Gareth Hughesyw Arweinydd Clinigol Student Space ac mae'n seicotherapydd, ymchwilydd ac awdur ar lesiant myfyrwyr, gan gynnwys y llyfr Be Well, Learn Well.
Mae'n anochel y bydd eich perthynas â'ch ffrindiau prifysgol yn newid ar ôl i'ch cyfnod yn y brifysgol ddod i ben. Ond nid yw hynny'n golygu na fyddwch chi'n dal i fod yn ffrindiau da.
Mae yna nifer o resymau pam y gallai hyn fod yn wir:
Efallai y byddwch chi a/neu eich ffrindiau yn symud i ffwrdd i nifer o ardaloedd daearyddol gwahanol. Efallai y bydd rhai hyd yn oed yn symud i wledydd eraill. Yn syml, bydd peidio â bod o gwmpas eich gilydd drwy'r amser yn newid y ffordd rydych chi'n uniaethu ac yn rhyngweithio â'ch gilydd.
Yn rhannol, bydd eich perthnasoedd wedi bodoli o fewn rhythm a strwythur bywyd myfyriwr. Bydd y ffaith nad ydych chi bellach yn fyfyrwyr yn newid y ffordd y mae eich arferion o ddydd i ddydd yn gweithio, ac yn newid y mathau o bethau rydych chi'n eu gwneud ac yn meddwl amdanyn nhw bob dydd. Bydd yn rhaid i'ch cyfeillgarwch addasu i'r newidiadau hyn.
Ni fyddwch bellach yn rhannu’r un profiad o fod yn fyfyrwyr – hyd yn oed os oeddech ar wahanol gyrsiau, byddwch wedi bod yn dysgu, yn gweithio i derfynau amser aseiniadau, yn mynychu’r un undeb myfyrwyr ac yn rhannu’r un diwylliant dysgu o hyd. Bydd colli'r profiad cyffredin, parhaus hwn yn newid natur a chynnwys eich sgyrsiau.
Fel rhan o hyn, byddwch chi i gyd yn datblygu diddordebau newydd ac yn cael profiadau newydd ar wahân i'ch ffrindiau prifysgol. Bydd dod o hyd i ffyrdd o rannu profiadau newydd eich gilydd yn rhan bwysig o gryfhau a datblygu eich cyfeillgarwch.
Oherwydd y newidiadau hyn, gall rhai myfyrwyr ganfod bod eu cyfeillgarwch yn diflannu ar ôl y brifysgol, wrth iddynt deimlo'n llai a llai cysylltiedig yn raddol. Ond nid oes rhaid i hyn fod yn wir. Mae angen gwaith a meddwl ar bob perthynas, o bob math, i'w chadw i fynd. Gyda pheth ymrwymiad ar bob ochr, mae pob posibilrwydd y gall rhai cyfeillgarwch prifysgol bara ymhell y tu hwnt i raddio.
1. Gwnewch amser
Ni allwch ddibynnu ar fywyd prifysgol mwyach i’w gwneud hi'n hawdd treulio amser gyda'ch gilydd. Felly, cynlluniwch a gwarchodwch amser gyda'ch gilydd – meddyliwch am y gwahanol fathau o weithgareddau y gallech fod eisiau eu gwneud, e.e. dal i fyny dros goffi, ymlacio wrth wylio ffilm, chwaraeon neu ymarfer corff, cael hwyl. Gall amserlennu sesiynau dal i fyny rheolaidd yn eich dyddiadur ei gwneud yn haws i chi gadw mewn cysylltiad.
Os ydych chi mewn gwahanol leoliadau daearyddol, mae'r un peth yn wir – cynlluniwch sesiynau dal i fyny ar-lein yn rheolaidd a chynlluniau wyneb yn wyneb pan allwch chi.
2. Cymerwch ddiddordeb
Ceisiwch fod yn wirioneddol chwilfrydig am y rhannau o fywydau eich ffrindiau sy'n newydd ac yn wahanol – boed yn waith, hobïau neu bobl newydd. Mae eich gorffennol a rennir yn rhoi tir cyffredin i chi adeiladu arno, ond mae angen i chi hefyd ymgysylltu â bywydau eich gilydd fel y maent nawr ac fel y byddant yn y dyfodol.
3. Croesawch ffrindiau newydd
Weithiau gall fod yn annymunol pan fydd ein ffrindiau'n gwneud ffrindiau newydd. Mae'n gwbl normal teimlo ychydig o genfigen neu golled ond nid oes rhaid i chi adael i'r teimladau hynny ddominyddu. Os yw eich ffrind yn hoffi rhywun newydd, mae'n bosibl y byddwch chi hefyd – efallai y byddwch chi hyd yn oed yn gwneud ffrind newydd. Gall pwytho grwpiau cyfeillgarwch at ei gilydd helpu i gryfhau eich perthynas.
4. Gwnewch eich ffrindiau newydd eich hun
Gall ehangu eich rhwydwaith cymdeithasol gymryd pwysau i ffwrdd o'ch perthnasoedd presennol a rhoi lle iddynt anadlu. Byddwch yn agored i gyfeillgarwch newydd yn y gwaith, yn eich cymuned, o gwmpas hobïau ac ati.
5. Cofiwch beth rydych chi'n ei rannu
Bydd beth bynnag a ddaeth â chi at eich gilydd fel ffrindiau yn dal i fodoli. Gall canolbwyntio ar hynny eich helpu i ailgysylltu.
6. Rhowch ganiatâd i chi'ch hun i adael i bethau ddod i ben
Weithiau mae cyfeillgarwch yn dod i ben. Mae hyn yn iawn – bydd gennych atgofion o'ch amser gyda'ch gilydd bob amser ond, os nad yw'n gweithio mwyach, mae'n iawn symud ymlaen. Weithiau mae'n rhaid i ni symud ymlaen i greu gofod a chyfle ar gyfer cyfeillgarwch newydd sy'n gweithio yn ein bywydau fel y maent ar hyn o bryd.
Does dim rhaid i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau o’r brifysgol ar ôl graddio fod yn anodd. Yn wir, weithiau, rydych chi'n pellhau'n naturiol, ond gall cyfeillgarwch pellter hir weithio. Nid oes angen sgyrsiau dyddiol ar gyfeillgarwch cryf.