Er ein bod, yn gyffredinol, yn meddwl am alar fel rhywbeth sy'n gysylltiedig â marwolaeth rhywun sy’n agos atom, gallwn ei brofi o ganlyniad i fathau eraill o golled mewn gwirionedd. Er enghraifft, os ydych chi mewn perthynas ramantus sy'n dod i ben, efallai y byddwch chi'n profi galar. Gall hyn ddigwydd hefyd os ydych chi’n colli swydd yr oeddech chi’n ei mwynhau, neu os daw cyfeillgarwch i ben.
Weithiau gall myfyrwyr gael eu synnu pan fo galar yn ymddangos. Er enghraifft, mae'n bosibl profi galar os byddwch chi'n dewis dod â pherthynas ramantus i ben. Nid dim ond galaru am yr hyn rydyn ni wedi'i golli nawr ydyn ni – rydyn ni hefyd yn galaru am yr holl ddigwyddiadau rydyn ni wedi'u dychmygu yn y dyfodol ond na fydd yn digwydd bellach. Efallai eich bod wedi dychmygu pethau ar gyfer eich perthynas, fel gwyliau neu fyw gyda'ch gilydd.
Mae'n rhaid i'ch meddwl nawr addasu i'r ffaith na all ac na fydd y pethau hyn yn digwydd ac mae hynny'n fath o golled. Mae'r ymateb i alar yn normal a bydd yn lleihau dros amser.
Ceisiwch ganolbwyntio'n ôl ar yr amgylchiadau presennol, fel y maent, a gweld p'un a allwch chi ddod o hyd i ffyrdd o wella'ch sefyllfa. Bydd yn fuddiol ichi hefyd ofalu am eich llesiant yn gyffredinol, fel y gallwch deimlo ychydig yn well, o ddydd i ddydd.
Gall colled ysgogi ystod o emosiynau ynom. Nid yw hynny'n golygu ein bod ni'n wan neu fod rhywbeth o'i le arnom. Dim ond ymateb emosiynol naturiol ydyw i newid sylweddol yn ein byd personol.
Byddwch yn garedig â chi'ch hun, gadewch i chi'ch hun alaru ac yna edrychwch ymlaen at greu dyfodol newydd y gallwch chi fod yn obeithiol ac yn gyffrous yn ei gylch. Gallai fod o gymorth i chi fyfyrio ar yr adnoddau sydd gennych o’ch cwmpas, i’ch helpu gyda’r dasg hon. Gallai hyn gynnwys eich ffrindiau, eich teulu, gwarcheidwaid, gwasanaethau cymorth a gynigir gan eich prifysgol neu eich adnoddau mewnol eich hun, fel eich gallu academaidd.