatebion disgwyliedig:

  • Ymateb cadarnhaol: “Rwy’n gwerthfawrogi dy safbwynt di. Gadewch i ni ymchwilio i'n dysgeidiaethau ffydd a gweld sut maen nhw’n gallu’n harwain ni wrth gynnal iechyd meddwl yn ein cymuned."

  • Ymateb niwtral: “Pwynt diddorol. Gadewch i ni archwilio'r ysgrythurau a’r dysgeidiaethau gyda'n gilydd i ddod o hyd i dir cyffredin fel bod modd inni fynd i'r afael â’r mater o iechyd meddwl."

  • Ymateb negyddol: “Rydyn ni’n canolbwyntio ar faterion ysbrydol, nid iechyd meddwl. Maen nhw'n bryderon ar wahân." (Efallai y bydd hyn yn gofyn am esbonio’r cydgysylltiad rhwng iechyd meddwl ac ysbrydolrwydd.)

Brawddegau cychwyn sgwrs:

  • “Rwy’ wedi wynebu heriau gyda fy iechyd meddwl yn bersonol, ac rwy’n credu bod modd helpu i leihau stigma yn ein cymuned trwy fod yn agored am y profiadau hyn. Ydyn ni’n gallu trafod sut mae straeon personol yn gallu meithrin empathi?"

  • “Mae rhannu’n gwendidau yn gallu cryfhau’n hymdeimlad o gymuned. Hoffwn i drafod sut rydyn ni’n gallu creu gofod i unigolion lle maen nhw’n gallu siarad am eu profiadau o ran iechyd meddwl heb gael eu beirniadu."

  • “Rwy’ wedi gweld eraill yn ein cymuned yn cael trafferth gydag iechyd meddwl, ac rwy’n meddwl bod ein cymuned ffydd yn gallu chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu cefnogaeth. Ydyn ni’n gallu archwilio ffyrdd o dorri'r distawrwydd o ran trafod iechyd meddwl?"


Ymatebion disgwyliedig:

  • Ymateb cadarnhaol: “Diolch am rannu. Mae dy brofiadau di’n werthfawr, ac rwy’n cytuno gall bod yn agored helpu i greu amgylchedd mwy cefnogol. Gadewch i ni ystyried sut i ymgorffori hyn yn ein cymuned."

  • Ymateb niwtral: “Do’n i ddim wedi meddwl amdano fel hynny o’r blaen. Gadewch i ni archwilio buddion posib o rannu straeon personol a sut mae'n cyd-fynd â'n hegwyddorion ffydd."

  • Ymateb negyddol: “Mae profiadau personol am iechyd meddwl yn gallu gwneud eraill yn anghyfforddus. Mae'n well canolbwyntio ar faterion ysbrydol." (Efallai y bydd hyn yn gofyn am esbonio pŵer profiadau sy’n cael eu rhannu i wella a'r effaith bosibl ar leihau stigma.)

Brawddegau cychwyn sgwrs:

  • “Hoffwn i archwilio’r camau ymarferol rydyn ni’n gallu eu cymryd fel cymuned ffydd i gefnogi iechyd meddwl, fel trefnu gweithdai neu ddarparu adnoddau. Beth yw’ch barn chi am hyn?"

  • “Sut ydyn ni’n gallu sicrhau bod unigolion sy’n wynebu heriau iechyd meddwl yn teimlo eu bod nhw’n cael eu cefnogi o fewn ein cymuned? A oes rhaglenni neu fentrau presennol rydyn ni’n gallu eu gweithredu?"

  • “Rwy’n credu bod ein cymuned ffydd yn gallu bod yn ffynhonnell o gryfder i’r rhai sy’n delio â materion iechyd meddwl. Ydyn ni’n gallu trafod camau pendant rydyn ni’n gallu eu cymryd i feithrin amgylchedd mwy cynhwysol a chefnogol?"

Ymatebion disgwyliedig:

  • Ymateb cadarnhaol: “Rwy’n gwerthfawrogi dy ymagwedd ragweithiol. Gadewch i ni daflu syniadau a gweithredu mentrau sy'n cyd-fynd â'n gwerthoedd ffydd ni ac sy'n cynnal llesiant meddwl."

  • Ymateb niwtral: “Do’n i ddim wedi ystyried hyn o’r blaen. Gadewch i ni archwilio camau ymarferol gyda'n gilydd a gweld sut ydyn ni’n gallu gwreiddio cymorth iechyd meddwl yn ein cymuned."

  • Ymateb negyddol: “Nid ydyn ni’n barod i drin materion iechyd meddwl yma. Mae pobl yn gallu ceisio cymorth proffesiynol y tu allan i’r gymuned.” (Efallai y bydd angen trafod rôl cymunedau ffydd wrth gynnig cymorth emosiynol a deall pwysigrwydd ymagwedd gyfannol.)

Brawddegau cychwyn sgwrs:

  • “Rwy’ eisiau gwneud yn siŵr fy mod i’n defnyddio’r iaith a’r rhagenwau cywir i chi. Ydych chi’n gallu rhannu'r hyn sy'n teimlo'n fwyaf cyfforddus a chadarnhaol?"

  • “Rwy’ wedi clywed bod defnyddio rhagenwau cywir yn hanfodol. Ydych chi’n gallu fy addysgu i ar y rhagenwau’n sydd orau gennych chi, fel rwy’n gallu bod yn fwy ystyriol?"

  • “Rwy’n dal i ddysgu am dermau LHDTC+. Os bydda’ i byth yn dweud rhywbeth nad yw'n gywir neu gallai gael ei wella, rhowch wybod i mi. Rwy’ eisiau dysgu a bod yn barchus."

Ymatebion disgwyliedig:

  • Ymateb cadarnhaol: “Diolch am ofyn. Fy rhagenwau i yw [rhagenwau], ac rwy'n gwerthfawrogi eich ymdrech chi i fod yn barchus."

  • Ymateb niwtral: “Rwy’n falch eich bod chi’n agored i ddysgu, ond byddai’n well gen i beidio â chael y sgwrs yma ar hyn o bryd.”

  • Ymateb negyddol: “Dw i ddim yn teimlo'n gyfforddus yn trafod y pwnc yma gyda chi, gadewch i ni symud ymlaen."

Brawddegau cychwyn sgwrs:

  • “Mae’n anrhydedd dy fod ti’n teimlo’n gyfforddus i rannu hyn gyda fi. Sut ydw i’n gallu dy gefnogi di yn ystod y cyfnod hwn, ac oes unrhyw beth penodol hoffet ti siarad amdano?"

  • “Rwy’ eisiau i ti wybod fy mod i'n eich cefnogi ti waeth beth. Oes unrhyw beth hoffet ti ei rannu am dy brofiad o ddod allan, neu oes ffordd rwy’n gallu fod o gymorth i ti?"

  • “Mae dod allan yn gallu bod yn daith bersonol. Rwy’ yma i wrando a’th gefnogi ti. Oes unrhyw beth hoffet ti ei drafod neu ei ofyn?"

Ymatebion disgwyliedig:

  • Ymateb cadarnhaol: “Diolch am fod mor gefnogol. Mae'n golygu llawer, ac mae’n gysur mawr imi dy fod ti yma i siarad am hyn.”

  • Ymateb niwtral: “Rwy’n gwerthfawrogi dy gynnig. Mae wedi bod ychydig yn heriol, ond mae gwybod bod gen i rywun i siarad â nhw yn helpu."

  • Ymateb negyddol: “Dw i ddim yn barod i’w drafod rhyw lawer, ond fe fydda’ i’n estyn allan os bydd angen cymorth arna’ i. Diolch am ddeall."

Brawddegau cychwyn sgwrs:

  • “Rwy’ wedi sylwi ar rai achosion o homoffobia neu drawsffobia, ac rwy’ eisiau mynd i’r afael â nhw. Sut ydyn ni’n gallu cydweithio i greu amgylchedd mwy cynhwysol?"

  • “Mae’n hanfodol sefyll yn erbyn gwahaniaethu. Ydyn ni’n gallu siarad am ffyrdd rydyn ni’n gallu bod yn gynghreiriaid a hyrwyddo cynhwysiant yn ein cymuned?"

  • “Rwy’ wedi bod yn dysgu am hawliau LHDTC+, ac rwy’ eisiau bod yn rhan o newid cadarnhaol. Ydyn ni’n gallu trafod ffyrdd o eirioli dros gynwysoldeb a chydraddoldeb?"

Ymatebion disgwyliedig:

  • Ymateb cadarnhaol: “Rwy’n falch dy fod ti’n angerddol dros hyn. Gadewch i ni feddwl am ffyrdd o fynd i'r afael â'r materion hyn a chreu newid cadarnhaol."

  • Ymateb niwtral: “Rwy’n agored i drafod hyn. Mae’n bwysig, ac rwy’n gwerthfawrogi dy barodrwydd i weithredu.”

  • Ymateb negyddol: “Mae’n well gen i beidio â chymryd rhan yn y trafodaethau hynny. Nid fy ffocws i yw hwn mewn gwirionedd." (Efallai y bydd hyn yn gofyn am ddealltwriaeth bellach am lefelau cysur unigolion a sut i’w parchu.)

Rhyngweithio yn ystod ymgysylltu â gwasanaethau

Brawddegau cychwyn sgwrs:

  • “Mae gen i ddiddordeb mewn therapi. Ydyn ni’n gallu trafod gwahanol fathau o therapi a sut i benderfynu pa rai allai fod fwyaf addas i fi?”

  • “Rwy’ wedi clywed am wahanol ddulliau o driniaeth. Ydych chi’n gallu rhoi rhagor o wybodaeth am yr opsiynau sydd ar gael, a sut ydyn ni’n gallu penderfynu ar yr un mwyaf effeithiol i fi?"

  • “Rwy’n agored i archwilio gwahanol ddulliau o reoli fy iechyd meddwl i. Beth yw eich barn chi am gael therapi ynghyd â meddyginiaeth bosibl?"

Ymatebion disgwyliedig:

  • Ymateb cadarnhaol: “Rwy’n falch eich bod chi’n agored i archwilio opsiynau. Gadewch i ni drafod y gwahanol ddulliau, a bydda’ i’n teilwra cynllun i fod yn addas ar gyfer eich anghenion chi."

  • Ymateb niwtral: “Yn sicr, gadewch i ni fynd dros yr opsiynau sydd ar gael a gweld beth sy'n cyd-fynd â'ch dewisiadau a'ch nodau chi.”

  • Ymateb negyddol: “Dw i ddim yn meddwl bod angen therapi arnoch chi. Efallai y byddai’n well rheoli hyn ar eich pen eich hun.” (Efallai y bydd angen trafodaeth ar fuddion cymorth proffesiynol.)

Brawddegau cychwyn sgwrs:

  • “Hoffwn i drafod fy nghefndir diwylliannol i a sut gallai effeithio ar fy mhrofiad i mewn therapi. Ydyn ni’n gallu siarad am sut i gynnwys hyn yn ein sesiynau ni?"

  • “Rwy’n ymateb yn well i ddull mwy cydweithredol. Sut ydyn ni’n gallu sicrhau bod ein sesiynau’n rhyngweithiol ac wedi’u teilwra i fy steil cyfathrebu i?”

  • “Rwy’n gyfforddus yn rhannu rhai agweddau ar fy mywyd i ond nid rhai eraill. Ydyn ni’n gallu sefydlu ffiniau pendant a thrafod sut i lywio pynciau sensitif?"

Ymatebion disgwyliedig:

  • Ymateb cadarnhaol: “Mae eich dewisiadau chi yn bwysig, ac rydyn ni’n gallu addasu ein sesiynau ni yn llwyr i ddiwallu eich anghenion chi. Gadewch i ni drafod sut i wneud therapi yn fwy buddiol i chi."

  • Ymateb niwtral: “Rwy’n gwerthfawrogi eich bod chi’n rhannu eich dewisiadau chi. Dewch i ni ddod o hyd i gydbwysedd sy'n parchu eich lefel cysur ac sy’n hyrwyddo profiad therapiwtig cadarnhaol."

  • Ymateb negyddol: “Mae gan therapi strwythur, ac mae angen i ni ei ddilyn. Gallai drafod dewisiadau penodol lesteirio’r broses.” (Efallai y bydd hyn yn gofyn am sgwrs am bwysigrwydd cymhwysedd diwylliannol a gofal sy’n benodol i’r unigolyn. Neu gallai hyn olygu eich bod am weithio gyda chynghorydd neu therapydd gwahanol, sy’n opsiwn.)

Brawddegau cychwyn sgwrs:

  • “Rwy’ wedi sylwi ar rai newidiadau ers dechrau therapi. Sut ydyn ni’n gallu asesu fy nghynnydd i, a phryd dylen ni ystyried addasiadau i'r cynllun triniaeth?"

  • “Mae gen i bryderon am rai agweddau ar ein sesiynau ni. Ydyn ni’n gallu trafod sut i fynd i'r afael â nhw a sicrhau fy mod i’n cael y gorau o therapi?"

  • “Rwy’n profi heriau newydd. Ydyn ni’n gallu ailedrych ar ein cynllun triniaeth a gweld a oes angen unrhyw addasiadau i fynd i'r afael â'r materion hyn?"

Ymatebion disgwyliedig:

  • Ymateb cadarnhaol: “Mae monitro cynnydd yn hollbwysig, ac rwy’n falch eich bod chi’n rhagweithiol o ran hyn. Gadewch i ni gadw mewn cyswllt yn rheolaidd a gwneud unrhyw addasiadau yn ôl yr angen."

  • Ymateb niwtral: “Yn hollol, rydyn ni’n gallu asesu eich cynnydd chi gyda’n gilydd a gwneud addasiadau yn ôl yr angen. Mae eich mewnbwn chi’n werthfawr."

  • Ymateb negyddol: “Mae angen i chi ymddiried yn y broses. Efallai na fydd angen newidiadau ar hyn o bryd." (Efallai y bydd hyn yn gofyn am sgwrs am bwysigrwydd gwneud penderfyniadau cydweithredol neu newid therapydd.)

Cofiwch, mae'r fframweithiau hyn yn hyblyg a gellir eu haddasu yn seiliedig ar sefyllfaoedd penodol a dewisiadau unigol. Y nod yw creu diwylliant o gyfathrebu agored, empathi, a chefnogaeth o fewn y gymuned Ddu. Yn ogystal, mae eich gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol yno i'ch cefnogi, ac mae cyfathrebu agored yn allweddol i berthynas lwyddiannus gyda’ch therapydd. Mae croeso i chi fynegi eich anghenion, eich pryderon a'ch dewisiadau trwy gydol eich taith.

Beth i'w wneud os bydd sgyrsiau’n mynd ar drywydd gwahanol?

Wrth gymryd rhan yn y ddeialog hon gyda'ch rhieni, eich cyfoedion, eich ffrindiau neu'ch teulu, mae'n bwysig cydnabod y gall sgyrsiau weithiau fynd ar drywydd gwahanol. Er enghraifft, efallai y bydd eich rhieni yn symud oddi wrth y prif bwnc oherwydd pryderon neu emosiynau, neu o ganlyniad i gamddealltwriaeth yn unig. Mewn achosion o'r fath, gall fod yn syniad da i symud y sgwrs yn ôl i'r pwnc gwreiddiol yn ddeheuig. Dechreuwch trwy fynegi dealltwriaeth ac empathi tuag at eu pryderon, yna arweiniwch y sgwrs yn ôl i'r pwnc cychwynnol yn ddeheuig. Efallai y byddwch chi'n dweud rhywbeth fel, "Rwy'n gwerthfawrogi eich persbectif chi ac rwy'n deall eich pryder chi am fy ngraddau i, ac rwy’ am sicrhau ein bod ni’n mynd i'r afael â hynny. Ond gadewch i ni fynd yn ôl at y prif fater ro’n ni’n ei drafod, sef fy iechyd meddwl i. Mae'n anoddach perfformio ar fy ngorau glas i yn academaidd pan fydda’ i’n delio ag anawsterau meddyliol/emosiynol. Byddai hyn yn fy helpu i i sicrhau ein bod ni’n drafod popeth yn drylwyr.” Trwy gydnabod eu mewnbwn wrth lywio'r sgwrs yn ôl ar y trywydd iawn, rydych chi'n creu deialog barchus ac adeiladol sy'n meithrin cyd-ddealltwriaeth a chydweithredu. Cofiwch, mae angen i’r ddwy ochr gyfrannu er mwyn cyfathrebu yn effeithiol, a gall parhau i ganolbwyntio ar y pwnc rydych yn bwriadu ei drafod arwain at ganlyniadau mwy cynhyrchiol i bawb sy’n rhan o’r sgwrs.

Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni ychwanegu ymwadiad: nodyn i'ch atgoffa, er ein bod yn ymdrechu i ddarparu strategaethau ac awgrymiadau effeithiol, byddwch yn ymwybodol efallai na fydd pob argymhelliad yn arwain at ganlyniadau ar unwaith wrth gychwyn deialog effeithiol. Rydym yn eich annog i ailymweld â'r dudalen hon, ailymweld â'ch sgyrsiau a rhoi cynnig arni eto, yn enwedig os nad yw’r ymgais gychwynnol yn cynhyrchu'r canlyniad rydych yn ei ddymuno. Mae eich dyfalbarhad a'ch parodrwydd i ymgysylltu yn ffactorau allweddol er mwyn sicrhau sgwrs lwyddiannus ac ystyrlon.

Sut olwg sydd ar dderbyn?

Mae derbyn yn golygu cydnabod gwrthwynebiad eraill gyda thosturi a dealltwriaeth, yn hytrach na rhwystredigaeth neu hunanfeirniadaeth. Wrth wynebu gwrthwynebiad gan rieni, cyfoedion, ffrindiau neu deulu yn ystod y sgwrs hon, mae’n bwysig bod yn hunandosturiol trwy atgoffa ein hunain nad yw eu hymatebion yn adlewyrchiad o’n gwerth na’n hymdrechion. Gallai enghraifft dda o siarad â’ch hun yn dosturiol fod: “Mae’n iawn nad ydyn nhw’n barod i ddeall ar hyn o bryd. Rwy'n gwneud fy ngorau glas, ac nid yw eu gwrthwynebiad yn lleihau fy ngwerth i na phwysigrwydd yr hyn rwy'n ei ddweud. Galla’ i gymryd cam yn ôl, anadlu, a rhoi cynnig arall arni nes ymlaen.” Efallai y byddwch yn ystyried hyn yn debyg i’r math o iaith a ddefnyddir yn yr erthyglau am ddatganiadau cadarnhaol. Y rheswm dros hyn yw oherwydd bod yr ymagwedd hon yn helpu i gynnal deialog fewnol gadarnhaol a chefnogol, gan feithrin gwydnwch ac amynedd wrth i ni lywio sgyrsiau heriol.

Adolygwyd ddiwethaf: Awst 2024