Leave this site now

Galaru yn y brifysgol

Mae Anna May

Mae Anna May Anna May yw sylfaenydd y Rhwydwaith Galar Myfyrwyr, rhwydwaith sy'n ymroddedig i feddalu effaith profedigaeth mewn prifysgolion.

Mae heriau unigryw i ddelio â galar fel myfyriwr.

Mae prifysgol yn aml yn cael ei chyfleu fel lle i ddysgu, tyfu a chael hwyl. Ond i fyfyrwyr mewn profedigaeth – p’un a ddigwyddodd y golled cyn mynd i’r brifysgol neu yn ystod eich astudiaethau – gall y disgwyliadau hyn weithiau fod yn wahanol iawn i’r ffordd rydych chi’n teimlo. Gall fod yn unig ac yn llethol wrth i chi geisio ymdopi ag uchel fannau ac isel fannau galar mewn amgylchedd sy’n newid yn gyson, yn enwedig pan nad oes llawer o bobl ifanc eraill wedi profi galar o’r blaen. Efallai y byddwch chi’n teimlo eich bod wedi’ch gosod ar wahân i’ch cymheiriaid nad ydyn nhw’n deall eich sefyllfa, nac yn gwybod sut i’ch cefnogi.

Cefais i brofiad tebyg i hwn ar ôl colli fy mrawd a fy nhad. Mae’n hawdd teimlo ar eich pen eich hun, ond nid yw hyn yn wir. Efallai dydyn ni ddim yn dda iawn am siarad am y peth, ond mewn gwirionedd mae llawer o fyfyrwyr wedi profi galar.

Bydd y profiad yn wahanol i bawb, ond dyma rai o’r prif themâu sydd wedi codi mewn sgyrsiau rydw i wedi’u cael â myfyrwyr mewn profedigaeth dros y blynyddoedd:

Symud oddi cartref

Gall byw mewn amgylchedd anghyfarwydd, ac ymhell o’ch rhwydwaith cymorth arferol, fod yn anodd. Mae rhai pobl yn disgrifio galar fel teimlad sy’n debyg i hiraeth, ac mae profi’r ddau beth ar yr un pryd yn gallu bod yn llawer i’w brosesu. Mae symud oddi cartref hefyd yn dod â nifer o gyfrifoldebau, megis coginio, glanhau a threfnu eich amserlen eich hun - mae’r pethau bob dydd hyn yn gallu bod yn llethol pan fyddwch chi’n galaru. Mae rhai pobl yn teimlo’n euog am fod oddi cartref, tra bod eraill yn gweld y brifysgol fel rhywbeth i’w cadw’n brysur a chyfle i gael dechrau o’r newydd.

Pam y gall ansicrwydd fod yn straen

Ffordd o fyw myfyrwyr

Mae’n bosibl y byddwch chi’n teimlo llawer o bwysau yn y brifysgol i gael ‘amser gorau eich bywyd’. Mae’n gallu bod yn anodd cyflawni’r disgwyliadau cymdeithasol hynny oherwydd efallai y bydd gennych chi lai o egni neu efallai na fyddwch chi mewn hwyliau da. Efallai y byddwch chi’n teimlo eich bod chi wedi gorfod ‘tyfu i fyny’n gyflym’, a gallai hyn wneud i chi deimlo wedi’ch datgysylltu oddi wrth gymheiriaid sy’n ymddangos yn fwy diofal.

Ar y llaw arall, mae bywyd cymdeithasol prysur yn gallu tynnu eich sylw a’ch atgoffa bod bywyd yn dda. Mae’n bwysig gadael i chi’ch hun gael hwyl a sbri, ond byddwch yn ymwybodol o arferion nad ydynt yn iach, fel yfed gormod o alcohol neu beidio â chysgu digon, sy’n gallu gwneud rheoli galar yn anoddach yn yr hirdymor.

Gall fod yn gyfnod ansefydlog, ond mae’n bosibl cwrdd â phobl sy’n deall yr hyn rydych chi’n ei brofi, a dod o hyd i bethau sy’n dod â llawenydd i chi, hyd yn oed os yw hynny’n wahanol i’r hyn yr oeddech chi’n ei ddisgwyl o’ch amser yn y brifysgol.

Arferion iach i helpu eich iechyd meddwl

Pwysau academaidd

Gall eich cwrs eich cadw’n brysur, a rhoi rhywfaint o strwythur a rhywbeth i ganolbwyntio arno mewn cyfnod sydd fel arall yn ansefydlog. Ond gall hefyd fod yn anodd cadw’ch cymhelliant, a rheoli llwyth gwaith, ochr yn ochr â’r straen a’r golled emosiynol oherwydd galar. Mae astudiaethau wedi dangos bod galar yn gallu effeithio ar faint o egni sydd gennych chi, eich cof, a’ch gallu i ganolbwyntio. Felly, byddwch yn garedig â chi’ch hun os yw’ch cynhyrchiant, neu’ch graddau, wedi gostwng.

Cofiwch y gallwch chi siarad â staff yn y brifysgol, ac efallai y gallwch chi gael mwy o amser i gwblhau eich gwaith, hawlio cymorth amgylchiadau lliniarol a chymorth arall.

Delio â thrawsnewidiadau

Mae’r brifysgol yn gallu bod yn gyfle i ddechrau darganfod pwy ydych chi fel unigolyn a’r hyn rydych chi am ei wneud yn eich bywyd. I lawer o bobl, mae’n gyfle i fod yn fwy annibynnol, a dechrau ymddwyn fel oedolyn. Hyd yn oed i fyfyrwyr hŷn, mae’n debygol eich bod chi’n profi trawsnewidiadau mawr wrth i chi gychwyn ar eich cwrs. Mae hyn yn gallu bod yn gyffrous, ond mae’n gallu dod â llawer o ansicrwydd hefyd. Mae’n bosibl y bydd yr ansicrwydd hwn yn cael ei waethygu gan y cythrwfl emosiynol a’r cwestiynau dirfodol sy’n aml yn gysylltiedig â galar, ac efallai na fydd y bobl y byddwch chi fel arfer yn troi atynt i’ch helpu i deimlo’n fwy sefydlog ar gael.

Er mae’n gallu teimlo’n llethol, mae llawer o fyfyrwyr yn dweud eu bod wedi dod i ddeall eu hunain yn well oherwydd galar, a bod galar wedi’u helpu i flaenoriaethu’r pethau sy’n wirioneddol bwysig, a bod yn fwy gwydn wrth wynebu heriau yn y dyfodol.

Os digwyddodd y golled tra’ch bod yn y brifysgol

Os bydd rhywun o’ch prifysgol yn marw, mae’r amgylchedd yn gallu dechrau teimlo’n llethol neu’n brudd, fel atgof cyson o’r hyn sydd wedi digwydd. Mae’r profiad yn gallu newid dynameg eich grŵp cymdeithasol – mae’n gallu dwysáu cydberthnasau, ond mae hefyd yn gallu arwain at densiynau a chamddealltwriaeth.

Mae’ch persbectif o’r byd yn gallu newid pan fydd rhywun yn marw. Efallai y byddwch chi’n teimlo’n ansicr ynghylch sut i barhau â’ch astudiaethau, ac yn teimlo’n euog pan fyddwch chi’n cael hwyl a sbri. Mae’n gallu bod yn anodd, ond mae’n bosibl ailddarganfod yr hyn sy’n dda am fywyd yn y brifysgol, hyd yn oed wrth i chi brosesu’r golled.

Cael cymorth

Does dim ffordd cywir neu anghywir o alaru, a does dim llinell amser. Mae’n iawn teimlo pa bynnag deimladau rydych chi’n eu teimlo. Er y bydd y profiad yn wahanol i bawb, mae rhai pethau’n gallu helpu i wneud eich profiad o alar ychydig yn haws. Gallwch ddod o hyd i gynghorion ar wefan Rhwydwaith Galar Myfyrwyr, yma: -Cynghorion ar gyfer rheoli galar Rhwydwaith Galar Myfyrwyr

Os ydych chi’n chwilio am ragor o gymorth, gallwch chi gael gwybod am yr hyn mae eich prifysgol yn ei gynnig drwy Gyfeiriadur y Brifysgol, neu edrychwch ar y sefydliadau a restrir yma

Page last reviewed: April 2025