Gofalu am anhawster iechyd meddwl yn y brifysgol
Gall lefelau uchel o ansicrwydd ynghylch gwleidyddiaeth, yr economi, yn ogystal ag addasu i fywyd myfyrwyr, a'i reoli, ei gwneud yn fwy heriol rheoli anhawster iechyd meddwl sy’n bodoli eisoes. Gall yr awgrymiadau hyn eich helpu i gael profiad cystal â phosibl.
1. Cadwch lygad ar sut rydych chi'n dod ymlaen
Beth bynnag yw natur eich anhawster iechyd meddwl, mae'n debyg eich bod yn adnabod arwyddion o waethygiad yn eich symptomau.
Er enghraifft, gall fod yn bwysig cadw llygad ar eich cwsg yn gwaethygu, newidiadau mewn chwant bwyd, neu ymddygiadau penodol. Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi gadw dyddiadur neu wiriwr symptomau a defnyddio unrhyw strategaethau y gwyddoch a all eich helpu, pan sylwch ar y newidiadau hyn.
Os byddwch chi'n sylwi ar y newidiadau hyn ac nad ydynt yn gwella ar ôl ychydig ddyddiau, yna efallai y byddai'n ddefnyddiol siarad â gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n ymwneud â'ch gofal. Efallai mai eich meddyg teulu neu dîm gofal iechyd meddwl fydd hwn.
Fel arall, os yn bosibl, gallai fod o gymorth i siarad â theulu, ffrindiau neu bobl sy'n agos atoch, i weld p’un a ydynt wedi gweld unrhyw newidiadau yn eich symptomau. Gallech hefyd ofyn i rywun eich helpu i fonitro hyn am ychydig ddyddiau yn rhagor.
2. Rhowch flaenoriaeth i’ch iechyd meddwl a'ch llesiant
Mae’n bwysig rhoi blaenoriaeth i’ch iechyd meddwl a’ch llesiant. Mae hyn yn bwysig bob amser, ond yn enwedig ar adegau o ansicrwydd neu newid, pan fyddwn yn wynebu mwy o heriau nag arfer.
Gallai hyn olygu:
- Rhoi eich iechyd meddwl uwchlaw eich astudiaethau, trwy gymryd seibiannau pan fyddwch chi eu hangen.
- Peidio â theimlo rheidrwydd i ymgysylltu'n gymdeithasol os oes angen seibiant arnoch
- Cymryd seibiant o gyfryngau cymdeithasol a'r newyddion os yw'n gwneud i chi deimlo'n fwy pryderus.
Gallai fod yn ddefnyddiol eistedd a meddwl am yr hyn sy'n cefnogi eich iechyd meddwl. Ysgrifennwch y rhain a gwnewch yn siŵr eich bod yn blaenoriaethu'r pethau hyn cymaint â phosib.
3. Cadwch mewn cysylltiad â gwasanaethau myfyrwyr
Cofiwch y bydd gan eich prifysgol wasanaeth cymorth i fyfyrwyr. Fel arfer, gall y timau hyn gynnig ystod o gyngor a chymorth ynghylch iechyd meddwl a llesiant a gallant fod yn ffynhonnell werthfawr o gymorth
Efallai y byddwch am ystyried gwneud apwyntiad cychwynnol. Os ydych chi eisoes wedi defnyddio'r gwasanaeth, gallech chi drefnu apwyntiad adolygu.
Fel arfer, gall y timau hyn gynnig ystod o gyngor a chymorth ynghylch iechyd meddwl a llesiant a gallant fod yn ffynhonnell werthfawr iawn o gymorth.
4. Cyrchwch gymorth y GIG
P'un a ydych yn cael cymorth gan eich meddyg teulu neu dîm gofal iechyd meddwl, mae'n bwysig iawn eich bod yn parhau i fynychu apwyntiadau adolygu ac yn cymryd unrhyw feddyginiaethau rydych chi’n eu cymryd yn gywir.
Efallai y bydd yn haws i chi golli apwyntiadau adolygu neu redeg allan o feddyginiaeth pan fyddwch chi'n ei chael hi’n anodd. Er bod hyn yn ddealladwy, gall gael effaith fawr ar eich iechyd meddwl, yn y tymor byr a’r tymor hir.
Meddyliwch am ddefnyddio calendr ar eich ffôn neu liniadur i gadw cofnod o apwyntiadau, neu, os yn bosibl, gofynnwch i deulu neu ffrindiau eich atgoffa.
5. Defnyddiwch eich rhwydwaith cymorth
Efallai y bydd eich rhwydwaith cymorth yn cynnwys ychydig o bobl neu gallai fod yn eang ei gwmpas. Gallai gynnwys aelodau o'r teulu, ffrindiau, cyd-letywyr a gweithwyr iechyd proffesiynol fel eich meddyg teulu. Gallai hefyd gynnwys tiwtoriaid personol, mentoriaid neu gynghorwyr iechyd meddwl a staff eraill y brifysgol.
Siaradwch â nhw am unrhyw bryderon sydd gennych am reoli eich iechyd meddwl ar hyn o bryd. Efallai y bydd ffrindiau a theulu, yn arbennig, yn gallu eich atgoffa beth sydd wedi eich helpu o’r blaen a’ch cefnogi i wneud y pethau hynny.
Adeiladu rhwydwaith yn y brifysgol
6. Peidiwch ag anghofio am eich iechyd corfforol
Er bod eich iechyd meddwl yn flaenoriaeth, mae'n bwysig cofio gofalu am eich iechyd corfforol hefyd. Mae'r corff a'r meddwl yn gysylltiedig, felly bydd gofalu am y naill yn helpu'r llall. Mae’r pethau a allai fod yn ddefnyddiol i’w cofio yn cynnwys y canlynol:
- Cael rhywfaint o awyr iach a golau'r haul pan allwch chi.
- Ceisio bwyta'n rheolaidd a chynnwys ffrwythau a llysiau yn eich deiet.
- Cynnwys rhywfaint o weithgarwch corfforol bob dydd. Mae llawer o opsiynau y gallwch chi eu gwneud yn eich ystafell heb unrhyw offer.
- Gofalu am unrhyw gyflyrau iechyd corfforol sydd gennych chi. Gallai hyn gynnwys cymryd meddyginiaethau rheolaidd.
- Ceisio cynnal patrwm cysgu rheolaidd cymaint â phosibl.
- Ceisio yfed digon – mae’r opsiynau’n cynnwys dŵr, te, coffi, sgwash a sudd ffrwythau
Gall gofalu am eich iechyd corfforol deimlo'n heriol, felly gwnewch yr hyn a allwch chi. Os nad ydych chi'n llwyddo i wneud hyn bob dydd, peidiwch â bod yn rhy feirniadol ohonoch chi'ch hun – ceisiwch eto drannoeth a defnyddiwch y cymorth sydd ar gael i'ch helpu chi.