Gwneud y gorau o'ch amser gartref

Gareth Hughes

Gareth Hughes yw Arweinydd Clinigol Student Space ac mae'n seicotherapydd, ymchwilydd ac awdur ar lesiant myfyrwyr, gan gynnwys y llyfr Be Well, Learn Well.

Os ydych chi wedi bod yn aros yn y brifysgol ac yn mynd adref dros wyliau'r haf, gall hwn fod yn gyfle i adennill nerth a theimlo mwy o gysylltiad â’r bobl rydych chi’n eu caru. Ond gall cymryd ychydig o amser i feddwl am y peth a siarad amdano ymlaen llaw eich helpu chi a'ch teulu i gael amser cystal â phosibl.

Os ydych chi'n mynd adref ond ddim eisiau gwneud hynny

O ystyried natur heriol y flwyddyn academaidd, byddai'n hawdd cyrraedd diwedd y tymor ac yna mynd adref, heb feddwl am y peth ymlaen llaw. Ond tra eich bod wedi bod i ffwrdd, mae bywyd wedi bod yn mynd yn ei flaen i chi a'r bobl gartref. Mae hyn yn golygu y gallech chi a nhw fod wedi profi newidiadau.

Newidiadau rydych chi wedi'u profi

Mae bod yn fyfyriwr prifysgol yn brofiad unigryw. Yn dibynnu ar sut rydych chi wedi profi hyn, gall effeithio ar sut rydych chi'n teimlo, ac yn ei dro, gallai hynny effeithio ar yr hyn rydych chi am ei wneud pan fyddwch chi'n dychwelyd adref.

Efallai eich bod chi hefyd wedi mynd trwy newidiadau eraill neu wedi mabwysiadu arferion newydd sy'n wahanol i'r ffordd yr oeddech chi’n byw pan roeddech chi gartref o'r blaen. Efallai eich bod nawr yn teimlo'n fwy annibynnol, efallai eich bod yn cadw at oriau gwahanol, neu efallai eich bod wedi newid rhai o'ch safbwyntiau. Mae llawer o fyfyrwyr yn gweithio'n galed i ddatblygu eu hannibyniaeth yn ystod y flwyddyn ac weithiau'n teimlo bod symud yn ôl adref yn golygu bod yn rhaid iddynt roi'r gorau i'r sgiliau a'r ymddygiadau maent wedi gweithio mor galed i’w hennill.

Er efallai eich bod wedi bod gartref dros wyliau'r gaeaf ac yn ystod y Pasg, gall y newidiadau neu'r ymatebion hyn beri syndod i'ch teulu a'ch ffrindiau. Yn ystod gwyliau byrrach, mae'n haws cyfaddawdu ond gall deimlo'n anoddach dros wyliau hirach yr haf. Dydy hyn ddim yn golygu nad oes ots gan y bobl neu nad ydyn nhw'n fodlon deall.

Gall bod yn ymwybodol o'r newidiadau a'r profiadau hyn eich helpu i egluro sut rydych chi'n teimlo a'r hyn rydych chi'n teimlo sydd ei angen arnoch chi. Yna, gyda'ch gilydd, gallwch chi drafod sut y gallwch chi weithio i wneud y gwyliau cystal â phosibl i bawb.

Newidiadau gartref

Tra byddwch chi yn y brifysgol, mae bywyd hefyd wedi parhau i bawb gartref. Efallai bod rhai pethau gartref hefyd wedi newid, yn syml oherwydd y bydd eich teulu a’ch ffrindiau wedi gorfod addasu i fywyd heb i chi fod o gwmpas. Gan eich bod chi wedi bod yn cael profiadau gwahanol, gall hyn newid eu cydberthnasau â chi a'u cydberthynas â’i gilydd.

Nid yw hyn yn golygu bod y cydberthnasau hyn wedi gwanhau nac yn golygu llai, dim ond addasu i'r amgylchiadau newydd y maen nhw'n ei wneud. Gall bod yn barod ar gyfer y newidiadau hyn eich helpu i osgoi'r sioc y mae rhai myfyrwyr yn ei deimlo pan fyddan nhw'n sylweddoli nad yw gartref yn union fel y maen nhw'n ei gofio pan adawon nhw. Gall hyd yn oed pethau syml fel ailaddurno ystafell deimlo'n annifyr os nad oeddech chi'n ymwybodol ei fod wedi digwydd. Siaradwch â'r bobl gartref am yr hyn sydd wedi newid tra roeddech chi i ffwrdd, fel bod dychwelyd yn llyfnach ac yn haws i chi.

Byddwch yn realistig am eich disgwyliadau o gartref

Gall bywyd prifysgol fod yn heriol ac nid yw'n syndod efallai bod rhai myfyrwyr wedi bod yn dal gafael ar yr atgofion o gartref fel dylanwad sefydlogi. Os cânt eu defnyddio'n iawn, gall eich atgofion o gartref fod yn ffordd gadarnhaol iawn o'ch helpu i reoli heriau bywyd myfyriwr. Boed yn gadarnhaol neu'n negyddol, gallan nhw roi enghreifftiau i chi o adegau eraill rydych chi wedi wynebu heriau ac wedi bod yn llwyddiannus.

Fodd bynnag, mae'n bwysig bod yn realistig yn eich disgwyliadau ar gyfer dychwelyd adref. Efallai eich bod yn cofio'r holl adegau gorau a mwyaf cofiadwy gartref; os caniatewch i hynny bennu eich disgwyliadau, efallai y cewch eich siomi. Cofiwch fod cydberthnasau ac amgylcheddau fel arfer yn gymysgedd o'r pethau da a'r pethau drwg. Gall croesawu'r pethau da a derbyn y pethau drwg, lle bo modd, eich helpu chi i gael y gorau o'ch amser gartref.

Rwyf wedi sylwi bod fy iechyd meddwl wedi plymio yn ystod gwyliau’r haf oherwydd fy mod i ar fy mhen fy hun fel arfer ac mae gen i ormod o amser i feddwl ac i boeni am bopeth.”

Siaradwch â'ch teulu

Gall helpu os siaradwch chi â'ch teulu am hyn i gyd cyn i chi fynd adref. Ceisiwch weithio gyda’ch gilydd i gytuno ar ddull cyffredinol o ddelio â’r gwyliau sy’n helpu pawb i gael yr hyn sydd ei angen arnynt.

Os ydych chi i gyd yn deall sut rydych chi i gyd yn teimlo a beth rydych chi i gyd yn gobeithio ei gael, yna gallwch chi weithio gyda'ch gilydd i sicrhau gwyliau cystal â phosibl i bawb.

Adolygwyd ddiwethaf: Ebrill 2023