Mae ymchwil wedi dangos bod myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn wynebu heriau penodol i'w llesiant – o'r amgylchedd ymchwil, i gyfnodau pontio rhwng camau, arbrofion yn cynhyrchu canlyniadau annisgwyl, a'r berthynas â'ch goruchwyliwr, mae llawer o elfennau unigryw i'ch taith.
Myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig – gofalu am eich llesiant
Os ydych yn fyfyriwr ymchwil ôl-raddedig, gallech fod yn wynebu heriau penodol o ran eich llesiant. Efallai y bydd ein hadnoddau wedi'u teilwra'n arbennig o gymorth.
The Wellbeing Thesis
Mae Student Minds yn rhedeg gwefan yn benodol ar gyfer myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig o'r enw The Wellbeing Thesis. Cafodd ei chreu ar y cyd gan arbenigwyr clinigol ac ymchwil sy'n gweithio gyda myfyrwyr doethurol yn y DU.
Gallwch ddod o hyd i amrywiaeth o ganllawiau ysgrifenedig, fideos gan fyfyrwyr, arbenigwyr a goruchwylwyr, animeiddiadau ac offer i'ch helpu i gynnal eich llesiant a chwblhau eich ymchwil.
Mae’r pynciau’n cynnwys y canlynol:
Mae cadw fy nghymhelliant i wneud doethuriaeth yn eithaf anodd – mae'n anodd oherwydd, yn aml iawn, mai chi yw'r un sy'n gorfod ysgogi eich hun, rydych chi'n gwneud gwaith hunangyfeiriedig. Y peth sy'n fy helpu i gadw fy nghymhelliant yw meddwl pam a meddwl am yr hyn a wnaeth i mi fod eisiau gwneud doethuriaeth yn y lle cyntaf, am yr effaith bosibl y mae'r cynnyrch gorffenedig yn mynd i'w chael.