Mae llawer o fyfyrwyr yn teimlo rheidrwydd i ddychwelyd adref, hyd yn oed pan nad ydyn nhw eisiau gwneud hynny. Mae'n bwysig cofio eich bod yn oedolyn a bod gennych hawl i wneud eich dewisiadau eich hun. Rhowch amser i feddwl am y canlynol:
- pam rydych chi'n bwriadu mynd adref
- oes angen i chi fynd
- pam nad ydych chi eisiau dychwelyd adref.
Meddwl drwy'r hyn fydd yn digwydd
Efallai y bydd o gymorth i chi feddwl ar gyfer pwy rydych chi'n mynd adref a phwy, os unrhyw un, y bydd yn ei helpu. Efallai y bydd hefyd yn helpu i feddwl am ganlyniadau posibl y naill ddewis neu'r llall (mynd adref ai peidio), a pha mor debygol yw'r canlyniadau hynny mewn gwirionedd.
Gall pwysau mawr fod ar fywyd myfyrwyr ac o dan yr amgylchiadau hyn gall fod yn hawdd colli rhywfaint o bersbectif. Gofynnwch i chi'ch hun - a fydd bod gartref cynddrwg ag yr ydw i’n ei feddwl? Ydi fy ofnau i'n realistig?
Ceisiwch weithio drwy'r canlyniadau mewn ffordd ddigynnwrf a bod yn onest gyda chi'ch hun ynglŷn â beth yw'r canlyniadau tebygol. Efallai y bydd yn helpu i siarad â rhywun arall am sut rydych chi'n teimlo.
Os ydych chi'n poeni am fater penodol, efallai y byddai'n ddefnyddiol trafod hyn gyda'ch teulu, cyn i chi ddychwelyd adref - os ydych chi'n teimlo bod hyn yn bosib. Weithiau, gall rhoi sylw i feysydd o wrthdaro helpu i ddatrys problemau a chryfhau eich perthnasoedd. Gallwch ddod o hyd i gyngor ar sut i ymdrin â hyn yn yr erthyglau ar wrthdaro.
Lleihau effaith y seibiant
Os ydych chi'n teimlo, ar ôl meddwl am y peth, y dylech chi ddychwelyd adref o hyd, er nad ydych chi eisiau gwneud hynny, ystyriwch a oes ffyrdd y gallwch chi leihau effaith y gwyliau arnoch chi.
Oes posib gwneud y canlynol tybed:
- mynd am gyfnod byrrach nag yr oeddech chi wedi'i gynllunio yn wreiddiol?
- rhannu'r amser pan rydych chi gartref, drwy fynd allan gyda ffrindiau neu fynd allan o'r tŷ am ychydig?
Hyd yn oed os byddwch yn penderfynu yn y pen draw bod rhaid i chi gadw at eich cynlluniau gwreiddiol, gall bod yn glir ynghylch pam eich bod yn mynd adref eich helpu i deimlo mwy o reolaeth a gall ei gwneud yn haws goroesi'r cyfnod o wyliau.
Os byddwch yn mynd adref, mae'n bwysig eich bod yn gofalu amdanoch eich hun tra rydych chi yno. Ceisiwch ddod o hyd i amser i chi'ch hun a rhoi gwobrau bach i chi'ch hun drwy’r amser. Cadwch mewn cof y rhesymau dros pam wnaethoch chi benderfynu mynd adref - efallai y byddan nhw'n helpu i'ch cymell chi.
Yn olaf cofiwch mai gwyliau byr yw gwyliau'r Nadolig - byddwch chi'n dychwelyd i'r brifysgol yn fuan iawn, yn barod i ddechrau'r tymor newydd.