Newidiadau cymdeithasol yn nhymor yr haf

Gareth Hughes

Gareth Hughes yw Arweinydd Clinigol Student Space ac mae'n seicotherapydd, ymchwilydd ac awdur ar lesiant myfyrwyr, gan gynnwys y llyfr Be Well, Learn Well.

Efallai y bydd eich bywyd cymdeithasol yn teimlo'n wahanol iawn yn ystod gwyliau'r haf ac efallai y byddwch yn methu eich ffrindiau a'r gweithgareddau cymdeithasol rydych yn eu gwneud fel arfer yn ystod y tymor prifysgol. P’un a ydych yn aros yn agos at y brifysgol neu’n mynd yn ôl i gartref teuluol, gallai fod yn ddefnyddiol i chi gynllunio ar gyfer yr egwyl er mwyn i chi deimlo’n fwy cysylltiedig ac i edrych ar ôl eich lles.

Fel arfer, mae tymor yr haf yn arwain at newid sylweddol ym mywyd cymdeithasol myfyrwyr. Os ydych yn mynd yn ôl adref, byddwch i ffwrdd oddi wrth eich ffrindiau, mannau cymdeithasol a gweithgareddau. Os ydych yn aros yn agos at y brifysgol, efallai y gwelwch fod llai o bobl o gwmpas, bod llawer o'ch gweithgareddau'n dod i ben am yr haf ac efallai y bydd rhai lleoedd hyd yn oed yn cau nes bod y tymor yn ail-ddechrau eto.

Gall y newid hwn roi rhywfaint o amser segur y mae mawr ei angen i chi; cyfle i gael eich nerth yn ôl a chynyddu eich arian os gallwch weithio. Fodd bynnag, efallai y bydd y newid yn ansefydlog i chi. Efallai y bydd cael llai i'w wneud a llai o bobl i dreulio amser gyda nhw yn teimlo'n llai cyffrous neu ddiddorol. Efallai y byddwch wedi diflasu ac yn unig, neu'n sylwi, hyd yn oed, bod eich hwyliau'n pylu o ganlyniad.

Mae yna ychydig o resymau pam y gallech deimlo fel hyn, gan gynnwys:

Trefn arferol a strwythur

Pan oeddech yn y brifysgol, efallai y byddwch chi a'ch ffrindiau wedi datblygu trefn arferol a strwythur a oedd yn eich helpu i gadw'n egnïol ac mewn cysylltiad ag eraill. Gall tymor yr haf atal y drefn arferol a'r strwythurau hynny rhag gweithio cystal. Gall hyn ynddo'i hun effeithio ar ein hwyliau, gan ein bod yn teimlo'n well, yn gyffredinol, pan fydd gennym strwythur rheolaidd i'n dyddiau a'n hwythnosau.

Llai o gyfleoedd cymdeithasol

Gall tymor yr haf olygu bod gennych lai o gyfleoedd i gymdeithasu. Gall hyn olygu bod eich amser yn llai diddorol i chi neu eich bod yn teimlo llai o gysylltiad ag eraill.

Pellter cymdeithasol

Gall cael llai o bobl o gwmpas, neu fod i ffwrdd oddi wrth eich ffrindiau, wneud i chi deimlo'n fwy ynysig neu ymhell o'ch rhwydwaith cymdeithasol arferol. Efallai y byddwch yn methu eich ffrindiau a’ch bod eisiau eu gweld. Efallai y byddwch yn teimlo eich bod ar eich pen eich hun yn fwy, neu fod gennych lai o bobl o gwmpas sy'n eich deall, neu sy'n rhannu eich diddordebau a'ch profiadau.

Cymharu

Os ydych chi a'ch ffrindiau'n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, efallai y byddwch yn cymharu'ch profiad haf chi a'u profiad nhw. Os yw'n ymddangos eu bod yn cael mwy o hwyl, neu eu bod yn treulio mwy o amser gyda'ch ffrindiau cyffredin, efallai y byddwch yn teimlo eich bod yn methu rhywbeth neu'n ystyried eich haf eich hun mewn ffordd fwy negyddol.

Unigrwydd

Mae unigrwydd yn brofiad cyffredin rydym i gyd yn ei brofi o bryd i'w gilydd. Fodd bynnag, os byddwn yn ei brofi dros gyfnod hwy o amser gall pylu ein hwyliau a'n lles corfforol.

Awgrymiadau ar gyfer rheoli newidiadau cymdeithasol yn yr haf

Cynlluniwch strwythur

Efallai y byddwch am gael wythnos neu ddwy ar ddechrau'r tymor i ymlacio a dadflino. Gall hyn fod yn braf, am ychydig, ond ceisiwch beidio â gadael iddo barhau am yr haf cyfan. Yn lle hynny, meddyliwch am greu strwythur a threfn arferol a all eich cadw'n egnïol, yn brysur ac wedi'ch diddanu. Os gallwch weithio, gall hyn roi rhywfaint o strwythur, ond meddyliwch sut yr hoffech dreulio'r amser tu allan i waith. Gall cymysgedd o weithgareddau fod yn ddefnyddiol – meddyliwch am bethau corfforol, meddyliol a chymdeithasol a all eich cadw'n brysur.

Cadwch mewn cysylltiad

Cynlluniwch i gadw mewn cysylltiad â'ch ffrindiau ac, os yn bosibl, cysylltu â nhw ar-lein. Gall hyn eich helpu i deimlo bod mwy o gysylltiad rhyngoch â'ch bod yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd ym mywydau eich gilydd. Cofiwch y gall eu strwythur haf nhw fod yn wahanol i'ch un chi. Felly, efallai y bydd angen rhywfaint o ymdrech i ddod at eich gilydd. Ond, gall rhoi gwybod iddynt eich bod yn eu methu ac yn meddwl amdanynt fod yn ffordd dda o adeiladu ar eich cysylltiadau a meithrin agosatrwydd; hyd yn oed os na allwch fod yno gyda'ch gilydd wyneb yn wyneb.

Defnyddiwch y cyfleoedd cymdeithasol sydd gennych

Os ydych o gwmpas eich teulu, neu rai o'ch ffrindiau, efallai y bydd yr haf yn gyfle i dreulio mwy o amser gydag ychydig o bobl gan ddyfnhau'r perthnasoedd hyn o bosibl. Efallai y bydd cyfleoedd eraill hefyd i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol yn eich ardal leol, yn dibynnu ar eich diddordebau a'ch hobïau. Efallai y byddwch yn mwynhau gwirfoddoli, clybiau chwaraeon lleol, clybiau celf, gweithgareddau gwleidyddol neu fannau cymdeithasol eraill.

Er, efallai eich bod fel fi, wedi colli cysylltiad â hen ffrindiau ers dechrau yn y brifysgol, byddwn yn cynghori ei bod yn bwysig ailgysylltu â nhw. Nid yn unig y bydd hyn yn eich helpu i ddianc rhag unigrwydd posibl, bydd hefyd yn dangos i'ch ffrindiau eich bod yn dal i'w gwerthfawrogi ac yn dymuno cadw mewn cysylltiad â nhw. Gallai hyn fod o fudd i’r ddwy ochr, oherwydd efallai y bydd rhai o’ch ffrindiau eraill adref yn profi’r un teimladau o unigrwydd o bosibl. Peidiwch byth â bod ofn negeseuo pobl, hyd yn oed os nad ydych wedi bod mewn cysylltiad â nhw ers tro.

Nodwch beth sy'n dda am wyliau'r haf

Er ei bod yn bosibl bod yr haf wedi amharu ar eich profiad yn y brifysgol, gallai fod yn gyfle i wneud pethau da. Bydd hyn yn wahanol i bob unigolyn, felly meddyliwch am yr hyn yr hoffech ei wneud fwyaf gyda'ch amser o ystyried eich amgylchiadau. Ydy hwn yn gyfle i orffwys? Neu i ailgysylltu â hen ffrindiau a theulu? Neu i dreulio mwy o amser yn ymarfer hobi neu sgìl? Neu i ddechrau astudio ar gyfer y flwyddyn nesaf? Neu i ofalu am eich iechyd yn fwy? Ymrowch i beth bynnag sy'n dda i chi.

Byddwch yn ymwybodol o'ch meddyliau eich hun

Mae cymharu ein hunain ag eraill yn aml yn dda i ddim – nid yw'n newid unrhyw beth a gall pylu ein hwyliau. Cofiwch, pan fyddwn yn cymharu ein hunain, rydym fel arfer yn cymharu â fersiwn wedi'i olygu o fywyd yr unigolyn arall – nad yw'n cynnwys eu holl gamgymeriadau, dadleuon, gofidiau ac agweddau diflas. Canolbwyntiwch ar yr hyn yr ydych chi ei eisiau ac y gallwch ei gymryd o'r egwyl.

Cofiwch na fydd hyn yn para'n hir

Gall gwyliau'r haf ymddangos yn hir os nad ydych chi'n eu mwynhau, ond maent yn dod i ben mewn ychydig wythnosau yn unig. Atgoffwch eich hun o hyn os nad ydych yn mwynhau eich amser ac edrychwch ymlaen at ddychwelyd i'r brifysgol.

Nid yw cefnogaeth yn diflannu

Os ydych yn cael anhawster, mae'r rhan fwyaf o wasanaethau cymorth y brifysgol yn parhau i weithredu yn ystod yr haf a bydd llawer yn fodlon eich gweld ar-lein neu siarad dros y ffôn.

Adolygwyd ddiwethaf: Mehefin 2024