Gall arferion iach helpu eich iechyd meddwl
Pan mae llawer o ansicrwydd yn ein bywydau ni ac yn y byd o’n cwmpas, gallwn lithro i ymddygiad llawn cysur sy’n cael effaith negyddol ar ein llesiant. Os yw eich deiet, eich trefn ddyddiol neu eich ymarfer wedi colli strwythur oherwydd yr amgylchiadau presennol, efallai y byddwch eisiau ystyried gwneud rhai newidiadau adeiladol.
Y cyswllt rhwng iechyd corfforol a meddyliol
Mae ein hiechyd corfforol yn cael effaith uniongyrchol ar ein llesiant emosiynol. Ni fydd gwella iechyd corfforol o angenrheidrwydd yn atal neu’n gwella pob problem iechyd meddwl, ond gall roi mwy o egni i ni, a ffocws i wynebu heriau a datrys problemau.
Dyma rai elfennau o lesiant corfforol a all helpu i wella eich hwyliau:
- Cysgu’n dda
- Deiet iach
- Ymarfer a golau haul rheolaidd
- Trefn ddyddiol gytbwys.
Gall gwneud newidiadau i’ch trefn ddyddiol fod yn anodd os ydych chi’n teimlo’n isel neu’n bryderus. O dan yr amgylchiadau hyn, peidiwch â theimlo bod angen i chi newid popeth ar unwaith: dewiswch un neu ddau o newidiadau bychain i’w gwneud. Ar ôl ymgorffori’r rhain, efallai y gwelwch chi ei bod yn haws gwneud y newid nesaf. Gall recriwtio ffrind neu aelod o’r teulu i’ch helpu chi fod o gymorth: gall ymrwymo i newid gyda’ch gilydd ei gwneud yn haws llwyddo.
Canolbwyntiwch ar wella eich sefyllfa bresennol yn hytrach na cheisio perffeithrwydd. Bydd beth bynnag fyddwch yn ei wneud i wella eich llesiant corfforol yn helpu i gynnal neu wella eich iechyd meddwl. Bydd yn rhoi mwy o egni i chi i ddelio â’r heriau rydych yn eu hwynebu ac yn ei gwneud yn fwy tebygol y byddwch yn mwynhau gweithgareddau hwyliog.
Newidiadau i’w hystyried
Cysgu
Peidio â chael caffein ar ôl amser cinio
- Dewis amseroedd rheolaidd ar gyfer mynd i’r gwely a chodi bob dydd
- Ceisio mynd allan i olau’r haul yn y bore
- Ceisio cadw oddi wrth sgriniau a dyfeisiadau yn ystod yr awr olaf cyn amser gwely
Deiet
- Cadw ffrwythau gartref a gyda chi pan rydych yn mynd allan. Bwytewch y ffrwythau pan mae’n demtasiwn estyn am fyrbryd llawn braster neu siwgr.
- Ceisio bwyta brecwast iach bob dydd.
Byd natur a golau’r haul
Ewch am dro fer bob dydd a threulio 5 i 10 munud yn canolbwyntio ar ryw agwedd ar fyd natur. Gallech roi sylw manwl i goeden yn siglo yn y gwynt, aderyn neu olau’r haul ar gae neu barc.
Ymarfer
- Ceisiwch sicrhau cynnydd bach yn faint rydych yn ei ymarfer – dim ond drwy godi ar eich traed a cherdded dan do hyd yn oed.
- Cymdeithasu gyda ffrindiau neu deulu drwy fynd am dro gan gadw pellter cymdeithasol, rhedeg neu feicio, fel bod eich ffocws ar y sgwrs a’r pleser o fod yn eu cwmni.