Mae bod yn arweinydd myfyrwyr yn cyflwyno heriau unigryw mewn perthynas â phrofiad myfyrwyr Du. Nid yw myfyrwyr Du yn grŵp unffurf, ac mae Michelle yn siarad am ei disgwyliadau i fod yn llefarydd, a’r pwysau sydd ynghlwm wrth ei rôl arwain. Mae'r pâr yn herio'r syniad ystrydebol o gynrychioli ‘llais myfyriwr Du unffurf’. Cefnogir y naratif hwn gan ein cyd-westeiwr, Evangel, sy'n archwilio’i phrofiadau o syndrom y ffugiwr yn y brifysgol, a sut mae hyn yn cyflwyno heriau unigryw i fyfyrwyr Du. Fodd bynnag, drwy eu sgwrs mae'r ddau yn archwilio'r ffyrdd y gall syndrom y ffugiwr rymuso arweinwyr i gyflwyno gwahanol leisiau a safbwyntiau newydd.
Safbwyntiau’r unigolion eu hunain a fynegir, nad ydynt o reidrwydd yn cynrychioli safbwyntiau Student Minds, All Things Mental Health a Colourful Minds.