Heb ddod o hyd i swydd i raddedigion eto? Peidiwch â chynhyrfu!

Gareth Hughes

Gareth Hughes yw Arweinydd Clinigol Student Space ac mae'n seicotherapydd, ymchwilydd ac awdur ar lesiant myfyrwyr, gan gynnwys y llyfr Be Well, Learn Well.

Weithiau, gall dod o hyd i'r swydd iawn i raddedigion gymryd rhywfaint o amser. Bydd eich gyrfa yn para am ddegawdau; dim ond y dechrau yw hyn. Rhowch amser a lle i chi'ch hun ddod o hyd i'r ffordd o ddechrau sy’n addas i chi.

Mae myfyrwyr yn cael eu peledu â naratifau yn y cyfryngau a'n diwylliant. Gall y naratifau hyn wneud i chi gredu, os na chewch swydd i raddedigion cyn gynted ag y byddwch yn gorffen yn y brifysgol, eich bod wedi methu neu nad oedd diben i gael eich gradd. Nid yw hyn yn ddefnyddiol ac mae’n anwir. Ond gall y syniadau hyn fod yn bwerus ac arwain llawer o fyfyrwyr i deimlo dan straen, yn siomedig ac wedi digalonni os na chânt swydd yn syth ar ôl graddio. Gall hyn fod yn waeth os yw myfyrwyr eraill yr ydych yn eu hadnabod wedi llwyddo i ddod o hyd i swyddi yn gyflym.

Y gwir yw y bydd dod o hyd i'r swydd i raddedigion sy'n iawn i chi a'i chael yn cymryd peth amser fel arfer.

Rhoddais ormod o bwysau arnaf fy hun i drefnu pob rhan o fy mywyd cyn gynted ag y gadewais y brifysgol. Nid oes gennyf y disgwyliad hwnnw ar gyfer pobl eraill, felly pam ei fod gennyf i fi fy hun? Nid yw peidio â chael swydd i raddedigion eto yn fy ngwneud yn fethiant.

I’ch helpu i reoli hyn, gall fod yn werth cofio’r canlynol:

1. Nid ydych chi'n cael gradd dim ond i gael y swydd gyntaf honno

Mae addysg prifysgol yn eich grymuso gyda’r sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth i adeiladu math gwahanol o fywyd a gyrfa. Unwaith y byddwch wedi dod o hyd i swydd i raddedigion sy'n addas i chi, bydd eich addysg yn eich galluogi i ffynnu a pherfformio'n well ac i gael dyrchafiad neu symud ymlaen i'r swydd lefel nesaf.

Parhewch i ganolbwyntio ar y ffaith bod eich gradd yn ymwneud â'r tymor hir ac mai rhan lai rhagweladwy o'r broses yn unig yw’r misoedd o geisio cael y swydd gyntaf honno.

2. Ceisiwch beidio â chymharu eich hun â phobl eraill

Mae eu taith nhw yn amherthnasol i'ch un chi. Bydd gennych eich gyrfa a'ch bywyd unigryw eich hun. Efallai na fydd y swyddi y mae eraill yn eu cael wedi gweithio allan i chi – a hyd yn oed pe byddent wedi bod yn addas i chi, nid yw hynny'n golygu na fyddwch chi'n dod o hyd i rywbeth cystal neu well. Cadwch ffocws ar ble rydych chi a beth rydych chi ei eisiau o'ch gyrfa.

3. Canolbwyntiwch ar yr hyn rydych chi wedi'i ennill o'r brifysgol

Nid yw'r dysgu a'r twf yr ydych wedi eu caffael wedi mynd i unman. Efallai eich bod hefyd wedi cael profiadau newydd, dod o hyd i ffrindiau newydd, neu ehangu'r ffordd rydych chi'n gweld y byd. Bydd hyn i gyd yn adeiladu cyfalaf y gallwch ei ddefnyddio i lunio bywyd sy'n dda i chi.

Adolygu eich blwyddyn hyd yn hyn

4. Canolbwyntiwch ar agweddau eraill ar eich bywyd

Nid yw popeth yn ymwneud â gwaith. Atgoffwch eich hun o'r pethau da sydd gennych y tu allan i'r helfa swyddi.

5. Cynlluniwch ar gyfer y presennol i gymryd y pwysau oddi arnoch

Weithiau, gall helpu i sicrhau gwaith am y tro tra byddwch yn parhau i chwilio am swydd i raddedigion. Nid yw hyn yn gydnabyddiaeth o fethiant; rydych yn sicrhau'r adnoddau sydd eu hangen arnoch i barhau i chwilio am y swydd i raddedigion sy’n iawn i chi. Mae'n gam tymor byr sy'n eich galluogi i gymryd eich amser a dod o hyd i'r cam hirdymor cywir.<

Sut i ymarfer hunanofal wrth chwilio am swydd

6. Defnyddiwch gymorth

Mae’n bosibl iawn y bydd eich gwasanaeth gyrfaoedd yn eich cefnogi i ddod o hyd i swydd i raddedigion am hyd at dair blynedd ar ôl graddio. Gallwch hefyd ddod o hyd i erthyglau ar y wefan hon i'ch helpu i fireinio eich strategaeth chwilio, gwella eich ceisiadau, a dysgu o'ch taith hyd yn hyn.

Swyddi ar gyfer graddedigion

Adolygwyd ddiwethaf: Mehefin 2023