Canllaw terminoleg traws
Geirfa termau trawsryweddol ac anneuaidd (a thermau i'w hosgoi) er budd pobl draws sy'n newydd i'r gymuned a staff/myfyrwyr sydd am gefnogi cyfoedion traws.
Gall pobl ddefnyddio’r term ‘traws’ i ddisgrifio eu hunain os nad yw eu hymdeimlad eu hunain o rywedd (eu hunaniaeth rhywedd) yn cyd-fynd yn hawdd â’r rhywedd y tybiwyd iddynt, ar sail y rhyw a bennwyd iddynt adeg eu geni. NODER: Er nad yw pawb sydd â’r profiad hwn yn defnyddio’r term ‘traws’ i ddisgrifio eu hunain, mae’n debyg mai dyma’r term un gair ehangaf a mwyaf cyffredin sy’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd. O’r herwydd, mae’r eirfa hon yn defnyddio’r term ‘traws’ fel term ymbarél un gair eang iawn i gynnwys dynion traws, menywod traws, pobl anneuaidd, pobl ryweddhylifol, pobl ddirywedd ac unrhyw un arall sydd â phrofiad o rywedd sy’n debyg neu rywbeth yn debyg i'r uchod.
Un o nifer o dermau y gallai pobl eu defnyddio i ddisgrifio’r profiad o fod â rhywedd nad yw’n wrywaidd nac yn fenywaidd, yn wrywaidd ac yn fenywaidd a/neu rhwng y categorïau deuaidd o ddyn a menyw, y tu hwnt iddynt, neu heb fod yn gysylltiedig â nhw. Mae rhai pobl yn ei ddefnyddio fel term ymbarél, sy'n cwmpasu sbectrwm o brofiadau fel y rhai a ddisgrifir o dan ‘rhyweddhylifol’ a ‘dirywedd’.
Un o nifer o dermau y gallai pobl eu defnyddio i ddisgrifio'r profiad o fod â rhywedd sy'n amrywio. Gall hyn fod yn amrywio dros amser, neu mewn ffordd arall, er enghraifft yn ôl amgylcheddau / lleoliadau gwahanol.
Un o nifer o dermau y gallai pobl eu defnyddio i ddisgrifio’r profiad o fod heb rywedd (neu ychydig iawn o rywedd).
Yn archwilio eich rhywedd gyda’r nod o’i ddeall yn well.
Y term a ddefnyddir fel arfer i gyfeirio at nodweddion biolegol a chorfforol unigolyn, sy’n gysylltiedig â’r categorïau gwryw a benyw. Mae'n cynnwys organau cenhedlu allanol, organau atgenhedlu mewnol, cromosomau, hormonau a nodweddion rhyw eilaidd fel blew ar yr wyneb sydd fel arfer yn datblygu o gwmpas y glasoed. Mae rhyw yn cael ei bennu adeg geni, fel arfer ar sail ymddangosiad organau cenhedlu'r babi yn unig. NODER: Mewn llawer o amgylchiadau, megis ar ffurflenni cofrestru ac mewn perthynas â mannau un rhyw, mae rhyw yn aml yn cael ei ddefnyddio’n gyfnewidiol â rhywedd gan fod y ddau wedi’u cydblethu a chan nad ydynt yn gallu cael eu profi yn annibynnol ar ei gilydd. Nid oes gan rai ieithoedd eiriau ar wahân ar gyfer rhyw a rhywedd a gallant ddefnyddio termau fel ‘rhyw byw’, ‘rhyw corfforol’, ‘rhyw cyfreithlon’ i drafod gwahanol agweddau ar ryw / rhywedd.
Term eang ei gwmpas a ddefnyddir i ddisgrifio sawl agwedd wahanol ond croestoriadol sydd yn bennaf yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol ac yn ymddygiadol. Mae rhywedd fel cysyniad yn cyfeirio at y syniadau cymdeithasol a diwylliannol sydd gennym am wrywdod a benyweidd-dra, a’r hyn y mae’n ei olygu i ‘fod yn ddyn’ neu i ‘fod yn fenyw’. Mae’r syniadau hyn yn amrywio dros amser, ar draws lleoliad ac ar draws diwylliannau, ac felly cânt eu disgrifio’n aml fel rhai ‘wedi’u llunio’n ddiwylliannol’. Er y gellir ei lunio, mae rhywedd yn bwerus ac yn real. Mae rhywedd yn effeithio ar bron pob agwedd o'r byd yr ydym yn byw ynddo, gan gynnwys nwyddau, gwasanaethau, mannau, arferion, cyfreithiau ac iaith. Pan ddaw'r syniadau hyn am rywedd yn anhyblyg ac yn ddi-droi, fe'u gelwir yn aml yn stereoteipiau rhywedd. Dyma’r rolau, diddordebau, priodoleddau ac ymddygiadau nodweddiadol a ddisgwylir wrth unigolyn yn seiliedig ar ganfyddiad pobl eraill o ryw a/neu rywedd yr unigolyn hwnnw. Mae stereoteipiau’n aml yn gorfodi neu’n cyfyngu ar fywyd unigolyn, gan gau cyfleoedd a hunanfynegiant i lawr ac achosi niwed.
Yn cyfeirio at ymdeimlad mewnol a dwfn unigolyn ohono'i hun fel, er enghraifft, dyn neu fenyw neu unigolyn anneuaidd.
Mae hyn yn cyfeirio at y negeseuon ac ymddygiadau diwylliannol y mae unigolyn yn eu defnyddio sy'n gysylltiedig â rhywedd, a gysylltir yn draddodiadol â gwrywdod a benyweidd-dra, megis enw, rhagenw, teitl, dillad, gwallt, cerddediad, lleferydd, ystumiau ac unrhyw agweddau eraill ar gyflwyniad sy'n seiliedig ar rywedd. Gall hefyd ymestyn i ba fannau rhywedd y mae unigolion yn eu defnyddio (fel toiledau) a’r dynodwr rhywedd sydd ganddynt ar ddogfennaeth (fel pasbort a thrwydded yrru). Mae’r holl agweddau hyn ar rywedd yn croestorri ac nid ydynt yn gallu cael eu profi yn annibynnol ar ei gilydd, ac nid yw rhywedd yn gallu cael ei brofi yn annibynnol ar ymgorfforiad corfforol ychwaith.
Y newidiadau y mae unigolion traws yn eu gwneud i gadarnhau eu hunaniaeth rhywedd ac i fyw eu bywydau mewn ffordd sy'n cyd-fynd yn well â'r hunaniaeth honno. Gall y newidiadau hyn fod fel a ganlyn: Cymdeithasol (e.e. newid eu henw a/neu eu rhagenw; newid agweddau ar eu cyflwyniad fel eu dillad, gwallt, ystumiau ac ati; newid y dynodwr rhywedd ar eu dogfennau fel pasbortau; newid pa doiledau maen nhw’n eu defnyddio). Emosiynol (e.e. addasu i’r byd yn ymateb yn wahanol iddynt oherwydd y newid yn y ffordd y canfyddir eu rhywedd; dysgu sut i lywio sefyllfaoedd a mannau newydd neu anghyfarwydd). Meddygol (e.e. defnyddio hormonau a/neu lawdriniaeth). Cyfreithiol (e.e. newid rhywedd yn gyfreithlon). NODER: Mae rhai pobl draws yn trawsnewid yn gymdeithasol ac nid ydynt yn ceisio cymorth meddygol. O'r rhai sy'n defnyddio cymorth meddygol, nid yw pawb yn manteisio ar bob opsiwn, a gall pobl ddefnyddio cymorth meddygol mewn gwahanol ffyrdd. Nid yw pob unigolyn traws yn trawsnewid.
Un o nifer o dermau y gallai pobl eu defnyddio i ddisgrifio’r profiad o gael rhywedd sy’n cyfateb i’r rhyw a bennwyd iddynt adeg eu geni yn y ffordd arferol ddisgwyliedig. Mewn geiriau eraill, dyn a bennwyd yn wryw adeg ei eni, neu fenyw a bennwyd yn fenyw adeg ei geni.
NODER: Mae'n bwysig cael term i ddisgrifio'r profiad bywyd hwn, oherwydd fel arall gall y normau sy'n gysylltiedig ag ef fod yn anweledig, a gellir cymryd y breintiau sy'n gysylltiedig ag ef yn ganiataol.
Un o nifer o dermau y gallai pobl eu defnyddio i ddisgrifio’r profiad o gael eu geni â nodweddion rhyw (gan gynnwys organau cenhedlu, organau atgenhedlu a/neu batrymau cromosom) sy’n amrywio o’r rhagdybiaethau deuaidd nodweddiadol am gyrff gwrywaidd neu fenywaidd. Mae'n derm ymbarél sy'n cwmpasu ystod eang o amrywiadau corfforol naturiol.
NODER: Yn aml nid yw amrywiadau rhyngryw yn cael eu sylwi nac yn amlwg adeg geni oherwydd y cyfan yr edrychir arno fel arfer yw a ydyw organau cenhedlu allanol unigolyn yn edrych, yn fras, fel yr hyn a ddisgwylir yn gyffredinol. Gall amrywiadau rhyngryw ddod i’r amlwg yn ddiweddarach mewn bywyd, e.e. yn y glasoed os nad yw datblygiad rhywiol eilaidd yn digwydd yn ôl y disgwyl; yn ystod ymchwiliadau ffrwythlondeb; neu'n ddamweiniol yn ystod llawdriniaeth anghysylltiedig neu ymchwiliadau eraill. Bydd rhai pobl yn treulio eu bywydau cyfan heb wybod bod ganddynt amrywiad rhyngryw. Mae'r term rhyngryw a’r term traws yn cyfeirio at ddau brofiad bywyd gwahanol, er y gall rhai pobl fod â phrofiad croestoriadol o’r ddau.
Gair sy'n cynrychioli enw er mwyn osgoi ailadrodd cyson o'r enw hwnnw, e.e. Fel arfer, dywedir 'Aeth John â'i bêl gydag ef i'r parc - mae e’ wrth ei fodd yn chwarae dal pêl’, yn hytrach na 'Aeth John â phêl John gyda John i'r parc - mae John wrth ei fodd yn chwarae dal pêl’. Yn Gymraeg, mae rhagenwau yn ‘y trydydd person’ yn cael eu cysylltu’n gyffredin â rhywedd (‘ef’, ‘hi’), a rhagenwau yn ‘y person cyntaf’ (‘Fi’) ac yn ‘yr ail berson’ (‘ti’ neu ‘chi’) yn niwtral o ran rhywedd. Mae ‘nhw’ unigol yn enghraifft o ddewis amgen niwtral o ran rhywedd yn y trydydd person.
Nodiadau eraill am iaith
Rydym yn gweld y termau ‘rhywedd-amrywiol’ a ‘hunaniaeth rhywedd’ yn cael eu defnyddio fwyfwy pan fo rhywun yn golygu ‘traws’. Gall hyn gynnwys, er enghraifft, polisïau o’r enw ‘Polisi Hunaniaeth Rhywedd’ yn lle ‘Polisi Cynhwysiant Traws ac Anneuaidd’, neu rai sy’n sôn am ‘bobl sy’n rhywedd-amrywiol’ yn lle ‘pobl draws’. Er bod defnydd eang o’r termau hyn yn y modd hwn, ac yn wir mae Gendered Intelligence ei hun (ac weithiau’n dal i fod) yn defnyddio ‘rhywedd-amrywiol’ yn y modd hwn, rydym yn cydnabod fwyfwy y gall fod yn gamarweiniol.
Mae gan bawb ymdeimlad o rywedd (hunaniaeth rhywedd), yn cynnwys pobl gisryweddol, ac mae’r ymdeimladau hyn o’r hunan yn digwydd mewn sawl ffordd, sydd hefyd yn gallu bod yn rhai cymhleth. Fodd bynnag, nid yw polisïau a elwir yn ‘bolisïau hunaniaeth rhywedd’ fel arfer yn cwmpasu profiadau cisryweddol – maent fel arfer yn ymwneud â phrofiadau traws. Mae defnyddio ‘hunaniaeth rhywedd’ i gynrychioli ‘bod yn draws’ yn awgrymu mai dim ond pobl draws sydd â hunaniaeth rhywedd. Gall hyn arwain pobl i wahaniaethu rhwng hunaniaethau traws a chis mewn ffyrdd sydd weithiau’n creu hierarchaeth, e.e. “Mae’r unigolyn hwn yn ‘uniaethu fel’ menyw, ond menyw ydw i.”
Mae 'amrywiol' yn golygu 'llawer' / 'amrywiaeth o' / 'llawer o wahanol (eitemau, ffyrdd)', felly mae'n disgrifio poblogaeth, neu gasgliad. Felly nid yw’n gweithio'n iawn wrth ddisgrifio unigolyn (yn hytrach na grŵp o unigolion) fel un sydd yn ‘rhywedd-amrywiol’. Er y gall rhai unigolion brofi llawer o ryweddau, nid yw hynny’n wir am y rhan fwyaf.
Gallai defnyddio’r term yn y modd hwn greu’r argraff yn anfwriadol bod gan bob unigolyn traws sawl rhywedd, rhyweddau cyfnewidiol, neu eu bod yn dewis eu rhywedd. Er mwyn i’r ymadrodd wneud synnwyr, byddai angen inni ddweud, er enghraifft, ‘rhywedd dargyfeiriol’ neu ‘gwahanol o ran rhywedd’. Fodd bynnag, nid yw’r iaith hon yn teimlo’n gynhwysol iawn – mae’n eithaf ‘gwahaniaethol’. Mae’n ysgogi’r cwestiwn ‘dargyfeiriol neu wahanol i beth?’, ac wrth gwrs mae’r ateb yn dargyfeirio o’r disgwyliadau a normau diwylliannol.
Mae pobl draws yn tueddu i brofi anawsterau yn union oherwydd eu bod yn dargyfeirio o’r normau diwylliannol hynny, felly mae'n bwysig cofio amdanynt. Gan fod 'amrywiol' yn teimlo'n fwy cynhwysol, mae wedi dod yn air llednais, ac fel llawer o eiriau llednais, mae perygl iddo fwrw rhywbeth pwysig i’r cysgod. Os defnyddir ‘amrywiol’ i olygu ‘ffyrdd anghisryweddol o brofi rhywedd’, mae hyn yn gosod profiadau cisrywedd fel y norm anweledig nas crybwyllir y tu allan i’r sbectrwm amrywiaeth, yn hytrach na’i gynnwys lle gellir eu cydnabod fel rhai o’r ffyrdd niferus llawn mor ddilys o brofi rhywedd. Gellir disgrifio'r sbectrwm hwn fel 'amrywiaeth o ran rhywedd'.
Mae hwn yn derm da i ddangos yr holl ffyrdd y gallai pobl brofi / mynegi rhywedd, gan gynnwys profiadau cis. Mae'n disgrifio 'cwmwl o bosibiliadau'. Mae hyn yn ddefnyddiol iawn pan fyddwn yn siarad am gynnwys pawb, a ddylai fod yn fan cychwyn ar gyfer pob math o waith cynhwysiant.