Gareth Hughesyw Arweinydd Clinigol Student Space ac mae'n seicotherapydd, ymchwilydd ac awdur ar lesiant myfyrwyr, gan gynnwys y llyfr Be Well, Learn Well.
Os ydych chi'n gweld yr ail dymor yn fwy heriol na'r disgwyl, efallai y bydd cymryd rhai camau yn ei gwneud hi'n haws i ymdopi.
Mae'n eithaf cyffredin i rai myfyrwyr weld yr ail dymor yn fwy heriol na'r disgwyl.
Mae'r ail dymor yn cynnwys nifer o heriau unigryw. Gall rhai camau syml a’r cymorth cywir eu gwneud yn haws i ymdopi, neu hyd yn oed leihau’r posibilrwydd o brofi melan yr ail dymor o gwbl.
Beth yw 'melan yr ail dymor’?
Ar ôl cwblhau'r tymor cyntaf, efallai y byddwch chi’n disgwyl y byddai ymdopi â’r ail dymor yn syml. O ganlyniad i hyn, pan fydd rhai myfyrwyr yn cael problemau, gall fod yn syndod iddynt a byddant yn poeni am yr hyn y mae’n ei olygu.
Gall fod yn hawdd dechrau meddwl - a oes rhywbeth o'i le arnaf i? Onid ydw i'n gallu gwneud hyn? Onid yw'r brifysgol yn addas i mi?
Mewn gwirionedd, mae 'melan yr ail dymor' (fel y'u gelwir) yn brofiad cyffredin ac fel arfer yn diflannu ar ôl cyfnod byr o amser.
Ffactorau sy'n achosi melan yr ail dymor a sut i ymdopi â nhw
Mae nifer o ffactorau rhyngweithiol sy'n creu'r teimladau hyn yn y lle cyntaf.
Dod yn ôl i realiti
Ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn arbennig, gall y tymor cyntaf fod yn frawychus ond mae hefyd yn gyffrous. Gall y cyffro hwnnw helpu i'ch gyrru drwodd. Ar ôl ymgartrefu yn y brifysgol, efallai nad yw’n ymddangos mor gyffrous nawr – ond mae llawer o heriau’r tymor cyntaf yn dal i fodoli..
Beth y gallwch chi ei wneud:
Gall derbyn hyn leihau’r effaith y mae’n ei chael arnoch chi fel arfer. Atgoffwch eich hun fod llawer o fyfyrwyr yn mynd trwy hyn, y bydd yn cilio a bydd eich profiadau o fod yn fyfyriwr yn eich helpu. Llwyddoch chi i ddod drwy’r tymor cyntaf – gallwch chi wneud hyn.
Gallai fod o gymorth os gallwch chi gadw’n brysur a chreu arferion a strwythurau da ar gyfer pob diwrnod. Byddwch yn rhagweithiol wrth ofalu am eich llesiant a cheisiwch gynllunio ychydig o hwyl ar gyfer pob wythnos.
Mae grwpiau cyfeillgarwch yn y brifysgol yn aml yn newid ar ddechrau a diwedd tymor. Efallai y bydd y bobl yr oeddech chi’n agos atynt yn ymbellhau, tra bod pobl eraill yn dod yn bwysicach i chi.
Efallai y byddwch chi’n teimlo nad yw’r cyfeillgarwch a chyfeillion a wnaethoch chi yn y tymor cyntaf yn teimlo cystal nawr. Neu efallai eich bod yn teimlo nad ydych chi wedi gwneud unrhyw ffrindiau eto a’ch bod yn poeni am fod yn unig.
Mae hyn yn rhan naturiol o fywyd prifysgol ond yn gallu achosi rhai pobl i deimlo’n ofidus neu’n bryderus.
Beth y gallwch chi ei wneud:
Daliwch ati i drio pethau newydd ac i greu cyfleoedd i wneud ffrindiau newydd. Nid oes ots faint wnaethoch chi neu na wnaethoch chi yn y tymor cyntaf, byddwch chi’n dal i elwa ar gwrdd â phobl newydd.
Cofiwch, oherwydd bod llawer o grwpiau cyfeillion yn newid nid ydynt mor gaeedig i bobl newydd ag y maent yn ymddangos ar yr olwg gyntaf. Fel arfer, mae pobl yn hapus i wneud ffrind newydd.
Beth am ymuno â rhai o gymdeithasau Undeb y Myfyrwyr neu wahodd cyd-fyfyriwr am goffi?
Efallai nad ydych chi’n gwneud cystal yn academaidd ag yr oeddech chi wedi gobeithio, neu efallai eich bod yn poeni am asesiadau academaidd neu fodiwlau yn y dyfodol.
Efallai eich bod hefyd wedi gweld dysgu cyfunol yn fwy o her nag yr oeddech chi’n ei ddisgwyl.
Wrth i chi symud ymlaen i dymor newydd, gall hyn deimlo'n fwy o bwys - yn enwedig os ydych chi yn eich blwyddyn olaf.
Beth y gallwch chi ei wneud:
Os ydych chi’n pryderu am eich perfformiad academaidd, defnyddiwch y cymorth sydd ar gael i chi yn eich prifysgol. Gall y cymorth hwn fod yn diwtor personol neu academaidd, yn gynghorydd sgiliau astudio neu'n fentor.
Gall diffyg golau haul a'r tywydd oer gael effaith wirioneddol ar eich hwyliau. Rydym yn rhan o’r byd naturiol ac mae golau’r haul yn ein helpu i gynnal iechyd meddwl ac iechyd corfforol.
Beth y gallwch chi ei wneud
Ceisiwch fynd allan yng ngolau'r dydd am 20-30 munud bron bob dydd, hyd yn oed os yw'n ddiflas tu allan. Gall gwneud ymarfer corff yn yr awyr agored hefyd helpu i roi hwb i’ch hwyliau - gall hyd yn oed cerdded yn gyflym wella sut rydych chi’n teimlo.