Leave this site now

Mynd i'r afael â gwrthdaro yn llwyddiannus

Mae Rupinder Mahil yn seicotherapydd a chyfryngwr achrededig sy'n gweithio ym Mhrifysgol Derby. Mae'n arbenigo mewn helpu pobl i weithio gyda gwrthdaro a'i ddatrys.

Gall trafod gwrthdaro fod yn haws i bawb os ydych chi'n cofio'r syniadau allweddol hyn.

Technegau i gyfathrebu'n glir ac yn deg

1. Canolbwyntio ar yr ymddygiad, nid y person

Os ydych chi'n beirniadu person am rywbeth, mae’n gallu swnio fel bod methiant parhaol ganddynt.

Yn lle hynny, os ydych chi'n canolbwyntio ar yr hyn y mae person yn ei wneud, yn dod ag ef i'w sylw, yn disgrifio sut mae'n effeithio arnoch chi, neu'n gofyn iddo ei newid, rydych chi'n rhoi cyfle i'r person hwnnw wneud newid adeiladol heb deimlo ei fod yn cael ei feirniadu.

2. Defnyddio datganiadau ‘dw i’

Gall datganiadau ‘dw i’ helpu i gyfleu'n gliriach yr hyn rydych chi'n ei deimlo heb feio na beirniadu eraill, ac mae hynny’n eu golygu eu bod yn fwy pendant. Er enghraifft:

‘Dw i'n teimlo'n flin pan fyddwch chi'n gwneud hynny’ o gymharu â ‘Rwyt ti'n fy ngwneud i'n flin’

‘Dw i'n teimlo'n rhwystredig pan fyddwch chi'n gweiddi’ o gymharu â ‘Rwyt ti bob amser yn gweiddi’

Cofiwch, yn gyffredinol, fod pobl yn clywed y geiriau ‘bob amser’ a ‘byth’ fel petaent yn feirniadaethau yn erbyn y person, yn hytrach na cheisiadau i newid ymddygiad penodol.

3. Y dilyniant pedwar cam i bendantrwydd

Pan fyddwch am wynebu ymddygiad penodol, rhowch gynnig ar y camau canlynol:

Disgrifiwch yr ymddygiad: ‘Pan rwyt ti'n ... (e.e. ‘cerdded i ffwrdd’)’

Mynegwch eich ymateb: ‘Dw i'n teimlo neu'n meddwl … (‘siom / ein bod yn colli cyfle’)’

Nodwch beth ydych chi eisiau ‘Hoffwn i … (‘petawn ni’n aros yn yr ystafell’)’

Nodwch pam (y canlyniad): ‘Fel … (‘y gallwn ni ddatrys pethau’)’

Aros yn ddigynnwrf ac adeiladol

1. Ceisio aros yn ddigynnwrf, cymaint â phosibl

Defnyddiwch y technegau a nodwyd gennych sy'n ddefnyddiol i chi cyn, ac yn ystod y sgwrs. Cytunwch ar ddechrau'r sgwrs bod caniatâd i’r naill neu'r llall ohonoch oedi'r drafodaeth os bydd angen ichi wneud hynny. Cytunwch ar bwyntiau ynglŷn â sut y bydd y sgwrs yn digwydd.

2. Cynnig tawelwch meddwl dieiriau

Ystyriwch sut yr ydych yn mynd ati i drafod o ran eich geiriau a’ch ystumiau er mwyn sicrhau bod yr hyn sy'n bwysig yn cael ei drafod yn agored ac yn deg. Neilltuwch ddigon o amser ar gyfer y sgwrs gan ystyried pa mor gyflym mae pobl wahanol yn cyfathrebu.

3. Annog siarad

Peidiwch â thorri ar draws a rhowch eich sylw i’r sawl arall. Rhowch ddarlun mor gyflawn â phosib i'ch gilydd.

Mae hyn yn eich symud o safle o farnu a gwerthuso eich gilydd i geisio cydymdeimlo a deall safbwynt eich gilydd. Efallai y byddwch chi'n dysgu pethau annisgwyl am eich gilydd a all eich helpu i ddod i gytundebau rydych chi i gyd yn gyfforddus â nhw.

4. Dangos dealltwriaeth

Dangoswch i'r person eich bod wedi clywed yr hyn a ddywedodd a chydnabod beth mae'n ei deimlo. Ceisiwch beidio â rhoi bai, tawelu meddwl y person, a chanolbwyntio ar y posibilrwydd o wella pethau wrth symud ymlaen.

Cytuno i symud ymlaen

1. Ymrwymo i ddod o hyd i ateb

Pwysleisiwch eich parodrwydd i fynd i'r afael â'r materion a chydnabod pwysigrwydd y materion y mae'r person yn eu codi. Tynnwch sylw at fanteision datrys pethau a hefyd ystyriwch beth fyddai'n digwydd os na wnewch chi hynny.

2. Bod yn realistig

Ystyriwch bob awgrym i wella pethau ac adolygwch a yw hyn yn wirioneddol addas ac yn bosibl. Os yw'r person arall yn gwrthwynebu eich awgrymiadau, gofynnwch iddynt pam.

Byddwch yn eu deall yn well ac yn creu awgrymiadau newydd sy'n mynd i'r afael â'u hanghenion ychydig yn well. Ceisiwch osgoi gorfodi eraill i gytuno i wneud rhywbeth ac osgoi cytuno i rywbeth nad ydych yn fodlon ymrwymo iddo.

3. Bod yn glir

Wrth gytuno ar ffordd ymlaen byddwch yn glir, yn benodol ac yn realistig er mwyn osgoi unrhyw ddryswch. Nodwch bwy fydd yn gwneud beth. Dylech gynnwys amserlenni ar gyfer pob cam gweithredu er mwyn sicrhau bod pobl yn ymwybodol o bryd mae newidiadau yn dechrau. Neilltuwch amser i chi’ch hunain fyfyrio arnynt os oes angen.

4. Rhoi cyfnod prawf i chi'ch hunain

Gall rhoi eich cytundebau ar waith ddatgelu bod rhai ohonynt yn gweithio'n dda iawn ac efallai y bydd angen addasu neu newid eraill yn llwyr. Mae hyn yn gwbl normal ac nid yw'n golygu bod y sgwrs gychwynnol wedi methu. Gall cytuno pryd a sut y gallwch fynd at eich gilydd, er mwyn trafod sut mae pethau'n gweithio, helpu i gadw pethau i symud yn eu blaen.

Os oes angen mwy o gefnogaeth arnoch

Mae cymorth ar gael yn y rhan fwyaf o brifysgolion os oes angen help arnoch naill ai i baratoi eich hun ar gyfer sgyrsiau neu os ydych wedi ceisio datrys gwahaniaethau ond wedi methu dod i gytundeb.

Gall siarad â rhywun nad yw'n gysylltiedig â'r gwrthdaro, a all drin pob un ohonoch mewn ffordd deg a chyfartal, cadw'ch gwybodaeth yn gyfrinachol, a’ch helpu i ddatrys y sefyllfa fod yn fanteisiol i bob parti dan sylw.

Adolygwyd ddiwethaf: Hydref 2022