Leave this site now

Llesiant Pobl Ddu LHDTC+: Llywio bywyd prifysgol

Mae Taj Donville-Outerbridge (Nhw/Eu)

Mae Taj Donville-Outerbridge (Nhw/Eu) Mae Taj yn actifydd hawliau dynol, yn llenor, ac yn fyfyriwr cwiar a Du anymddiheurol. Maent yn hyrwyddwr gweithredol ac yn eiriolwr dros hawliau LHDTC+, iechyd meddwl, cynaliadwyedd, croestoriadedd, dad-drefedigaethu, a gwrth-hiliaeth ar lefel prifysgol, lefel genedlaethol, ac yn rhyngwladol.

Mae'r erthygl hon yn archwilio'r heriau unigryw y mae myfyrwyr Du LHDTC+ yn eu hwynebu yn y DU ac yn cynnig cyngor ymarferol ar gyfer gofalu am iechyd meddwl a llesiant.

Fel myfyriwr Du LHDTC+, gall llywio bywyd prifysgol fod yn arbennig o heriol. Nid yn unig y mae'n rhaid inni gydbwyso'r holl agweddau ar fywyd sy'n rhan o fod yn ddynol, ond rydyn ni’n aml yn wynebu gwrthdaro mewnol annisgrifiadwy, rhagfarn gymdeithasol, yn ogystal â homoffobia a thrawsffobia agored ac uniongyrchol. Gall diffyg cynrychiolaeth y gymuned leiafrifol, mannau diogel sydd wedi’u teilwra, ac adnoddau penodol a fwynheir gan grwpiau ymylol eraill wneud ein profiad yn fwy anodd ac ynysig. Fodd bynnag, nid dyna ddiwedd ein stori.

Mae’r gwydnwch sydd gennyn ni fel pobl cwiar, yn enwedig fel pobl cwiar o liw, o ganlyniad i’n profiadau bywyd unigryw, yn ein gwthio nid yn unig i oroesi ond i ffynnu. Yng nghanol yr holl oroesi a ffynnu, gallwn ni anghofio’n aml i ofalu am ein llesiant uniongyrchol ein hunain. Gall cydnabod y ffactorau hyn helpu i wneud eich teimladau yn fwy eglur a lleihau’r awydd i feio eich hun. Nod yr erthygl hon yw taflu goleuni ar y profiadau hyn a chynnig camau ymarferol a allai fod yn ddefnyddiol i chi o ran gofalu am eich llesiant meddyliol.

Gofalu am eich llesiant:

Gwnewch amser ar gyfer gweithgareddau llawen

  • Cymerwch ran mewn hobïau sy’n berthnasol i’ch diwylliant: Cymerwch ran mewn gweithgareddau sydd nid yn unig yn dod â llonyddwch a llawenydd i chi, ond sydd hefyd yn eich cysylltu â'ch gwreiddiau diwylliannol. Gallai hyn gynnwys gwrando ar gerddoriaeth o'ch treftadaeth, coginio prydau traddodiadol, neu gymryd rhan mewn ffurfiau celfyddydol sy’n rhan o’ch diwylliant.

  • Meddwlgarwch ac ymlacio: Gall arferion fel ioga a myfyrdod fod yn arbennig o fuddiol. Ystyriwch sesiynau dan arweiniad sy'n canolbwyntio ar brofiadau pobl Ddu a/neu bobl o liw.

  • Trefnu seibiannau: Cofiwch gynnwys seibiannau rheolaidd yn eich trefn astudio er mwyn ymlacio ac adfywio. Defnyddiwch yr amser hwn i ymgymryd â gweithgareddau sy'n dathlu eich hunaniaeth, fel darllen llenyddiaeth gan awduron Du LHDTC+.

Dod o hyd i gymuned

  • Ymuno â grwpiau sy’n ddiwylliannol benodol: Chwiliwch am gymdeithasau ar gyfer myfyrwyr Du LHDTC+, ar y campws ac ar-lein. Os nad oes unrhyw ofodau penodol ar gyfer pobl Ddu, cwiar, sefydlwch ofod eich hun, neu ystyriwch ddod o hyd i ofodau myfyrwyr Du neu LHDTC+ traddodiadol. Mae'r grwpiau hyn yn cynnig gofod diogel ar gyfer rhannu profiadau a datblygu rhwydwaith cefnogol – ond maen nhw’n dal yn gallu bod yn heriol. (Edrychwch ar yr erthygl arall hon ar sut i fynd i'r afael â’r gofodau hyn fel myfyriwr Du, cwiar).

  • Cymunedau ar-lein: Mae yna nifer o blatfformau ar-lein ar gyfer unigolion Du LHDTC+. Mae'r platfformau hyn yn cynnig cyngor, cefnogaeth, ac ymdeimlad o berthyn.

  • Digwyddiadau a chyfarfodydd: Ewch i ddigwyddiadau a chyfarfodydd sy'n dathlu hunaniaethau Du a LHDTC+. Gall gŵyl Balchder Pobl Ddu y DU a digwyddiadau tebyg fod yn gyfleoedd gwych i gysylltu ag eraill sy’n rhannu profiadau tebyg.

Crëwch eich gofod diogel personol eich hun

  • Gofod diogel ffisegol: Dynodwch ofod lle rydych chi'n teimlo'n ddiogel ac yn gyfforddus, sydd wedi'i addurno ag eitemau sy'n adlewyrchu eich hunaniaeth a'ch diwylliant. Gallai’r gofod hwn fod yn ystafell, cornel gydag eitemau personol, neu ofod digidol lle gallwch ymlacio a dadflino.

  • Ffyrdd i fynegi eich hun: Crëwch lyfr i gofnodi’ch meddyliau a’ch teimladau, wal fynegiant, neu blatfform digidol lle gallwch chi fynegi'ch meddyliau a'ch teimladau yn rhydd. Gall hyn fod yn ffordd bwerus o brosesu emosiynau a chadw’ch meddwl yn glir.

  • Ffiniau: Gallwch warchod eich gofod cysegredig drwy osod ffiniau pendant. Rhowch wybod i eraill bod y gofod hwn yn gyfyngedig ac i barchu’ch angen i fod ar eich pen eich hun ac i fyfyrio.

Cadwch eich corff a'ch meddwl yn iach

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn bwyta’n iach, yn gwneud ymarfer corff, yn myfyrio, ac yn cysgu. Byddwch yn ymwybodol hefyd o'ch arferion rhywiol a gwnewch benderfyniadau gwybodus. Mae Black Beetle Health yn darparu adnoddau defnyddiol ar iechyd rhywiol i bobl Ddu LHDTC+.

Cofiwch pwy ydych chi

  • Datganiadau hunan-gadarnhau: Atgoffwch eich hun yn rheolaidd am eich cryfderau, eich cyflawniadau, a'r rhinweddau unigryw sy'n eich gwneud chi pwy ydych chi. Gall datganiadau cadarnhaol feithrin hyder ynoch chi’ch hun a gwydnwch.

  • Dathlu llwyddiannau: Cofiwch gydnabod a dathlu eich cyflawniadau, ni waeth pa mor fach ydyn nhw. Gall hyn roi hwb i'ch morâl a’ch cymell i barhau i ymgyrraedd at eich nodau.

  • Hunan-dosturio: Byddwch yn garedig â chi'ch hun a chydnabod ei bod hi'n iawn i gael trafferthion. Mae gan bawb ei daith ei hun, ac mae'n bwysig trin eich hun gyda'r un tosturi y byddech chi'n ei gynnig i eraill.

Diogelu eich llesiant

Dylech osgoi unrhyw gynnwys ar y cyfryngau sy'n eich cynhyrfu neu'n eich gwylltio

  • Amser i ffwrdd o’r cyfryngau: Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymatal yn rheolaidd rhag edrych ar y newyddion a’r cyfryngau cymdeithasol, yn enwedig pan ddaw'n llethol. Gall hyn helpu i leihau gorbryder a straen.

  • Curadwch gynnwys cadarnhaol: Ychwanegwch ffynonellau cyfryngau Du a/neu gyfryngau sy’n gefnogol i bobl LHDTC+ at eich trefn arferol. Dilynwch gyfrifon yn y cyfryngau cymdeithasol, podlediadau, a blogiau sy'n dathlu ac yn codi lleisiau a straeon pobl Ddu a/neu LHDTC+.

Rheoli effaith digwyddiadau byd-eang

Cofiwch osgoi pobl sy'n gwneud i chi deimlo'n anhapus, yn annheilwng neu'n anniogel

  • Gosod ffiniau: Cofiwch gyfleu eich ffiniau yn glir i unigolion a all fod yn anghefnogol neu a allai beri niwed i'ch llesiant. Mae'n iawn ymbellhau oddi wrth berthnasoedd sy'n effeithio'n negyddol ar eich iechyd meddwl.

  • Ceisio perthnasoedd cefnogol: Cofiwch ganolbwyntio ar adeiladu a meithrin perthnasoedd gyda phobl sy'n eich parchu a'ch cefnogi. Gall sicrhau eich bod wedi’ch amgylchynu gan ddylanwadau cadarnhaol wella’ch llesiant cyffredinol.

  • Hunanofal: Cofiwch sicrhau bod gofalu amdanoch chi’ch hun yn flaenoriaeth a chydnabod ei bod yn iawn i roi eich anghenion yn gyntaf. Mae cymryd amser i ffwrdd oddi wrth bobl negyddol, neu geisio cymorth i symud oddi wrthyn nhw, yn gam hanfodol i ddiogelu eich iechyd meddwl.

Cofiwch osgoi gofodau digroeso

  • Dod o hyd i amgylcheddau cynhwysol: Cymerwch ran mewn digwyddiadau a gofodau sy'n gynhwysol ac yn groesawgar i'r gymuned Ddu LHDTC+. Gall yr amgylcheddau hyn greu ymdeimlad o ddiogelwch a pherthyn.

  • Cyfathrebu eich anghenion: Rhowch wybod i'ch ffrindiau a'ch anwyliaid pa ofodau nad ydych chi’n teimlo’n ddiogel ynddyn nhw, boed yn gorfforol neu'n emosiynol. Byddwch yn eiriolwr dros eich diogelwch a'ch cysur eich hun.

  • Dewis gofodau lle nad oes alcohol: Dylech ystyried mynd i ddigwyddiadau lle nad oes alcohol neu sy’n fwy ymlaciedig a allai gynnig amgylchedd mwy diogel a mwy cyfforddus ar gyfer cymdeithasu.

Gorffwys pan fo angen

  • Gorffwys yn ysbrydol: Cymerwch ran mewn arferion ysbrydol sydd at eich dant chi, megis myfyrio, gweddïo, neu ddefodau sy'n eich helpu i deimlo bod eich traed ar y ddaear a’ch bod yn sefydlog yn emosiynol. Archwiliwch arferion o'ch treftadaeth ddiwylliannol sy'n hybu iachâd a llesiant.

  • Gorffwys rhag y cyfryngau: Cymerwch amser yn rhydd rhag y cyfryngau cymdeithasol a ffynonellau cyfryngau eraill o bryd i'w gilydd. Gall hyn eich helpu i ganolbwyntio eto a lleihau effaith cynnwys negyddol ar eich iechyd meddwl.

  • Gorffwys yn gymdeithasol: Gwerthuswch eich cylchoedd cymdeithasol ac ymbellhau oddi wrth ddylanwadau negyddol. Sicrhewch eich bod wedi’ch amgylchynu gan unigolion sy'n codi’ch ysbryd ac sy’n eich cefnogi.

Ceisio cymorth pan fydd ei angen arnoch

  • Cymorth proffesiynol: Peidiwch ag oedi cyn ceisio cymorth gan gwnselwyr, therapyddion, neu weithwyr iechyd meddwl proffesiynol eraill sydd â phrofiad o weithio gydag unigolion Du LHDTC+. Maen nhw’n gallu cynnig offer a strategaethau gwerthfawr i reoli straen a gwella’ch llesiant.

  • Rhwydweithiau cymorth: Ceisiwch gymorth gan eich teulu, eich ffrindiau, eich athrawon neu grwpiau cymorth o'ch dewis. Gall siarad am eich profiadau a cheisio cyngor roi teimlad o ryddhad i chi ac arweiniad.

  • Adnoddau ar gyfer argyfyngau: Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o adnoddau ar gyfer argyfyngau, a llinellau cymorth sydd ar gael i roi cymorth ar unwaith. Gall gwybod ble i droi pan fo angen fod yn rhwyd ddiogelwch hollbwysig.

Wrth imi ddechrau meddwl pa gyngor i’w gynnig, roeddwn i’n meddwl yn gyson sut yr ydyn ni, fel pobl cwiar, ac yn enwedig fel pobl cwiar o liw, yn aml yn gwybod beth sydd angen i ni ei wneud yn barod. Wrth fyfyrio, efallai y byddwch chi’n sylweddoli bod gennyn ni’r offer a'r dulliau sydd eu hangen arnon ni i ofalu am ein llesiant yn barod. Felly, wedi dweud hynny, dim ond fel nodyn atgoffa yr ysgrifennais i’r darn hwn. Nodyn i'ch atgoffa i ofalu am eich llesiant. Nodyn i'ch atgoffa i roi'r pethau buddiol rydych chi'n gwybod sy'n gweithio i chi ar waith, neu efallai i roi cynnig ar bethau newydd. Ac, yn olaf, nodyn i’ch atgoffa i gymryd amser i ddathlu faint o gynnydd rydych chi wedi ei wneud ac i fwynhau bywyd!

Adolygwyd ddiwethaf: Awst 2024